Mewn byd sy’n troi’n fwy ac yn fwy digidol, mae ‘seiber’ yn air rydym yn ei glywed yn amlach ac yn amlach – sgiliau seiber, diogelwch seiber, troseddau seiber ac ymosodiadau seiber.
Yn y blog hwn, rydyn ni am sôn am y Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru, ymrwymiad yn Strategaeth Ddigidol Cymru.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau am y cynllun gweithredu ac rydym am ddechrau trwy esbonio ychydig bach yn fanylach beth mae ‘seiber’ yn ei olygu, pam mae angen cynllun gweithredu ac ar gyfer pwy y mae’r cynllun.
Beth ydyn ni’n ei feddwl wrth seiber?
I’r rhan fwyaf o bobl, mae seiber yn golygu sgamwyr neu hacwyr y tu ôl i gyfrifiadur, yn ceisio hacio i’ch system a dwyn eich data neu’ch e-bostio gan esgus mai nhw yw’ch banc. Yn ein golwg ni, mae seiber yn golygu mwy na diogelwch seiber a helpu pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i gadw mor ddiogel â phosib ar-lein. Mae’n golygu sgiliau, arloesi, ymchwil, twf economaidd a buddsoddi yn y maes. Mae’r holl rannau hyn a mwy yn gwau trwy’i gilydd i greu’r ‘ecosystem seiber’ fel y galwn hi.
Sut mae’r ecosystem seiber yn gweithio?
Mae’r ecosystem seiber wedi’i gwneud o nifer o rannau, gan gynnwys twf economaidd, addysg a denu, datblygu a chadw sgiliau, ymchwil ac arloesi a chadw’n pobl, busnesau a’n gwasanaethau cyhoeddus mor ddiogel â phosibl. Mae’r holl rhannau hyn yn dibynnu ar ei gilydd i dyfu a llwyddo.
Er mwyn cael y gorau o’r nifer gynyddol o wasanaethau a thechnolegau digidol sydd, mae’n bwysig bod holl rannau’r ‘ecosystem seiber’ yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol a bod diogelwch seiber cadarn yn sail i’r cyfan.
Er enghraifft, er mwyn bod yn seiber-ddiogel ac yn saff rhag ymosodiadau seiber, rhaid wrth y wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol cywir i allu’n diogelu’n hunain fel dinasyddion. Mae hynny’n golygu helpu pobl i ddysgu sgiliau seiber trwy ysgolion ac addysg ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ynghylch sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Mae angen pobl arnom hefyd sydd â’r sgiliau technegol cywir i helpu’n busnesau a’n gwasanaethau i gadw mor ddiogel â phosibl rhag ymosodiadau seiber. Mae hynny’n golygu cynnal cyrsiau gradd ac ôl-radd i ddatblygu gweithlu’r dyfodol yn ogystal â meithrin a datblygu sgiliau mewn gwaith i ddiwallu anghenion seiber y gweithlu.
Mae hefyd yn ffaith bod y bygythiad seiber yn real, ac mae angen i sefydliadau fod yn barod am fod yn gadarn i’r ymosodiadau hynny pan – nid os – maen nhw’n digwydd. Mae angen i ni sicrhau bod arweinwyr yn deall y risg a’u rôl, gyda chamau ar waith i ymateb i ddigwyddiadau ac yn datblygu cadernid o fewn eu sefydliadau.
Gan fod ymosodiadau seiber yn newid trwy’r amser, rhaid cadw bys ar byls y technolegau diweddaraf i’n cadw’n ddiogel rhag bygythiadau newydd. Dyma pam mae cydweithio mor bwysig. Trwy weithio gyda’i gilydd, gall diwydiant a phrifysgolion ymchwilio sut y gall technolegau newydd ein helpu i fod yn fwy diogel a dangos effeithiau seiber-ymosodiadau ar sefydliadau a busnesau.
Hefyd, trwy ddatblygu’n sgiliau a’n gweithlu a buddsoddi mewn arloesedd ac ymchwil, bydd economi’r sector a Chymru fel gwlad gydnerth yn tyfu. Bydd gosod y sylfeini hyn yn denu busnesau’r byd i fuddsoddi a dod i Gymru a theimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.
Gwaith trawsbynciol y rhannau gwahanol hyn yw sylfaen ein Cynllun Gweithredu Seiber a’n gweithredoedd i wireddu’n huchelgeisiau.
Pam mae angen Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru?
Wel, yn gyntaf, mae’n bwysig yn ein barn ni bod gan Gymru weledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer seiber, ynghyd â set o gamau i’w cymryd ar gyfer gwireddu’r weledigaeth honno.
Mae gennym ni stori dda i’w hadrodd eisoes yng Nghymru ac rydym am ei rhannu ac adeiladu arni. Yn wir, gyda ni mae un o’r ‘ecosystemau seiber’ mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac un o’r cryfaf yn Ewrop. Diolch i’r partneriaethau cryf rhwng diwydiant, prifysgolion a’r llywodraeth, mae ein sector seiber yn tyfu, ac rydyn ni’n denu busnesau rhyngwladol pwysig trwy ein cryfderau niferus a’n henw da am ragoriaeth ac arloesedd.
Rydyn ni am i’r llwyddiant hwn barhau, trwy wneud y gorau o’n buddsoddiadau a’n partneriaethau, i ddod â hyd yn oed mwy o fanteision i Gymru.
Mae’n bwysig hefyd ein bod yn cadw i fyny â’r newidiadau sy’n digwydd trwy’r amser yn y byd digidol. Bydd ein cynllun gweithredu yn ein helpu i wneud hynny. Ond o beidio â gwneud, byddwn yn agored i ymosodiadau seiber all effeithio ar ein ffordd o wneud busnes, ar ein heconomi ac ar ein diogelwch cyffredinol.
Beth yw diben y cynllun?
Er bod gan bawb ei gyfrifoldeb am seiber, mae’r cynllun gweithredu wedi’i anelu’n bennaf at sefydliadau yn hytrach nag unigolion. Ond trwy roi’r cynllun ar waith, caiff unigolion/pobl eu diogelu a’u haddysgu i fod mor ddiogel â phosibl.
Bydd y cynllun yn berthnasol i sefydliadau a sectorau o bob math, fel llywodraeth leol, iechyd, addysg (ysgolion, colegau a phrifysgolion), gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a busnesau (cwmnïau mawr, bach a chanolig). Bydd angen i sefydliadau ystyried seiber wrth redeg eu sefydliadau a sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Bydd angen iddynt hefyd ystyried sut bydd eu staff ar bob lefel yn deall y risgiau sy’n gysylltiedig â seiber ac yn dod i feddu ar y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gadw eu hunain a’u sefydliadau yn ddiogel a saff ar-lein.
Mae seiber yn berthnasol i bawb ac mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i wybod sut i fod mor ddiogel a saff â phosibl pan fyddwn ar-lein.
Beth nesa’?
Er bod gan Lywodraeth Cymru, gyda Llywodraeth y DU, rôl amlwg fel arweinydd wrth gynnal y cynllun gweithredu, ni allwn wneud ar ein pennau ein hunain. Rhaid wrth ymdrech ar y cyd gan wasanaethau cyhoeddus, y byd academaidd, lluoedd y gyfraith a’r llywodraeth ar lefel leol, cenedlaethol a’r DU, gan gynnwys cyrff hyd braich a noddedig. I roi’r cynllun ar waith, rhaid cydweithio, cydweithredu a chydgysylltu ar draws sectorau.
Rydyn ni wrthi’n gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cynllun gweithredu ac i nodi a diffinio’r themâu a’r camau cydgysylltiedig sydd eu hangen arnom i wireddu’n hamcanion seiber yng Nghymru. Ond os oes gennych syniadau ynghylch beth ddylai gael ei gynnwys yn y cynllun, rhowch wybod i ni isod.
Y nod yw cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Seiber yng ngwanwyn 2023, ond cyn gwneud, byddwn yn rhannu gwybodaeth am y gwaith da sy’n cael ei wneud ledled Cymru trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Bydd hynny’n cynnwys rhagor o flogiau felly cadwch eich llygaid ar agor.
Post gan Meleri Jones Tîm Arweinyddiaeth a Chydlynu Seiber