Yn yr ail flog hwn o’n cyfres am gaffael, mae Warren, sy’n rhan o’r tîm datblygu, yn rhoi diweddariad i ni am sut mae’r ‘Ganolfan Ragoriaeth Caffael’ yn dod yn ei blaen.
Yn ein blog gwadd cyntaf ‘Dod â chymunedau masnachol a chaffael Cymru at ei gilydd’, siaradodd Victoria am brosiect alffa ‘Canolfan Ragoriaeth Gaffael’ a nod y prosiect hwnnw.
‘Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr masnachol a chaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, i gyd-ddylunio’r syniadau mwyaf addawol ar gyfer datblygu gwasanaethau a nodwyd yn ystod cam darganfod cychwynnol y prosiect.’
Cydweithio, cyfathrebu a gallu
Mae Strategaeth Ddigidol i Gymru yn nodi sut mae cyfle gwirioneddol i wasanaethau caffael yn y sector cyhoeddus gefnogi a datblygu busnesau Cymreig a sgiliau digidol.
Rydym eisiau ail-ddychmygu’r proffesiwn caffael a’i rôl o ran creu canlyniadau gwell ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Yn y prosiect hwn byddwn yn edrych ar sut y gallwn gefnogi cymunedau ac ymarferwyr, gan ddod â’r ddau ynghyd i wella’r broses gaffael yng Nghymru.
Y lon fer a throellog i gyrraedd 2030
Yn y ddogfen bolisi ‘The Short and Winding Road to 2030: Measuring Distance to the Sustainable Development Goals (SDG) Targets’ mae’r Organisation for Economic Cooperation and Development (OECD) yn nodi:
“Implementing the [sustainable development goals] as an integrated and coherent set represents a major challenge for all countries. Addressing interactions between economic, social and environmental goals in a balanced manner, while avoiding negative effects on the well-being of people here and now, elsewhere and later, is among the most significant challenges to implementing the SDGs.”
Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein gosod fel arweinydd byd-eang o ran deddfu i wella’r amgylchedd, yr economi, cymdeithas a diwylliant – ar gyfer pobl Cymru ac ar gyfer y blaned, yn awr ac yn y dyfodol.
Yn yr un modd, mae’r Statws carbon sero-net erbyn 2030. Trywydd ar gyfer datgarboneiddio ar draws sector cyhoeddus Cymru yn darparu fframwaith strategol i helpu i asesu beth sydd ar waith a beth sydd ei angen i gyrraedd ein targedau sector cyhoeddus, ac i fonitro cynnydd dros amser.
Mae caffael yn un o pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu’r trywydd. Mae’r nodau caffael ar gyfer y cyfnod 2022 i 2026 sy’n allweddol i’n gwaith yn cynnwys:
- datblygu canllawiau, offer a hyfforddiant ar gyfer weithwyr caffael proffesiynol i gefnogi lleihau carbon drwy gydol y cylch bywyd masnachol
- datblygu sgiliau a chynnig chymorth penodol o fewn y gadwyn gyflenwi i gynyddu cyfran y cyflenwyr Cymreig sy’n gallu darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen ac sydd, felly, yn gymwys ar gyfer contractau
Y cyfle ar gyfer cymuned ac ymarferwyr
Rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, bydd tirwedd fasnachol sector cyhoeddus y DU yn newid unwaith y bydd y Bil Caffael Llywodraeth y DU yn cael cydsyniad brenhinol. Bydd mwy o newid fyth yng Nghymru pan fydd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn dod i rym.
Mae’r newidiadau hyn yn gyfle prin i ni ail-ddychmygu ein gwasanaethau masnachol a chaffael, ar yr amod bod y gymuned a’r ymarferwyr yn cofleidio beth sy’n bosibl.
Mae tîm trawsnewid caffael cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet yn gwneud hynny wrth roi’r ddeddfwriaeth newydd ar waith – bydd cymunedau arfer yn cefnogi dysgu a datblygiad ffurfiol, lle gall ymarferwyr rannu, trafod a myfyrio ar arfer gorau, heriau a chyfleoedd.
Maent wedi eu hysbrydoli i weithio fel hyn gan gymuned brynu digidol Gwasanaeth Masnachol y Goron, a sefydlwyd yn 2018 fel rhan o’r ystod o gymunedau gwasanaeth. Roedd y gymuned prynu digidol yn llwyddiannus oherwydd:
- arweiniad a chefnogaeth ddiwyro
- cyfraniadau gweithredol ystod eang o ymarferwyr sy’n barod i rannu eu safbwyntiau amrywiol yn agored ac yn onest
- amlygrwydd gweithgareddau’r gymuned hon
Nid yw dulliau o’r fath yn unigryw i’r DU; Mae Adolygiad Llywodraethu Cyhoeddus yr OECD System Change in Slovenia: Making Public Procurement More Effective (2020) yn esbonio mai’r flaenoriaeth uchaf oedd yr angen am gymunedau arfer caffael a rhwydweithiau eraill, ffurfiol ac anffurfiol, i hwyluso cyfnewid gwybodaeth.
Ymunwch â’n tîm profi
Mae’r cymunedau a’r ymarferwyr caffael yng Nghymru wrth galon ein gwaith ac rydym angen gweithwyr proffesiynol ym maes caffael a masnachol i gymryd rhan.
Rydym wedi creu tîm profi – sy’n cynnwys pobl o bob rhan o’r cymunedau caffael yng Nghymru i helpu i lunio’r gwasanaethau a fydd yn cefnogi’r dull newydd hwn o weithio.
Rydym yn awyddus i gael cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan. Dim ond ychydig oriau o amser y dylai hyn ei gymryd ond bydd yn amhrisiadwy i sicrhau ein bod yn creu rhywbeth o werth i ymarferwyr Cymreig a’r gymuned.
Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp sy’n profi’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu, yna cysylltwch â ni.
Warren