Blog gwadd: Canlyniadau rhagarweiniol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (sylfaen newydd ar gyfer teithio yng Nghymru)

Neges yn cyflwyno Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru a’i ganlyniadau pennawd dechreuol gan Dîm Ystadegwyr, Trafnidiaeth Cymru.

Read this page in English.

Mae cyhoeddi data rhagarweiniol o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (Trafnidiaeth Cymru) yn gam pwysig i gryfhau’r dystiolaeth o sut mae pobl yn teithio yng Nghymru. Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, ceir darlun cenedlaethol cynrychiadol o agwedd ac ymddygiad teithio poblogaeth Cymru.

Tan 2012, roedd Cymru wedi ei chynnwys yn arolwg teithio cenedlaethol Adran Drafnidiaeth San Steffan. Ni chynhaliwyd arolwg teithio pwrpasol yng Nghymru ers hynny, gan arwain at ddiffyg cynyddol o dystiolaeth yn ystod adeg pan fo polisi trafnidiaeth wedi parhau i esblygu.

Heb ffynhonnell gyson o ddata ar gyfer Cymru, mae hi wedi bod yn anodd creu darlun clir o sut mae pobl yn teithio, a sut mae hyn yn newid dros amser. Mae hyn yn cyfyngu ar ein gallu i asesu a yw polisïau ac ymyriadau trafnidiaeth newydd yn cael effaith gadarnhaol ar sut mae pobl yn teithio yng Nghymru.

Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Datblygwyd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru i fynd i’r afael â’r diffyg yna. Bydd y data a gesglir yn helpu Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru (TrC) a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i:

  • ddeall patrymau teithio cyfredol
  • nodi gwahaniaethau rhwng grwpiau ac ardaloedd yng Nghymru
  • olrhain newidiadau dros amser

Bydd hyn yn galluogi llunio polisïau mwy seiliedig ar dystiolaeth, gwneud penderfyniadau gwell ac ymyriadau trafnidiaeth wedi’u targedu’n fwy cywrain.

Prif bwrpas yr arolwg yw darparu data parhaus, cyson a chadarn ar sut mae pobl yng Nghymru yn teithio, a’u hagweddau at wahanol ddulliau o drafnidiaeth. Ochr yn ochr â chwestiynau parthed agweddau ac arferion teithio, mae’r arolwg yn cynnwys dyddiadur teithio deuddydd sy’n cofnodi sut, pam, pryd a ble mae pobl yn teithio.

Cynlluniwyd yr arolwg i fod yn gynrychioliadol o Gymru ar lefel ranbarthol, ac mae’n darparu llinell sylfaen newydd a all gefnogi mewnwelediad uniongyrchol ac olrhain ymddygiad teithio ar gyfer y tymor hir.

Datblygwyd yr arolwg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU). Cefnogwyd y datblygiad hwn gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, sy’n darparu’r arolwg ar ran Trafnidiaeth Cymru.

Canfyddiadau cynnar

Ym mis Ebrill 2026, cyhoeddodd TrC ganfyddiadau rhagarweiniol yr arolwg. Mae’r canlyniadau hyn yn cwmpasu’r chwe mis cyntaf o gasglu data (mis Mawrth i Awst 2025), ac mae’r data wedi’i gyhoeddi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad.

Canfyddiadau o’r data chwe mis

  • Cynhaliwyd 73.6% o deithiau mewn car (naill ai fel gyrrwr neu deithiwr).
  • Gwnaethpwyd 25.2% o’r teithiau mewn dulliau trafnidiaeth gynaliadwy (cerdded, olwynio, beicio, bws a thrên).
  • Roedd 10.8% o’r holl deithiau yn amlfodd, lle defnyddiwyd dau neu fwy o ddulliau teithio.
  • Ymgymerodd unigolion â 629 o deithiau y flwyddyn ar gyfartaledd, gan deithio 10,434km ar gyfartaledd.
  • Roedd boddhad cyffredinol y teithiau o ran gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn amrywio o 65.7% i’r rhai a oedd yn beicio, i 88.7% i’r rhai a ddefnyddiodd dacsi.
  • Roedd boddhad â diogelwch o ran gwahanol ddulliau trafnidiaeth yn amrywio o 59.1% i’r rhai a feiciodd, i 91.3% i’r rhai a ddefnyddiodd dacsi.

Mae’r canlyniadau hyn yn darparu man cychwyn clir ar gyfer deall sut mae pobl yn teithio ar hyn o bryd, a llinell sylfaen newydd ar gyfer Cymru wedi cyfnod hir heb ddata tebyg.

Beth sy’n dod nesaf?

Yn hydref 2026, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau diwygiedig gan ddefnyddio data o flwyddyn arolwg lawn 2025 i 2026. Bydd hyn yn darparu darlun mwy manwl o ymddygiad ac agweddau teithio ledled Cymru, ac yn cwblhau’r set lawn gyntaf o ganlyniadau’r arolwg.

Mae casglu data ar gyfer blwyddyn yr arolwg 2026 i 2027 eisoes wedi dechrau. Wrth i ragor o ddata gael ei gasglu, byddwn yn gallu olrhain newidiadau mewn agweddau ac ymddygiad teithio dros amser a deall yn well sut mae patrymau yn amrywio ar draws gwahanol grwpiau demograffig ac ardaloedd daearyddol. Bydd hyn yn gwella ein gallu i asesu cynnydd a gwerthuso effaith polisi ac ymyriadau trafnidiaeth.

Bydd Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn cael ei asesu’n ffurfiol ar gyfer Achrediad Ystadegau Swyddogol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Gadael sylw