Blog gwadd: Gweithio tuag at ddealltwriaeth well o economi Cymru: Tablau Mewnbwn-Allbwn i Gymru

Read this page in English

Mae’r Athro Calvin Jones yn gweithio gyda dadansoddwyr Llywodraeth Cymru i roi cyngor arbenigol ar brosiect newydd er mwyn deall economi Cymru yn well. Yn y blog hwn, mae’n esbonio beth allwch chi ei ddisgwyl o’r gwaith hwn.

Cefndir

Mae gan Gymru uchelgeisiau mawr ar gyfer y tymor hir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf yr Amgylchedd ac Ymrwymiadau Sero Net y Llywodraeth yn crisialu’r dyhead am Gymru deg, gynhwysol, iach, fioamrywiol, ac sy’n gyfrifol yn fyd-eang – yn enwedig mewn perthynas â diogelwch hinsawdd. Yn amlwg, ni ellir gwneud hyn heb economi sy’n ymgorffori’r holl bethau hynny, ac sydd ar yr un pryd yn darparu ffyniant sylweddol i’n pobl – yn enwedig i’r rheini ar waelod y raddfa incwm.

Fodd bynnag, wrth i’r byd ddod yn fwy cymhleth, ac wrth i gydberthnasau ar draws yr economi, cymdeithas, yr amgylchedd a’r hinsawdd ddod yn fwy amlwg a phwysig, rhaid inni barhau i wella ystod ac ansawdd yr ystadegau sydd ar gael i gefnogi gwaith polisi a monitro. Ar hyn o bryd mae rhai bylchau data allweddol, a lle mae’r wybodaeth hon yn bodoli, caiff ei chyfyngu’n aml gan ansawdd neu feintiau sampl bach o arolygon, ei bod yn anodd ei chymharu dros amser neu rhwng meysydd gwahanol, neu caiff ei strwythuro mewn ffyrdd sy’n gwneud synnwyr i’r DU, ond nad yw cystal pan gaiff ei defnyddio i lywio amcanion polisi Cymru. Heb ddarlun cyflawn a manwl o’r economi, mae’n anodd olrhain y ffyrdd y mae gweithgarwch economaidd yn achosi goblygiadau i gynnydd economaidd-gymdeithasol, ansawdd amgylcheddol neu ‘ôl troed’ byd-eang Cymru.

Mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn ceisio llenwi rhai o’r bylchau gwybodaeth hyn drwy brosiect tair blynedd sy’n archwilio ymarferoldeb creu cyfrif economaidd ranbarthol lawn ar gyfer Cymru – a elwir yn Dabl Mewnbwn-Allbwn (MA) – mewn ffordd sy’n dadansoddi, nid yn unig sut mae’r economi yn ‘gweithio’, ond hefyd sut mae’n rhan o systemau eraill – er enghraifft, economïau’r DU a rhai byd-eang, amgylchedd naturiol Cymru, neu’r hinsawdd. Mae Tablau MA ar gyfer y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)) a’r Alban (Llywodraeth yr Alban: Cyflenwi, Defnyddio a Thablau Mewnbwn-Allbwn) wedi’u defnyddio ers tro i ddadansoddi polisi, ac mae mwy a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud ohonynt, gyda Gogledd Iwerddon a Gorllewin Canolbarth Lloegr, er enghraifft, bellach â strwythurau tabl cymharol.

Mae’r prosiect Deall Economi Cymru yn adeiladu ar waith a gyflawnwyd eisoes gan Uned Ymchwil Economi Cymru (WERU) yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’r Tablau MA Prifysgol hyn a’r dulliau modelu perthnasol wedi’u defnyddio’n eang: er enghraifft, wrth archwilio pwysigrwydd cwmnïau angori rhanbarthol allweddol (BBC News), effaith canlyniadau digwyddiadau mawr (Resarch Gate) ar yr economi a’r amgylchedd, a faint o risg y mae cwmnïau a sectorau yng Nghymru yn ei wynebu yn sgil Brexit (Ffigur 1).

Ffigur 1: Cyniferoedd Lleoliad Risg Brexit, Maint Sectorau a Rhanbarthol (maint cylch=LQ)

Mae gan awyrofod a dur gyfuniad o gyniferoedd lleoliad Cymreig uchel a risg yn sgil Brexit.

Ffynhonnell: WERU (2017)

Gall y strwythurau cyfrifo hyn alluogi dull polisi mwy soffistigedig. Ystyriwch, er enghraifft, yr ymrwymiad i ddatgarboneiddio trafnidiaeth wrth inni drosglwyddo i Sero Net. Byddai gwell dealltwriaeth o ddefnyddiau a defnyddwyr trafnidiaeth yng Nghymru yn gwella effeithiolrwydd mesurau polisi, ond anaml iawn y mae data teithio yn adrodd ar fanylion o’r fath. Fodd bynnag, defnyddiwyd Tablau MA WERU, mewn cydweithrediad â chyfrif lloeren twristiaeth (World Tourism Organization) pwrpasol ar gyfer Cymru, i sefydlu ôl troed carbon twristiaeth i Gymru (ac yng Nghymru), a hefyd datgysylltu’r baich carbon hwn yn ôl sector, math o ymwelydd, ac a yw’n digwydd y tu mewn neu’r tu allan i Gymru.

Deall economi Cymru: yr amcanion

Er bod Tablau WERU wedi’u defnyddio’n eang, mae sawl cyfyngiad yn perthyn iddynt sy’n codi o’u statws ‘answyddogol’ – yn arbennig cyfyngiadau ar roi adnoddau a mynediad at ddata, ansicrwydd ynghylch cynlluniau’r dyfodol, a diffyg ‘prif ffrydio’ i lunio polisïau rhanbarthol. Bydd prosiect MA Llywodraeth Cymru yn rhoi gwell syniad o ymarferoldeb, a chostau a manteision posibl datblygu a phrif ffrydio set o dablau MA i Gymru sydd wedi’u cymeradwyo a’u diweddaru’n rheolaidd. Mae gan y prosiect nifer o nodau ystadegol cychwynnol, wedi’u cyd-gysylltu:

  • Creu set arbrofol o Dablau Cyflenwad a Defnydd (SYG) i Gymru ar gyfer blwyddyn sylfaen 2019, gan adlewyrchu’r cynnydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon,
  • Datblygu set o Gyfrifon Dadansoddol (SYG) cysylltiedig sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer modelu economaidd, ac i fwydo strwythurau cyfrifyddu eraill ac i gysylltu â’r strwythurau hynny (er enghraifft y rheini sy’n ymwneud â’r amgylchedd, sgiliau cyfalaf dynol, neu aelwydydd),
  • Defnyddio’r datblygiadau uchod i ymgymryd ag archwiliad lle mae diffyg ystadegau economaidd ar gyfer Cymru mewn meysydd pwysig o ran polisi,
  • Datblygu set o Dablau Cyflenwad a Defnydd i Gymru ar gyfer blwyddyn sylfaen ar ôl diwedd cyfyngiadau Covid.

I ddatblygu’r amcanion hyn ymhellach, rydym eisoes wedi comisiynu mesurau i gynyddu data arolygon presennol SYG, gan gynnwys yr Arolwg Busnes Blynyddol (SYG), yr Arolwg Prynu Blynyddol (SYG), Arolwg y Gofrestr a Chyflogaeth Busnes (SYG) a’r Arolwg Costau Byw a Bwyd (SYG) (a byddwn yn parhau i ddatblygu ein Harolwg Masnach ein hunain ar gyfer Cymru). Ond dim ond rhan o’r stori yw ystadegau. Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym am sicrhau bod yr ystadegau a’r dadansoddiad sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru – ac yn wir gan asiantaethau eraill yng Nghymru yn ‘addas i’r diben yng Nghymru’: gofyn cwestiynau nid yn unig ynghylch cadernid, ond hefyd gwmpas, prydlondeb a manylder. O’r fan honno gallwn asesu a all ein seilwaith ystadegol ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i arwain Llywodraeth Cymru (ac eto, eraill) tuag at gyflawni ein hamcanion cenedlaethol yn effeithiol; boed hynny’n ffyniant cynhwysol, cynhyrchu cylchol, byw sero net neu gyfrifoldeb byd-eang.

I wneud hyn rhaid i’n prosiect gael ei rhoi mewn cyd-destun yn briodol, ac ymateb i ystod eang o ddefnyddwyr ac anghenion. Bydd Bwrdd Prosiect mewnol yn gweithio gydag ymgynghorwyr technegol profiadol o Gymru, y DU a thramor i sicrhau bod ein datblygiadau’n gadarn, yn rhesymol, ac yn gymesur i’r angen polisi. Byddwn yn ceisio gofyn am gyngor ac arweiniad y cyhoedd, ein grŵp defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru, y trydydd sector ac asiantaethau preifat ledled y DU, ac yn trafod yn llawn â’r byd academaidd – ac rydym eisoes mewn cysylltiad â’r rhai sy’n gwneud gwaith cyfochrog mewn llywodraethau a phrifysgolion ledled y DU (a chyda’r prosiect ESCoE a gefnogir gan SYG). Os nad yw’r prosiect yn gynhwysol nac yn ymatebol, ni fydd yn gwbl lwyddiannus.

Y chwe mis nesaf – a thu hwnt

Adeiladu’r strwythur llywodraethu hwn fydd un o’r tasgau prosiect cyntaf, gan sicrhau ein bod ar y llwybr cywir. Mae ‘dadansoddiad o’r bwlch’, sy’n archwilio’r mannau lle na fydd y data presennol yn debygol o fodloni’r union ofynion i lunio Tablau Mewnbwn-Allbwn eisoes ar y gweill. Bydd y prosesau hyn wedyn yn ein rhoi ar ben ffordd ar gyfer yr 18 mis sy’n weddill o’r prosiect.

Fodd bynnag, nid ‘aros ac archwilio’ fydd y gwaith i gyd. Mae’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd yn golygu y gallwn ddechrau drwy ddatblygu ymhellach dablau MA 2019 Prifysgol Caerdydd mewn ffyrdd defnyddiol, deall costau a buddion datblygu’r Tablau a gwerth ychwanegol ar gyfer polisi – er enghraifft  mae’r Tablau hyn eisoes yn llywio dadansoddiad Ôl Troed Byd-eang Cymru sydd ar ddod gan JNCC, a dadansoddiadau economaidd sectoraidd ar ran y llywodraeth. Rydym eisoes yn siarad â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i sefydlu sut y gallwn ddefnyddio Tablau MA y Brifysgol yn ein gwaith, er enghraifft, i amcangyfrif dwysedd ac ôl troed gwastraff. Mae’r gwaith paratoi hwn yn golygu, wrth i dablau’r llywodraeth gael eu datblygu, eu mireinio, a’u cysylltu â systemau ystadegol eraill, bydd cydweithwyr yn y llywodraeth – a gobeithio y tu hwnt – yn barod ac yn fodlon defnyddio’r strwythurau newydd i greu polisïau gwell sy’n fwy seiliedig ar dystiolaeth.

Post gan, Athro Calvin Jones, Cynghorydd Academaidd, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s