Yn ein blog blaenorol ynghylch deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, fe wnaethom ddisgrifio newidiadau i’r ffordd y cofnodir difrifoldeb anafiadau gan heddluoedd ledled Prydain Fawr. Fe wnaethom hefyd ymrwymo i adolygu’r modd y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ein hystadegau.
Mae’r blog hwn yn darparu rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r dull o adrodd am ddifrifoldeb anafiadau, yr effeithiau disgwyliedig a’r addasiadau bydd eu hangen, a’n cynlluniau ar gyfer cyfleu’r newidiadau hyn i ddefnyddwyr.
Newid yn null yr heddlu o gofnodi difrifoldeb anafiadau
Caiff anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd eu cofnodi naill ai fel wedi’u lladd, wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi cael mân anafiadau. Yn hanesyddol, roedd hyn yn seiliedig ar farn swyddogion heddlu a oedd yn adrodd am wrthdrawiadau. Fodd bynnag, mae llawer o heddluoedd ledled Prydain Fawr wedi mabwysiadau system adrodd seiliedig ar anafiadau (IBRS), lle pennir y difrifoldeb gan ddefnyddio rhestr benodol o anafiadau. Mae’r dull hwn yn lleihau goddrychedd, a bwriedir iddo wella cywirdeb a chysondeb ar draws heddluoedd.
Erbyn 2016, roedd tua hanner heddluoedd Lloegr wedi mabwysiadu IBRS, a sylwodd yr Adran Drafnidiaeth fod newid y system wedi arwain at newid yn nifrifoldeb yr anafiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd, gyda chyfran uwch o anafiadau yn cael eu dosbarthu fel rhai difrifol ar ôl cyflwyno IBRS.
Heddlu Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf o Gymru i symud i IBRS ym mis Mai 2023, ac yna Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2025. Nid yw Heddlu Gwent na Gogledd Cymru wedi symud i IBRS eto.
Nid yw’r dulliau adrodd am ddifrifoldeb anafiadau o dan yr hen system a’r system newydd yn gyson, ac felly mae angen i ni addasu data hanesyddol am anafiadau ffyrdd yn ôl difrifoldeb er mwyn ein galluogi i gymharu’r data yn gyson dros amser a rhwng heddluoedd. Mae’r fethodoleg yn cael ei hesbonio yn yr adran nesaf.
Yn ein cyhoeddiad nesaf, sef Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2026, sydd i’w gyhoeddi ar 29 Gorffennaf 2026, byddwn yn cyhoeddi ffigurau wedi’u haddasu am y tro cyntaf, wrth barhau i gyhoeddi ffigurau heb eu haddasu. Bydd y data anafiadau newydd wedi’i addasu ar ddifrifoldeb yn cael ei gyhoeddi fel ‘ystadegau swyddogol mewn datblygiad’ (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau). Yn ogystal â chyhoeddi data anafiadau wedi’u haddasu, rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno data gwrthdrawiadau wedi’u haddasu o gyhoeddiad Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 2026 ymlaen.
Nid yw symud i system adrodd ar sail anafiadau yn effeithio ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau, na chyfanswm nifer y marwolaethau.
Sut mae’r addasiad yn gweithio
Yn 2019, datblygodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a’r Adran Drafnidiaeth fethodoleg a gynlluniwyd i addasu effaith IBRS ar ddifrifoldeb yr anafiadau a gofnodir (Adran Drafnidiaeth). Mae’r fethodoleg hon yn defnyddio model ystadegol i amcangyfrif pa mor ddifrifol fyddai pob achos pe bai wedi cael ei gofnodi ar y pryd gan ddefnyddio IBRS yn hytrach na bod yn seiliedig ar farn swyddog heddlu. Yna mae’r model yn addasu’r ffigurau i adlewyrchu’r hyn y mae’n amcangyfrif y byddai’r difrifoldeb wedi bod pe bai IBRS wedi cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod y tueddiadau mewn difrifoldeb yn adlewyrchu’r hyn a ddigwyddodd go iawn yn hytrach nag adlewyrchu’r newid yn y dull adrodd.
Gweithredodd yr Adran Drafnidiaeth y fethodoleg addasu difrifoldeb am y tro cyntaf yn eu cyhoeddiad ystadegol ar gyfer 2018 (a gyhoeddwyd yn 2019), a chyhoeddodd ffigurau anafiadau ffyrdd wedi’u haddasu a heb eu haddasu. Mae’r Adran Drafnidiaeth yn parhau i gyhoeddi ffigurau wedi’u haddasu a heb eu haddasu yn eu tablau data ar gyfer holl heddluoedd Prydain Fawr.
Profi’r dull wedi’i addasu ar gyfer Cymru
Oherwydd bod 2 o 4 llu heddlu Cymru wedi symud i IBRS, mae nawr yn amser priodol i ni symud tuag at roi addasiadau ar waith.
Fe wnaethom brofi dau fodel a oedd ill dau yn defnyddio model y SYG gyda data mewnbwn gwahanol:
- Model 1: yn defnyddio’r model ystadegol ar yr holl ddata sydd ar gael ar gyfer Prydain (2004 i 2024) a’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru (2025).
- Model 2: yn defnyddio’r un model ar yr holl ddata sydd ar gael ar gyfer Cymru yn unig.
Fe wnaethom brofi’r 2 ddull hyn am fod model 1 yn cyd-fynd yn agosach â’r data mewnbwn a ddefnyddir gan yr Adran Drafnidiaeth, ond roeddem hefyd eisiau asesu effaith model Cymru yn unig i ddeall a fyddai hynny’n fwy addas ar gyfer ein hystadegau ni.
Mae’r canlyniadau ar gyfer model 1 yn debyg iawn i’r rhai yr adroddwyd amdanynt gan yr Adran Drafnidiaeth. Mae hyn i’w ddisgwyl gan mai dim ond mân addasiad i fodel gwreiddiol yr Adran Drafnidiaeth yw ymgorffori data Cymru 2025.
O dan fodel 2, roedd yr amcangyfrifon wedi’u haddasu o anafiadau difrifol yn gyson uwch na chanlyniadau model 1 a’r Adran Drafnidiaeth. Gallai hyn fod o ganlyniad i’r swm cyfyngedig o ddata IBRS a ddefnyddiwyd yn y model (data Heddlu Dyfed-Powys yn bennaf dros gyfnod o 2 flynedd). Efallai nad yw gwrthdrawiadau sy’n digwydd yn ardal Dyfed-Powys yn gynrychioliadol o Gymru, oherwydd bod y dull a ddefnyddir i werthuso lefel y difrifoldeb yn gallu amrywio rhwng heddluoedd. Er enghraifft, mae gan Ddyfed-Powys ganran uwch o ffyrdd gwledig o’i chymharu â rhannau eraill o Gymru.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
O gyhoeddiad mis Gorffennaf 2026, byddwn yn defnyddio model 1 i gynhyrchu amcangyfrifon o ddifrifoldeb anafiadau wedi’u haddasu ar gyfer yr holl ddata o 2004 ymlaen nad ydynt yn defnyddio IBRS. Mae’r model hwn yn defnyddio gwybodaeth o set ddata fawr Prydain gyfan, felly mae gennym fwy o hyder yn y fethodoleg addasu difrifoldeb na phe baem yn defnyddio’r dull arall pan mae maint sampl data Cymru sy’n defnyddio IBRS yn rhy fach ar hyn o bryd. Mae Dull 1 hefyd yn gyson â’r dull a ddefnyddir gan yr Adran Drafnidiaeth.
Mae’r addasiadau hyn yn effeithio ar y dadansoddiad rhwng mân anaf ac anaf difrifol. Mae hyn yn golygu y bydd mwyafrif y data hanesyddol sy’n ymwneud â difrifoldeb anafiadau ar y ffyrdd yn cael eu hadolygu i’n galluogi i gymharu’n gyson dros amser a rhwng heddluoedd. Byddwn yn argymell bod defnyddwyr yn defnyddio’r ffigurau wedi’u haddasu wrth gymharu data ar ddifrifoldeb dros amser a rhwng heddluoedd, ond at ddibenion tryloywder byddwn hefyd yn cyhoeddi’r data heb ei addasu.
Nid yw’r addasiadau yn effeithio ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau, anafiadau neu farwolaethau. Ni fyddant yn effeithio ar ddata Heddlu Dyfed-Powys o fis Mai 2023 ymlaen na data Heddlu De Cymru ar ddifrifoldeb anafiadau ar y ffyrdd o fis Tachwedd 2025 ymlaen pan ddechreuon nhw ddefnyddio IBRS.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi data gwrthdrawiadau wedi’u haddasu yng nghyhoeddiad Chwarter 2 2026.
Byddwn yn rhedeg y model yn flynyddol o ddatganiad blynyddol 2026 yn haf 2027. Mae hyn yn golygu y bydd y data hanesyddol yn cael eu hadolygu eto gan y bydd y model yn cynnwys mwy o ddata.
Byddwn yn monitro maint yr addasiadau blynyddol. Wrth i heddluoedd eraill symud i IBRS a bod gennym fwy o ddata IBRS, byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid (gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth, SYG ac academyddion annibynnol) i sicrhau ein bod yn defnyddio’r fethodoleg fwyaf priodol ar gyfer Cymru.
Dros amser, bydd maint y diwygiadau yn lleihau. Pan fydd digon o ddata IBRS o Gymru a bod cyn lleied o ddiwygiadau blynyddol â phosibl, byddwn yn cwblhau’r addasiadau ac yn rhoi’r gorau i adolygu’r data hanesyddol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n defnyddwyr wrth i weddill heddluoedd Cymru symud i IBRS, i sicrhau bod yr heddlu’n casglu data mwyaf cywir ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar gyfer Cymru.
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd