Blog gwadd: beth sy’n digwydd o dan ein traed?

Greg Garner, Asset Owner Engagement Manager for Wales, Atkins

Read this page in English

Mae’r Gofrestr Asedau Tanddaeraol Cenedlaethol (NUAR) yn enghraifft wych o sut mae gwasanaethau digidol, data a thechnoleg yn gallu cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru, ac mae’n gwbl gyson â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Dysgwch fwy am y buddion posibl a’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

""

Pob dydd, rydym yn dibynnu ar ystod eang o wasanaethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol yn aml. Mae’n seilwaith cenedlaethol yn cadw’r goleuadau ymlaen, dŵr yn llifo, cartrefi wedi’u gwresogi, rhyngrwyd wedi’i gysylltu a thrafnidiaeth yn symud. 

Mae’r seilwaith hwn yn dibynnu ar amcangyfrif o 4 miliwn cilomedr o asedau wedi’u claddu megis ceblau, pibellau, carthffosydd a dwythellau i gadw pethau i weithio. Mae’n rhaid i bob prosiect adeiladu a seilwaith gaffael gwybodaeth ar yr asedau hyn wrth gynllunio a gwneud gwaith cloddio. Fodd bynnag, nid oes llwyfan ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n caniatáu mynediad cyson a safonedig i ddata ynghylch asedau tanddaearol. Mae gan bob darparwr gwasanaeth cyfleustod ddata ynglŷn â’u hasedau ond mae’r modd o gyrchu’r data hyn ac ym mha fformat yn anghyson oherwydd systemau meddalwedd gwahanol a ffyrdd gwahanol o ddal a storio data.

Ar hyn o bryd, mae angen i wybodaeth am bibellau a cheblau wedi’u claddu gael eu caffael o amrywiaeth o sefydliadau ac, unwaith y caiff ei derbyn, mae’n cael ei chyflwyno mewn amrywiaeth o fformatau a graddfeydd gan gynyddu’r risg o ddamweiniau. Ymhellach, mae dod o hyd i seilwaith anhysbys wedi’i gladdu wrth balu neu daro’n ddamweiniol trwy bibell neu gebl yn achosi oediadau diangen i brosiectau. O ganlyniad, mae strydoedd a ffyrdd wedi’u cau am fwy o amser gan achosi tagfeydd traffig sy’n cael effaith negyddol ar economïau a thrigolion lleol.

I ddatrys y broblem hon mae’r Comisiwn Geo-ofodol yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu llwyfan y Gofrestr Asedau Tanddaearol Cenedlaethol (NUAR). Bydd hwn yn llwyfan digidol diogel, archwiliadwy, dibynadwy a chynaliadwy sy’n darparu map cyson a rhyngweithiol o ddata asedau claddedig yng Nghymru.

Sut fydd NUAR o fudd i bobl a busnesau yng Nghymru?

Bydd NUAR yn sicrhau bod gan gynllunwyr a chloddwyr fynediad i’r data sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt, i gwblhau eu gwaith yn ddiogel ac yn effeithlon. Bydd yn:

  • Cyflymu’r broses y mae perchnogion asedau tanddaeraol yn ei defnyddio i ddarparu eu data i eraill at ddibenion cynllunio a chwblhau gwaith cloddio.
  • Rhoi mynediad i gynllunwyr prosiect at ddata safonedig trwy ryngwyneb defnyddiwr rhyngweithiol, gan eu galluogi i gynllunio gweithfeydd yn y dull mwyaf effeithlon i leihau tarfu ar fusnesau a thrigolion, megis sŵn, allyriadau, cyfyngiadau traffig a chyfleustodau ddim yn gweithio.
  • Helpu cloddwyr i gyfeirio’u hunain yn well ar safleoedd, a chymryd penderfyniadau gwybodus am sut i gwblhau gweithfeydd yn ddiogel.
  • Helpu i wella ansawdd data trwy alluogi cloddwyr i adrodd yn ôl am unrhyw anghywirdebau yn y data.

Bydd NUAR yn gweithio i’r economi, y bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a bydd yn helpu i alluogi Cymru i dyfu yn ôl yn gryfach ar ôl y pandemig Covid. Bydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau modern i Gymru trwy drawsffurfiad digidol ac ymagwedd newydd at ddarparu data chwilio cywir ar yr asedau claddedig o dan ein traed. Mewn gwirionedd, amcangyfrifir y bydd NUAR yn darparu tua £350 miliwn mewn arbedion y flwyddyn i economi y DU.

Cofrestr Asedau Tanddaearol Cenedlaethol: datgloi gwerth i ddiwydiant a’r economi ehangach

""

Meithrin cydweithio

Mae NUAR yn enghraifft wych o sut y gallwn ddefnyddio gwasanaethau digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae’n ffitio’n berffaith i Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru a bydd yn enghraifft wych o sut mae sefydliadu’n gallu cydweithio’n effeithiol trwy rannu data trwy lwyfan digidol diogel.

Mae cydweithio o gwmpas data yn ganolog i Strategaeth Ddigidol Cymru yn yr ystyr fod newid digidol ynghylch bod yn agored, defnyddio data i ddatrys problemau, a chynllunio gwasanaethau sy’n ateb anghenion y defnyddiwr yn y pen draw.

“Mae NUAR yn ffitio ochr yn ochr â gwaith yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, megis y grŵp Llywio Seilwaith Strategol (SIS), Map Data Cymru a’r rhaglen Metro. Bydd NUAR hefyd yn galluogi canol ein trefi i ddod yn fwy heini yn economaidd trwy helpu busnesau (cyfleustodau a chyrff seilwaith) i weithio gyda’i gilydd a gwella’r economi ddigidol trwy adeiladu seilwaith gwell sy’n addas i’r dyfodol digidol.”

Glyn Jones (Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru)

Bydd NUAR yn helpu i hwyluso diwylliant o gydweithio rhwng llywodraeth ganolog a lleol, awdurdodau lleol, cwmnïau cyfleustodau ac unrhyw un sy’n ymwneud â beth sy’n digwydd o dan ein traed.

“Er bod datblygu technoleg ar gyfer NUAR yn gymhleth a bod cytuno ar fodel data cyffredin ar draws 650 o berchnogion asedau yn heriol a diddorol, mae NUAR yn bennaf ynglŷn â datblygu ymddiriedaeth a chydweithrediad ar draws ystod eang iawn o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat. Rydym wedi ymgysylltu â chydweithwyr o bob gweinyddiaeth ddatganoledig o’r cychwyn ac rydym wirioneddol wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno mor gynnar i rannu data â’r tîm NUAR i symud ymlaen tuag at Gofrestr Asedau Tanddaeraol Cenedlaethol er budd dinasyddion a busnesau Cymru.”

Holger Kessler (Arweinydd Rhanddeiliaid a Chyfathrebu’r Comisiwn Geo-ofodol) 

Ble ydym ni yn awr gyda NUAR yng Nghymru?

Mae Cymru yn rhan o gam cyntaf y prosiect NUAR ochr yn ochr â Llundain a Gogledd-Ddwyrain Lloegr. Erbyn Mawrth 2023 bydd y llwyfan NUAR yn hollol weithredol a hygyrch i berchnogion asedau a’u cadwyni cyflenwi o fewn Cymru. Bydd NUAR yn cael ei wella wedyn a’i gyflwyno i’r rhanbarthau sy’n weddill yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Alban yn cael budd yn barod o system o’r fath hon yng Nghofrestr Gweithfeydd Ffyrdd yr Alban (Saesneg yn unig) ac mae’re Tîm NUAR yn gweithio’n agos â chydweithwyr yn yr Alban i sicrhau aliniad rhwng y systemau.

Hyd yn hyn mae’r perchnogion asedau canlynol wedi arwyddo i NUAR yng Nghymru:

  • Llywodraeth Cymru
  • Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru
  • Asiantiaid Cefnffyrdd De Cymru a Gogledd a Chanolbarth Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Awdurdodau Powys, Caerffili, Wrecsam, Sir Ddinbych, Ynys Môn ac Abertawe
  • Western Power Distribution
  • Cyfleustodau Cymru a’r Gorllewin
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Rydym yn ymgysylltu’n weithredol â’r holl berchnogion asedau eraill a gobeithio eu cael i ymuno o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

Byddwn hefyd yn sefydlu Grwpiau Ymchwil Defnyddwyr trwy gydol cam adeiladu’r prosiect, fydd yn cwmpasu pynciau fel ansawdd data, ymarferoldeb i ddefnyddwyr, achosion defnydd yn y dyfodol, rhannu data a diogelwch. Os byddech chi neu unrhyw un o’ch cydweithwyr yn hoffi dysgu mwy am NUAR neu’n hoffi ymuno â’r grwpiau ymchwil hyn, yna cysylltwch:
greg.garner2@atkinsglobal.com
geospatialcommission@cabinetoffice.gov.uk