Post gan Joe ac Aron, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru
Yn ddiweddar, mae’r Uned Gwyddor Data wedi bod yn archwilio ffyrdd posibl o ddefnyddio AI Cynhyrchiol. Mae un prosiect wedi datblygu offeryn profi cysyniad sy’n defnyddio AI Cynhyrchiol i helpi i olygu cynnwys testun. Nod yr offeryn oedd:
- cefnogi dylunwyr cynnwys yn Llywodraeth Cymru drwy ddarparu drafft gwell i’w ddefnyddio’n sail i’w gwaith; a
- helpu pawb i gynhyrchu cynnwys gwell (nid oes gennyn ni ddigon o ddylunwyr cynnwys ar gyfer ein holl gynnwys!)
Gallai’r offeryn arbed amser i’r dylunwyr cynnwys, yn eu galluogi i ganolbwyntio eu sgiliau ar y problemau mwy heriol ac yn gwella ein cynnwys ysgrifenedig.
Parhau i ddarllen