Ar ôl ymgysylltu’n helaeth ag awdurdodau lleol, mae gennym restr derfynol o enwau sydd wedi’u diweddaru ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) yng Nghymru. Mae’r enwau hyn, sydd wedi eu diweddaru mewn modd reddfol, yn ddwyieithog ac yn adlewyrchu enwau’r wardiau etholiadol a’r cymunedau lleol y maent yn eu cynrychioli.
Parhau i ddarllenArchif Awdur: Chief Statistican
Diweddariad y Prif Ystadegydd: Mae StatsCymru yn newid. Beth sydd angen ichi ei wybod
Mae StatsCymru yn adnodd amhrisiadwy i ymchwilwyr, llunwyr polisi a dinasyddion ers ei sefydlu. Mae dros 280,000 o ddefnyddwyr unigryw yn defnyddio’r adnodd bob blwyddyn, ac mae’n gweithredu fel storfa gynhwysfawr o ystadegau a data ar Gymru. P’un a ydych yn ymchwilio i dueddiadau economaidd, data iechyd, ynteu i siâp ein poblogaeth, mae StatsCymru yn darparu golwg fanylach ar y sefyllfa er mwyn ichi allu deall gwahanol agweddau ar fywyd Cymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: gwella delweddu data masnach i Gymru
Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi fersiwn newydd a gwell o ein Ddangosfwrdd rhyngweithiol: Masnach nwyddau rhyngwladol, sy’n cyflwyno ystadegau masnach ranbarthol (‘Regional Trade Statistics’ – RTS) gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’n cynnwys crynodeb masnach, mapiau, siartiau a thablau masnach gyda phartneriaid a chynhyrchion, a siartiau cyfres amser.
Parhau i ddarllenDiweddariad y prif ystadegydd: dangosyddion arfaethedig ar gyfer Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 ac arolwg adborth
Cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) diwethaf ei gyhoeddi yn 2019. Fel y nodwyd yn ein blog diweddariad ar fynegai y llynedd, bydd mynegai wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026. Rydym yn anelu at ddiwedd 2025 ac ar hyn o bryd rydym yn cyfeirio at y diweddariad arfaethedig fel MALlC 2025.
Parhau i ddarllenY diweddaraf ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog cyntaf, nid yw ein gwasanaethau OData wedi bod ar gael ers diwedd mis Awst. Gwnaethon ni esbonio yn y diweddariad fis diwethaf y cynlluniau dros dro fydd yn cael eu rhoi ar waith tan y caiff gwasanaeth newydd StatsCymru ei sefydlu yn 2025.
Mae’r blog hwn yn esbonio’r trefniadau dros dro ar gyfer ffeiliau data fydd yn cymryd lle OData.
Parhau i ddarllenDiweddariad pellach ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog blaenorol, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst.
Mae’r neges hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith i ddisodli OData nes bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar waith yn 2025.
Parhau i ddarllenDiweddariad y prif ystadegydd: diweddaru enwau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) Cymru
Beth yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs)?
Ardaloedd daearyddol â maint poblogaeth tebyg yw LSOAs a ddefnyddir i lunio adroddiadau am ystadegau ardaloedd bach. Mae 1,917 o LSOAs yng Nghymru. Mae pob LSOA yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd a phoblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.
Parhau i ddarllenDiweddariad pwysig ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru
Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst. Mae hyn oherwydd y bydd Microsoft yn rhoi’r gorau i gefnogi’r dechnoleg ac ni fydd ein datrysiad newydd yn barod tan 2025.
Mae’r postiad hwn yn esbonio beth fydd yn digwydd, sut bydd yn effeithio arnoch chi a pha drefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith.
Parhau i ddarllenDiweddariad y prif ystadegydd: deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd
Ar 6 Mehefin 2024 byddwn yn cyhoeddi data dros dro ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd wedi’i gofnodi gan yr heddlu ar gyfer mis Hydref i fis Ragfyr 2023. Ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023 bu cryn ddiddordeb mewn data ar wrthdrawiadau.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: gwelliannau wedi’u cyflwyno i amcangyfrifon y farchnad lafur ar gyfer Cymru
Ym mis Medi 2023, fe wnaethom gyhoeddi blog Prif Ystadegydd yn rhoi cyngor am yr heriau sy’n cael eu hwynebu yn yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), effaith heriau o’r fath ar ystadegau’r farchnad lafur i Gymru a beth oedd cynlluniau’r SYG i fynd i’r afael â’r heriau.
Parhau i ddarllen