Y llynedd, gwnaethom ymchwilio i fethodolegau ystadegau rhestrau aros y GIG a gynhyrchwyd gan bedair gwlad y DU a gwnaethom esbonio ein casgliadau cychwynnol ynghylch y gallu i gymharu prif fesurau perfformiad.
Canfuwyd bod gwahaniaethau o ran cwmpas yn y data yn ddigon arwyddocaol i olygu nad oedd unrhyw rai o’r prif ffigurau ar gyfer llwybrau sy’n aros yn rhai y gellid eu cymharu yn uniongyrchol rhwng unrhyw un o’r gwledydd. Er hynny, gellir cynhyrchu mesur wedi’i addasu ar gyfer Cymru er mwyn ei gymharu’n fras â Lloegr.
Roedd yr ymarfer hwnnw yn canolbwyntio ar gyfanswm y ffigurau ar gyfer llwybrau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth sy’n aros yn seiliedig ar y data gweinyddol swyddogol. Yn y blog hwn, rydym yn edrych ar ffynhonnell amgen ynghylch cleifion sy’n aros am wasanaethau’r GIG. Rydym hefyd yn cyflwyno canfyddiadau ar y gallu i gymharu ar gyfer rhai o is-setiau cyfanswm y rhestrau aros, yn ogystal â data ar faint o amser a dreulir yn aros.
Amcangyfrifon arolygon ynghylch cleifion sy’n aros
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu amcangyfrifon ynghylch pobl sy’n aros am apwyntiadau, profion neu driniaeth gan y GIG yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a hynny drwy’r arolwg Barn a Ffordd o Fyw. Mae hyn yn seiliedig ar arolwg gan sampl o’r boblogaeth lle y mae ymatebwyr yn hunangofnodi, yn hytrach na data gweinyddol a gymerir o systemau’r GIG. Yn ogystal, mae gan y cwestiynau gwmpas ehangach na’r ystadegau swyddogol sydd, fel rheol, wedi’u cyfyngu i weithgarwch sydd o dan arweiniad meddyg ymgynghorol. Nid yw Gogledd Iwerddon wedi’i gynnwys yn yr arolwg Barn a Ffordd o Fyw.
Mae’r amcangyfrifon yn dangos, ym mis Chwefror 2023:
- fod 29% o ymatebwyr yng Nghymru wedi dweud eu bod bryd hynny’n aros am apwyntiad ysbyty, prawf neu driniaeth gan y GIG
- o ran yr Alban, roedd yr amcangyfrif yn 25% ac o ran Lloegr, roedd yr amcangyfrif yn 21%
Mae’r amcangyfrifon yn ansicr ar gyfer Cymru a’r Alban oherwydd maint bach y samplau, felly dylem ddehongli’r ffigurau hyn gyda rhywfaint o ofal. Ond yn wahanol i’r ystadegau swyddogol ar restrau aros, gellir cymharu’r amcangyfrifon hyn yn uniongyrchol ar draws y gwledydd. Maen nhw’n awgrymu, pan fo pob math o lwybr yn cael ei gyfrif, y gallai’r gwahaniaethau cymharol rhwng y gwledydd fod yn llai na’r hyn a awgrymir gan y data gweinyddol swyddogol, nad ydynt, yn gyffredinol, ond yn cyfrif y rhai hynny sydd o dan arweiniad meddyg ymgynghorol.
Ar wahân i gyfanswm y cleifion sy’n aros, a oes cymariaethau eraill y gellir eu gwneud?
Gan gyfeirio’n ôl at y mesurau swyddogol ar lwybrau sy’n aros, mae ystadegau swyddogol Cymru (StatsCymru) ar gael ar gyfer pedwar cam y llwybr cleifion.
Dyma bobl sy’n aros am:
- apwyntiad claf allanol newydd
- prawf, ymyrraeth neu ganlyniad diagnostig, neu brawf, ymyrraeth neu ganlyniad gan Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
- apwyntiad claf allanol dilynol
- ymyrraeth ddiagnostig neu therapiwtig yn yr ysbyty (triniaeth)
Rydym wedi ymchwilio i argaeledd data y gellir eu cymharu ledled y DU ar gyfer pob un o’r camau hyn. Yn gysyniadol, mae’r camau yn ymddangos yn debyg i rai o’r ffigurau a gyhoeddir gan wledydd eraill. Fodd bynnag, yn yr un modd ag ystadegau’r llwybrau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth cyffredinol, mae gwahaniaethau o ran cwmpas a diffiniadau sy’n golygu na ellir eu cymharu yn uniongyrchol yn y rhan fwyaf o achosion.
Nid yw’r ffigurau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ar gael ar gyfer Lloegr, ac o ran yr Alban, nid ydynt yn cynnwys rhannau arwyddocaol o’r llwybr sy’n cael eu cyfrif yng Nghymru. Fodd bynnag, ar gyfer Gogledd Iwerddon, mae ffigurau ar gyfer cleifion sy’n aros am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ar gael a bernir y gellir eu cymharu â’r ffigur ar gyfer Cymru.
Ym mis Mehefin 2023:
- cofnodwyd 416,000 o lwybrau agored sy’n aros am apwyntiad cleifion allanol cyntaf yng Ngogledd Iwerddon, sy’n cyfateb i oddeutu 22 o lwybrau i bob 100 o bobl
- yng Nghymru, roedd 422,000 o lwybrau’n aros am apwyntiad cleifion allanol cynaf, sy’n cyfateb i oddeutu 14 o lwybrau i bob 100 o bobl
Nid oes yr un wlad arall yn cynhyrchu ffigurau sy’n cyfateb i ail a thrydydd cam y llwybr yr adroddir arnynt yng Nghymru ond mae pob gwlad yn cyhoeddi ystadegau ar gyfer cleifion sy’n aros am driniaeth yn glaf mewnol neu yn glaf am ddiwrnod. Fodd bynnag, oherwydd gwahaniaethau mewn cwmpas, ni ddylid cymharu’r rhain ar draws y DU. Amheuir bod y ffigurau ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cynnwys rhywfaint o ddyblygu. Ar gyfer yr Alban a Lloegr, dim ond achosion pan fo penderfyniad wedi’i wneud i roi triniaeth sy’n cael eu cyfrif, ond yng Nghymru, mae’r ffigurau yn cynnwys cleifion nad yw penderfyniad i roi triniaeth iddynt wedi’i wneud eto. O ganlyniad, nid ystyrir bod modd cymharu’r ystadegau ynghylch y camau hyn o lwybrau cleifion a gyhoeddir ar gyfer y pedair gwlad.
Amseroedd aros
Yn ogystal â’r ffigurau ar gyfer nifer y llwybrau sy’n aros, mae’r pedair gwlad hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar amseroedd aros. Mae’r dulliau ar gyfer cyfrifo amseroedd aros yn debyg iawn ym mhob gwlad, ond mae’r targedau amseroedd aros yn wahanol, gan adlewyrchu polisïau ac anghenion lleol. Er enghraifft, yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddechrau triniaeth o fewn 18 wythnos i’r adeg y cawsant eu hatgyfeirio ac yng Nghymru, dylai 95% o gleifion ddechrau triniaeth o fewn 26 o wythnosau. Yn yr Alban, dylai pob claf ddechrau triniaeth o fewn 12 wythnos i’r penderfyniad i drin ac yng Ngogledd Iwerddon, dylai 55% o gleifion ddechrau triniaeth o fewn 13 o wythnosau i’r penderfyniad i drin. Yn ogystal, ceir amryw o dargedau eraill ar draws y pedair gwlad sy’n ymwneud ag apwyntiadau cleifion allanol, diagnosteg a therapïau, y mae pob un ohonynt yn unigryw i bob gwlad. O ganlyniad, nid oes modd defnyddio’r mesurau perfformiad a gyhoeddir i gymharu amseroedd aros ar draws y gwledydd yn uniongyrchol.
Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae dal yn bosibl dod i gasgliadau lefel uchel ynghylch amseroedd aros dros flwyddyn o hyd ym mhob gwlad. Fel y mae Tabl 1 yn ei ddangos, mae’r ffigurau ar lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd yn awgrymu rhai gwahaniaethau arwyddocaol mewn amseroedd aros rhwng rhai o’r gwledydd.
Tabl 1. Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn neu ddwy flynedd fesul gwlad y DU, mis Mawrth 2023
| Llwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn | Llwybrau sy’n aros mwy na 2 flynedd | |
| Cymru | 133,000 | 28,000 |
| Yr Alban (camau cleifion allanol a chleifion mewnol / cleifion am ddiwrnod yn unig) | 74,000 | 8,000 |
| Lloegr | 383,000 | <1,000 |
| Gogledd Iwerddon | 267,000 (camau cleifion allanol a chleifion mewnol / cleifion am ddiwrnod yn unig) | 123,000 (cam apwyntiadau cleifion allanol yn unig) |
Er ein bod yn gwybod nad yw’r ffigurau hyn yn cyfateb yn llwyr i’w gilydd ac na ddylid eu cymharu’n uniongyrchol, ni all y gwahaniaethau methodolegol gyfrif am raddfa rhai o’r gwahaniaethau yn y niferoedd sy’n aros yn hirach na blwyddyn a dwy flynedd. Mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried poblogaeth Lloegr sy’n llawer mwy.
Yn ogystal, mae data yr arolwg Barn a Ffordd o Fyw hefyd yn rhoi tystiolaeth gref ynglŷn ag amseroedd aros. Nid yw’r arolwg Barn a Ffordd o Fyw yn cynnwys Gogledd Iwerddon ond amcangyfrifir ym mis Chwefror 2023, fod 49% o bobl a oedd yn aros yng Nghymru wedi bod yn aros yn hirach na blwyddyn, o gymharu â 23% yn yr Alban a 18% yn Lloegr. Fel y nodwyd eisoes, gellir cymharu ffigurau’r arolwg Barn a Ffordd o Fyw yn uniongyrchol rhwng y gwledydd. Er hynny, mae gan yr amcangyfrifon ystod ehangach o ansicrwydd yng Nghymru ac yn yr Alban, yn enwedig oherwydd maint bach y samplau. Maen nhw’n ymwneud â phob math o aros yn y GIG, nid llwybrau sydd o dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn unig.
Beth rydyn ni’n ei wneud i gael gwell dealltwriaeth
Mae’n debygol y bydd gwahaniaethau pellach o ran cwmpas a diffiniadau rhwng y gwledydd na allwn ni eu mesur yn hyderus ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r rhain yn debygol o fod ar raddfa lai na’r gwahaniaethau a ddisgrifir yn y blog hwn a’r blog blaenorol. Hyd eithaf ein gwybodaeth, maen nhw’n annhebygol o effeithio’n sylweddol ar yr ystadegau.
Mae cryn ddiddordeb o hyd mewn ystadegau sy’n ymwneud â gweithgarwch a pherfformiad y GIG ar draws y DU. Fel yr ydym wedi’i wneud yn y blog hwn, rydym yn parhau i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gwledydd eraill y DU i ymchwilio i ffyrdd o gydlynu a chymharu ystadegau rhestrau aros. Rydym hefyd yn ymchwilio i bynciau eraill gan gynnwys gofal argyfwng, ymateb ambiwlansys, gwasanaethau canser, profiadau cleifion, niferoedd y gweithlu a mesurau canlyniadau iechyd. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n debyg a’r gwahaniaethau mewn ystadegau iechyd a bydd yn fodd i gefnogi defnyddwyr yr ystadegau hyn i wneud cymariaethau ystyrlon. Dros amser, byddwn yn rhannu diweddariadau pellach naill ai drwy’r blog hwn neu drwy adroddiadau ystadegol ar y pynciau hyn.
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd