Diweddariad pellach ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog blaenorol, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst.

Mae’r neges hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith i ddisodli OData nes bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar waith yn 2025.

Beth fydd yn digwydd a sut bydd yn effeithio arnoch chi

Mae platfform StatsCymru yn caniatáu i bobl ddod o hyd i ddata am Gymru, ei weld a’i lawrlwytho.

Un o’r ffyrdd y mae pobl yn cyrchu data o’r platfform hwn yw drwy wasanaeth o’r enw OData. Mae hwn yn caniatáu i bobl gyrchu a defnyddio data mewn ffordd awtomataidd, raglennol gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn API – Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau.

Fel yr eglurwyd yn ein postiad blog blaenorol, ni fydd y gwasanaeth OData presennol ar gael o ddiwedd mis Awst 2024, ac rydym yn rhoi trefniadau dros dro ar waith fel y gall defnyddwyr barhau i gael mynediad at ddata yn rhaglennol gan StatsCymru yn y cyfamser. Dylai’r trefniadau hyn fod ar waith ar gyfer setiau data a gyhoeddir o 1 Medi ymlaen, a byddant ar waith nes bydd gwasanaeth newydd StatsCymru yn fyw.

Ffordd dros dro o gael mynediad i’r un data

Bydd yr ateb dros dro yn rhoi dolenni i ddefnyddwyr ar gyfer pob set ddata lle y gallwch lawrlwytho data tebyg i’r hyn a oedd ar gael drwy’r gwasanaeth OData. Bydd y data ar gael drwy brif ffeil CSV (wedi’i zipio oherwydd y maint), gyda ffeiliau cysylltiedig llai â gwybodaeth dimensiwn a metadata.  

Rydym wedi darparu enghraifft brawf o’r ffeiliau newydd ynghyd â manylion technegol pellach ar sut i’w defnyddio yn lle OData.

Bydd y ffeiliau newydd OData ar gael drwy URL statig ar gyfer pob set ddata, sy’n golygu na fydd y ddolen yn newid gyda phob diweddariad set ddata. Bydd yr URLs hefyd mewn fformat safonol ar draws setiau data, er enghraifft:

https://statscymru.llyw.cymru/Download/File?file=SCHS0262.zip

Bydd y ffeiliau newydd hyn ar gael o fis Medi ymlaen pryd bynnag y bydd set ddata yn cael ei diweddaru. Mae llawer o setiau data yn cael eu diweddaru bob chwarter neu bob blwyddyn. Unwaith y bydd y gwasanaeth OData wedi dod i ben ddiwedd mis Awst, os ceisiwch adnewyddu unrhyw ddolenni OData presennol sydd gennych, gallai hyn arwain at wall mewn unrhyw apiau neu ddangosfyrddau sy’n defnyddio’r data hyn.

Cymorth pellach

Nid yw’r newid hwn yn effeithio ar weddill safle StatsCymru a byddwch yn dal i allu dod o hyd i ddata, gweld data a lawrlwytho data o’r wefan yn y ffyrdd arferol eraill, yn ogystal â’r ffeiliau newydd sy’n cymryd lle OData.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â’r ateb dros dro, neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â ni drwy desg.ystadegau@llyw.cymru

Gadael sylw