Diweddariad pwysig ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ni fydd ein gwasanaethau OData ar gael o ddiwedd mis Awst. Mae hyn oherwydd y bydd Microsoft yn rhoi’r gorau i gefnogi’r dechnoleg ac ni fydd ein datrysiad newydd yn barod tan 2025.

Mae’r postiad hwn yn esbonio beth fydd yn digwydd, sut bydd yn effeithio arnoch chi a pha drefniadau dros dro yr ydym yn eu rhoi ar waith.

Beth fydd yn digwydd a sut bydd yn effeithio arnoch chi

Mae platfform StatsCymru yn caniatáu i bobl ddod o hyd i ddata am Gymru, ei weld a’i lawrlwytho. Un o’r ffyrdd y mae pobl yn cyrchu data o’r platfform hwn yw drwy wasanaeth o’r enw OData. Mae hwn yn caniatáu i bobl gyrchu a defnyddio data mewn ffordd awtomataidd, raglennol (gan ddefnyddio’r hyn a elwir yn API – Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau).

Bydd y dechnoleg bresennol mae gwasanaeth OData StatsCymru yn ei defnyddio yn cael ei dynnu gan Microsoft ddiwedd mis Awst 2024. Er mwyn parhau i gynnal gwasanaeth OData, byddai angen inni ddiweddaru’r rhan hon o’r dechnoleg. Fodd bynnag, byddai hyn yn gostus ac yn anodd ei wneud oherwydd oedran gwefan StatsCymru. Ar yr un pryd, rydym yn datblygu fersiwn newydd o StatsCymru, gyda gwasanaeth API newydd, sy’n golygu bod gan y wefan bresennol hyd oes cyfyngedig.

Felly, rydym wedi penderfynu peidio â diweddaru technoleg OData. Mae hyn yn golygu y bydd y gwasanaeth OData presennol yn dod i ben ddiwedd mis Awst. Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar weddill gwefan StatsCymru. Byddwch yn dal i allu dod o hyd i ddata o’r wefan, ei weld a’i lawrlwytho mewn ffyrdd eraill.

Ffordd dros dro o gael mynediad i’r un data

Rydym yn deall y bydd dod â’r fersiwn gyfredol o’r gwasanaeth i ben yn amharu ar bobl sy’n ei ddefnyddio. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad dros dro a fydd yn caniatáu ichi gyrchu’r data a oedd ar gael yn awtomatig drwy’r gwasanaeth OData mewn ffordd wahanol.

Rydym yn dal i brofi’r datrysiad dros dro hwn a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y blog hwn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dyfodol StatsCymru

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu’r fersiwn nesaf o StatsCymru. Mae’r fersiwn bresennol o StatsCymru wedi bod ar waith ers 12 mlynedd ac, fel mae’r sefyllfa gydag OData yn dangos, mae’n cyrraedd diwedd ei hoes.

Rydym yn creu gwasanaeth data agored modern a dwyieithog sy’n cyflwyno data hygyrch sy’n hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio, ni waeth beth yw eich lefel o lythrennedd data. Bydd gwasanaeth API, ar gyfer cyrchu data agored mewn ffordd awtomataidd raglennol, yn un o nodwedd allweddol y ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio. Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth newydd yn y cyfnod beta preifat a bydd yn fyw yn 2025. Os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil a’r profion defnyddwyr wrth inni ddatblygu’r gwasanaeth newydd hwn, cysylltwch â desg.ystadegau@llyw.cymru.

Gadael sylw