Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ei hamcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr heddiw. Yn ein crynodeb, mae’n dangos bod amcangyfrifon poblogaeth Cymru wedi gostwng ychydig rhwng 2024 a 2025, sef 0.1%, neu tua 2,800 o bobl.
Gall newidiadau bach yn y boblogaeth ddigwydd am sawl rheswm. Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod genedigaethau, marwolaethau a mudo i gyd yn helpu i esbonio’r gostyngiad bach yn y boblogaeth.
Dyma’r gostyngiad cyntaf yn y boblogaeth yng Nghymru ers rhwng 2014 a 2015. Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi gostwng ychydig mewn 15 allan o’r 22 awdurdod lleol rhwng 2024 a 2025, gyda’r gostyngiad mwyaf wedi’i amcangyfrif ym Merthyr Tudful, gostyngiad o 0.6%.
Mae’r amcangyfrifon hyn yn destun ansicrwydd ystadegol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd llai a phan edrychir ar y data yn ôl oedran a rhyw. Caiff amcangyfrifon poblogaeth eu diwygio’n rheolaidd gan y SYG i ddefnyddio’r data a’r dulliau diweddaraf.
Er yr amcangyfrifir bod y boblogaeth yn Lloegr wedi cynyddu 0.4%, mae llawer o ardaloedd yn Lloegr yr amcangyfrifir eu bod wedi gweld gostyngiadau yn y boblogaeth yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Llundain.
Ffigur 1: cydrannau newid poblogaeth, 2005 i 2025 [Nodyn 1]

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy’n dangos bod mudo wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn cyfnod o gynnydd. Mae newid naturiol, neu’r gwahaniaeth rhwng nifer y genedigaethau a’r marwolaethau, hefyd wedi parhau i ostwng, gan arwain at ostyngiad bach yn y boblogaeth rhwng 2024 a 2025.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.
[Nodyn 1] Mae ‘mudo net ac arall’ yn cynnwys pobl sy’n symud i mewn ac allan o Gymru, yn ogystal â newidiadau sy’n gysylltiedig â phersonél y lluoedd arfog ac addasiadau bach eraill.
Yng Nghymru, y rheswm am y gostyngiad yn yr amcangyfrifon poblogaeth yw bod llai o enedigaethau nag o farwolaethau, ac oherwydd bod llai o bobl wedi symud i Gymru o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig (y DU) nag yn y blynyddoedd blaenorol. Hyd yn hyn, roedd nifer y bobl yn symud i Gymru wedi bod yn fwy na’r bwlch rhwng nifer y marwolaethau a genedigaethau. Yn yr amcangyfrifon diweddaraf, nid yw hyn yn wir mwyach.
Newidiadau poblogaeth yn y dyfodol
Nid ydym yn gwybod eto a fydd y gostyngiad bach hwn yn y boblogaeth yn parhau yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth 2026 ar gyfer Cymru a Lloegr yr haf nesaf. Yr hyn a wyddom, fodd bynnag, yw bod nifer y genedigaethau yn 2025 wedi dangos gostyngiad parhaus (y SYG), a disgwylir i nifer y marwolaethau hefyd aros yn gymharol uchel wrth i’r nifer gynyddol a aned yn dilyn yr ail ryfel byd gyrraedd oedrannau hŷn. Mae’r amcangyfrifon dros dro o fudo rhyngwladol tymor hir diweddaraf ar gyfer 2025 hefyd yn dangos gostyngiad parhaus mewn mudo rhyngwladol net ar gyfer y DU (y SYG).
Ochr yn ochr â’r amcangyfrifon poblogaeth hyn, mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth. Nid rhagfynegiadau o beth yn union fydd yn digwydd yw amcanestyniadau. Maent yn dangos maint a strwythur posibl y boblogaeth yn y dyfodol os bydd tueddiadau diweddar yn parhau, gan ddefnyddio rhagdybiaethau am enedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae’r SYG yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwledydd eraill y DU, ac rydym yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol.
Cyhoeddwyd ein set ddiweddaraf o amcanestyniadau awdurdodau lleol ym mis Tachwedd y llynedd, ac roeddent yn seiliedig yn gyffredinol ar dueddiadau hyd at 2022. Ers hynny, mae’r SYG wedi cyhoeddi ei amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol diweddaraf, sy’n seiliedig ar dueddiadau hyd at 2024. Mae hyn yn golygu eu bod yn ystyried gostyngiadau mwy diweddar mewn mudo net a nifer y genedigaethau. Awgrymodd y rhain bod amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn lleihau o 2036.
O ganlyniad, pan fyddwn yn ychwanegu ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol cyfredol at ei gilydd, mae’r cyfanswm bellach yn uwch na’r amcanestyniadau diweddaraf ar lefel Cymru, ac yn uwch na’r amcangyfrif poblogaeth diweddaraf. Gall y sefyllfa hon godi oherwydd bod yr amcanestyniadau yn seiliedig ar y data a’r rhagdybiaethau gorau sydd ar gael ar yr adeg y cânt eu cynhyrchu. Wrth i amcangyfrifon newydd ddod ar gael, gallant ddangos bod tueddiadau diweddar wedi newid.
Mae’r siart hon yn dangos y gwahaniaeth rhwng y gwahanol setiau hyn o amcanestyniadau.
Ffigur 2: amcangyfrifon poblogaeth ac amcanestyniadau awdurdodau lleol, 2014 i 2034

Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell yn dangos bod yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol diweddaraf yn is na’r amcanestyniadau awdurdodau lleol. Mae’r siart hefyd yn dangos sut mae’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf yn is na’r amcanestyniadau cenedlaethol.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth ac amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol gan y SYG. Amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru.
Erbyn 2034, er enghraifft, mae cyfanswm amcanestyniadau poblogaeth yr awdurdodau lleol yn 3.7% yn uwch na’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol diweddaraf.
Beth rydyn ni’n ei wneud nesaf
Defnyddir ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol i gyfrifo amcanestyniadau aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol. Yn eu tro, defnyddir y rhain wedyn i gyfrifo amcangyfrifon o’r angen am dai.
Er mwyn sicrhau bod ein hamcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yn fwy cyson â’r tueddiadau diweddaraf, rydym bellach yn bwriadu dechrau diweddaru ein hamcanestyniadau o’r hydref hwn ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys archwilio a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau i’n dulliau i sicrhau cysondeb â’r amcangyfrifon a’r amcanestyniadau diweddaraf gan y SYG.
Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr barhau i ystyried yr ystod lawn o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol a gyhoeddir gennym. Siaradais am hyn mewn diweddariad blog blaenorol pan gyhoeddon ni ein hamcanestyniadau awdurdodau lleol gyntaf.
Rydym yn cyhoeddi amcanestyniadau amgen, neu amcanestyniadau ‘amrywiol’. Mae’r rhain yn dangos sut y gallai’r amcanestyniadau fod yn wahanol os defnyddir rhagdybiaethau gwahanol, er enghraifft, ynghylch mudo neu dwf poblogaeth. Lle mae amcangyfrifon poblogaeth ar gael, dylai defnyddwyr ddefnyddio’r rheini yn lle amcanestyniadau, oherwydd bod amcangyfrifon yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.
Rydym hefyd yn parhau i weithio ar gyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd cyfatebol ar gyfer parciau cenedlaethol. Bydd y gwaith i ddiweddaru ein hamcanestyniadau o’r hydref hwn ymlaen yn cynnwys cynhyrchu amcanestyniadau wedi’u diweddaru ar gyfer parciau cenedlaethol yn ogystal ag ar gyfer awdurdodau lleol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hamcanestyniadau neu’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf yn y cyfamser, cysylltwch â’r tîm yn ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.
Stephanie Howarth
Prif ystadegydd