Diweddariad y Prif Ystadegydd: newidiadau i ystadegau perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys

Read this page in English.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal newid yn y ffordd y mae amseroedd aros yn cael eu mesur ar gyfer rhai cleifion sy’n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Mae’r newid hwn yn effeithio ar yr ystadegau swyddogol a ddefnyddir i fonitro perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys.

Yn y diweddariad hwn, rydym yn esbonio beth sydd wedi newid, yr effaith ddisgwyliedig ar ystadegau cyhoeddedig, a’r goblygiadau ar gyfer cymharu data dros gyfnod o amser ac â gwledydd eraill y DU.

Beth sydd wedi newid

Ar gyfer y mwyafrif o gleifion sy’n mynd i adran damweiniau ac achosion brys, mesurir amser aros fel cyfanswm yr amser a dreulir yn yr adran – o’r adeg y byddant yn cyrraedd tan iddynt gael eu rhyddhau, eu derbyn i’r ysbyty, neu eu trosglwyddo i ddarparwr gofal iechyd arall.

Tan yn ddiweddar, fodd bynnag, roedd rhai eithriadau i’r dull hwn. Ar gyfer cyfran fach o gleifion, gallai ‘cloc’ yr amser aros stopio cyn iddynt adael yr adran yn gorfforol. Roedd y mwyafrif o’r achosion hyn yn cael eu hadnabod fel ‘eithriadau clinigol’ – cleifion yr oedd angen arsylwi arnynt am gyfnod neu ganiatáu iddynt adfer am gyfnod o dan ofal timau’r adrannau damweiniau ac achosion brys. Ar gyfer y cleifion hyn, yn ogystal â chleifion oedd yn aros am gludiant ysbyty, gellid stopio’r cloc pan fyddai’r driniaeth yn dod i ben. Mae enghreifftiau o eithriadau clinigol yn cynnwys:

  • cleifion sy’n aros am ganlyniadau profion y mae’n rhaid iddynt gael eu cynnal sawl awr ar ôl i boen yn y frest ddechrau
  • cleifion sy’n adfer yn dilyn triniaeth tawelyddu
  • cleifion y mae angen arsylwi arnynt am gyfnod yn dilyn anaf i’r pen
  • cleifion sy’n derbyn triniaeth barhaus i achub eu bywyd

Ar 1 Hydref 2026, cafodd y polisi sy’n caniatáu i’r cloc gael ei stopio yn gynharach ar gyfer eithriadau clinigol a chleifion sy’n aros am gludiant ei ddileu. O ganlyniad, mae’r amseroedd aros ar gyfer pob claf bellach yn seiliedig ar gyfanswm yr amser a dreulir mewn adran damweiniau ac achosion brys, ni waeth a yw rhan o’r amser hwnnw yn cynnwys cyfnod o arsylwi, adfer neu aros am gludiant.

Mae ein hystadegau swyddogol yn mesur perfformiad ar sail y polisïau sydd ar waith, felly bydd yr ystadegau a gyhoeddir o fis Tachwedd yn adlewyrchu’r newid hwn mewn polisi. Bydd hyn yn effeithio ar y mesurau cyhoeddedig ar gyfer:

  • canran y derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys a gwblhawyd o fewn 4 awr
  • nifer y derbyniadau am gyfnod sy’n rhagori ar 12 awr
  • amseroedd aros cyfartalog

Pa effaith fydd hyn yn ei chael

Ni fydd modd cymharu’r ystadegau o fis Hydref 2026 ymlaen yn uniongyrchol â’r ffigurau blaenorol. Rydym yn disgwyl y bydd y newid yn effeithio ar yr amseroedd aros a gofnodwyd ar gyfer tua 3% o dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys.

Er mwyn cefnogi gwaith dehongli ac i amcangyfrif maint yr anghysondeb a achosir gan y newid hwn mewn polisi, rydym wedi archwilio data hanesyddol gan ddefnyddio’r polisïau blaenorol a’r rhai newydd. Mae ein dadansoddiad yn amcangyfrif, o dan y polisi newydd:

  • byddai cwymp yng nghanran y derbyniadau a gofnodwyd fel rhai a gwblhawyd o fewn 4 awr o tua 3 phwynt canran o’i gymharu â’r polisi blaenorol
  • byddai cynnydd yn nifer y derbyniadau a gofnodwyd fel rhai a wnaeth bara am ragor na 12 awr o tua 2 i 3%
  • byddai cynnydd yn yr amseroedd aros canolrifol o tua 3 munud, neu 2%

Fel arfer, mae newidiadau o fis i fis yn y ffigurau yn adlewyrchu gwelliant neu ddirywiad gwirioneddol mewn perfformiad. Fodd bynnag, mae’n debygol mai arwydd o’r newid mewn polisi fydd unrhyw gwymp yn y mesurau perfformiad o fis Hydref ar y cyfan, ac ni ddylid ei ddehongli o reidrwydd fel dirywiad ym mherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys neu gynnydd yn yr amser y mae cleifion yn ei dreulio yn yr adrannau hyn.

Mae’r siart isod yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddau bolisi o fis Hydref 2021 i fis Medi 2026 mewn arosiadau 4 awr, sef y mesur perfformiad yr adroddwyd arno’n fwyaf eang.

Ffigur 1: canran y cleifion sy’n aros llai na 4 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o dan y polisïau blaenorol a newydd, mis Hydref 2021 i fis Medi 2026

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy’n cymharu canran y cleifion a dderbyniwyd, trosglwyddwyd neu ryddhawyd o fewn 4 awr o dan y polisi blaenorol, a oedd yn eithrio peth amser ar ôl i’r driniaeth ddod i ben ar gyfer eithriadau clinigol a chleifion oedd yn aros am gludiant, a’r polisi newydd, sy’n mesur cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn yr adran.

Mae’r gwahaniaeth wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o tua 8 pwynt canran ddechrau 2023 i 3 phwynt canran yn ddiweddar. Mae hyn yn arwydd o leihad yn y defnydd o eithriadau clinigol dros y cyfnod hwnnw yn dilyn gwaith i wella cydymffurfiaeth â chanllawiau polisi.

Cymharu â gwledydd eraill y DU

Mae gan y newid hefyd oblygiadau wrth gymharu sefyllfa Cymru a gwledydd eraill y DU.

Canfu gwaith blaenorol i asesu i ba raddau y gellir cymharu data holl wledydd y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol) fod mesurau amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn gymaradwy ar y cyfan yn achos yr adrannau mawr oherwydd bod egwyddorion tebyg yn cael eu cymhwyso wrth fesur amseroedd aros. O fis Hydref 2026, ni fydd hyn yn wir, sy’n golygu na ddylid cymharu’n uniongyrchol mwyach. I’r gwrthwyneb, bydd y polisi diwygiedig yng Nghymru wedi’i gysoni’n agosach â’r polisi yng Ngogledd Iwerddon, gan olygu y bydd modd cymharu data rhwng y ddwy wlad hon yn well.

Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws system ystadegol y DU i sicrhau bod y canllawiau presennol ar gymharu rhwng gwledydd yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newid hwn.

Helpu defnyddwyr i ddeall newidiadau i’r ystadegau

Ochr yn ochr â’r diweddariad hwn, byddwn yn darparu gwybodaeth am y newid yn ein hadroddiad ystadegol misol, gan gynnwys dadansoddiad o faint yr anghysondeb a chanllawiau ar ddehongli tueddiadau dros amser.

Mae’r newid hwn mewn polisi yn darparu sail newydd ar gyfer monitro gweithgarwch a pherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru. Bydd ein pwyslais fel ystadegwyr ar sicrhau bod defnyddwyr yn deall beth sydd wedi newid, maint yr effaith y bydd y newid hwn yn ei chael, a’r goblygiadau wrth gymharu dros gyfnod o amser a rhwng gwahanol wledydd.

Fel bob amser, ein nod yw darparu ystadegau sy’n ddibynadwy, o ansawdd uchel ac o werth cyhoeddus, gan gefnogi trafodaeth wybodus am berfformiad gwasanaethau’r GIG yng Nghymru.

Stephanie Howarth
Prif ystadegydd