Bob gwanwyn rydym yn cyhoeddi data ar bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ddata o Arolwg o Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yr arolwg hwn yw’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer incwm aelwydydd a thlodi yn y DU.
Parhau i ddarllenArchif Awdur: Chief Statistican
Chwe mis yn ddiweddarach: yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth data agored newydd StatsCymru
Rydym bellach yn agosáu at chwe mis ers inni lansio gwasanaeth data agored newydd StatsCymru, ac mae’n adeg dda i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y gwasanaeth, y gwelliannau rydym wedi’u gwneud a’r hyn sy’n dod nesaf.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: amcangyfrifon newydd o’r angen o ran tai ychwanegol yng Nghymru
Mae deall yn glir beth yw maint yr angen o ran tai yng Nghymru yn hanfodol i lunio dyfodol ein cartrefi a’n cymunedau.
Parhau i ddarllenStatsCymru: ein misoedd cyntaf a beth sydd nesaf
Ar ddiwedd mis Medi, lansiwyd gwasanaeth newydd StatsCymru – carreg filltir fawr yn ein gwaith i wneud ystadegau Llywodraeth Cymru yn haws i’w cyrchu a’u defnyddio. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roeddem am rannu rhannu diweddariad ar sut mae pethau’n mynd, beth rydym wedi’i ddysgu, a beth sy’n dod nesaf.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: sicrhau ansawdd yn ystadegau amseroedd aros y GIG
Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ar weithgaredd a pherfformiad y GIG, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT). Mae’r rhain ymhlith y ffigurau sy’n cael eu gwylio’n fwyaf gofalus a gynhyrchir gennym, oherwydd eu bod yn helpu cleifion, clinigwyr a llunwyr polisïau i ddeall sut mae gwasanaethau’n perfformio ledled Cymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol newydd wedi’u cyhoeddi heddiw
Heddiw rydym wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022. Dyma’r set gyntaf o amcanestyniadau i ni gyhoeddi ers 2020.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: deall ystadegau tai forddiadwy
Mae tai fforddiadwy yn bwnc sy’n denu diddordeb sylweddol gan y cyhoedd, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau yng Nghymru yn gyson. P’un a yw’n gwestiynau yn y Senedd, craffu gan y wasg, neu ymholiadau gan awdurdodau lleol a’r cyhoedd, mae galw clir am wybodaeth amserol a dibynadwy am nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru.
Parhau i ddarllenDiweddariad y Prif Ystadegydd: yn dod yn fuan, data newydd i ddeall ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru
Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025. Bydd yn rhoi set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru, gan ddefnyddio Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) newydd Cyfrifiad 2021.
Parhau i ddarllenStatsCymru: lansio ein Gwasanaeth Data Agored newydd!
Rydym wrth ein boddau o gyhoeddi bod gwasanaeth data agored newydd StatsCymru nawr yn fyw ac yn barod ichi chwilota drwyddo.
Parhau i ddarllenDiweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwelliannau i ystadegau perfformiad y GIG
Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystod eang o ystadegau gofal eilaidd y GIG, gan gynnwys gofal brys a gofal mewn argyfwng, diagnosteg, therapïau a rhestrau aros y GIG. Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn gwella perthnasedd ac amseroldeb ein data ac adlewyrchu’r newid o ran sut y caiff galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans eu rheoli.
Parhau i ddarllen