Cyhoeddwyd rhifyn diweddaraf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) ar 27 Tachwedd 2019. Mae’r mynegai yn graddio ardaloedd bach yng Nghymru yn ôl eu lefelau cymharol o amddifadedd, fel incwm ac iechyd, ac yn cyfuno’r rhain i fesur amddifadedd lluosog cyffredinol.

Rydym wedi cael llawer o ymholiadau yn gofyn pryd mae’r mynegai nesaf yn dod. Mae’r blog hwn yn rhoi diweddariad i ddefnyddwyr MALlC ar bryd i ddisgwyl mynegai newydd, a pha ddata sydd ar gael yn y cyfnod interim.
Pryd fyddwn ni’n diweddaru MALlC?
Ein nod yw cyhoeddi’r MALlC nesaf ddiwedd 2025 neu ddechrau 2026, a byddwn yn cadarnhau’r amseriad hwn pan fo’n bosibl.
Mae newidiadau mewn graddfeydd amddifadedd cymharol yn tueddu i fod yn fach dros gyfnodau byrrach, a hyd yn oed yn llai ar gyfer degraddau a chwintelau amddifadedd sydd yn fesurau a ddefnyddir yn fwy cyffredin. Yn y gorffennol, mae MALlC wedi’i ddiweddaru bob 3 i 5 mlynedd, ond mae rhai o’r rhesymau pam ein bod yn cynnig bwlch ychydig yn hirach y tro hwn yn cynnwys y canlynol:
- bu tarfu ar waith a gynlluniwyd gan y tîm dadansoddol y tu ôl i MALlC oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19), yn sgil dargyfeirio adnoddau i gefnogi gwaith sy’n ymwneud â’r pandemig, a’r effaith ar argaeledd llawer o setiau data sy’n sail i MALlC
- hoffem gynhyrchu’r ciplun gorau posibl o amddifadedd lluosog drwy adolygu’r holl ddangosyddion data yr ydym yn eu defnyddio (roedd 47 o ddangosyddion yn MALlC 2019) gydag arbenigwyr pwnc, ac mae hyn yn cymryd amser
- rydym yn gwybod bod angen inni wneud rhai newidiadau neu welliannau i bethau fel mesur incwm ac amddifadedd cyflogaeth (oherwydd y gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol) neu’r ffordd yr ydym yn cyhoeddi data ac offer i archwilio MALlC
- rydym am i’r mynegai fod yn seiliedig ar ddaearyddiaethau diweddaraf ardaloedd bach, a ddefnyddir yng Nghyfrifiad 2021, sy’n golygu gwneud rhai newidiadau i’n prosesau
Pa ddata y dylid eu defnyddio tan hynny

Yn y cyfamser, mae llawer i’w archwilio o hyd yn y data y tu ôl i MALlC 2019, sy’n parhau i fod y mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Cyhoeddir holl raddfeydd a dangosyddion data MALlC ar StatsCymru, yn ogystal ag mewn tabl ochr yn ochr ag adroddiadau ar ein gwefan MALlC 2019. Mae ein gwefan ryngweithiol boblogaidd yn allbynnu mapiau a phroffiliau amddifadedd ardaloedd ar gyfer codau post a lleoedd.
Yn ein canllawiau rydym yn cynghori defnyddwyr bod y mynegai fwyaf defnyddiol pan gaiff ei ddefnyddio gyda gwybodaeth arall gan gynnwys o’r dangosyddion sylfaenol, data cyhoeddedig eraill neu wybodaeth leol. Daw hyn yn fwyfwy perthnasol wrth inni symud ymhellach oddi wrth y ciplun diweddaraf, pan allai ffynonellau mwy diweddar fel Cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddarparu gwybodaeth newydd, er enghraifft drwy’r data ar aelwydydd yn ôl dimensiynau amddifadedd (SYG).
Ers swp cyntaf canlyniadau MALlC 2019 ym mis Tachwedd 2019, rydym wedi cyhoeddi llawer o allbynnau dilynol i helpu defnyddwyr y mynegai i dynnu ynghyd negeseuon allweddol a gwneud defnydd llawn o’r setiau data. Mae rhestr o allbynnau ar ein gwefan, ond dyma flas o’r hyn sydd ar gael:
- ystadegau ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig sy’n archwilio sut mae is-grwpiau o’r boblogaeth yn wahanol o ran lefelau amddifadedd o’r ardaloedd y maent yn byw ynddynt
- tabl daearyddiaethau lle gallwch chi chwilio am godau post i allbynnu graddfeydd a grwpiau amddifadedd MALlC
- dadansoddiad o ddangosyddion data MALlC i archwilio patrymau amddifadedd ymhlith plant ifanc 7 oed ac iau
- adroddiad ar sut y gellir mesur amddifadedd mewn gofal sylfaenol a sut mae gweithlu practisau cyffredinol yn wahanol yn ôl lefel amddifadedd cymharol
- dadansoddiad o ardaloedd mewn amddifadedd hirsefydlog (ardaloedd sy’n gyson ymhlith y 50 ardal mwyaf difreintiedig yng Nghymru) gan ddefnyddio dangosyddion data MALlC

Newidiadau i ffiniau yn dilyn Cyfrifiad 2021
Fel rhan o ddiweddariad Cyfrifiad 2021, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwneud rhai newidiadau i Ddaearyddiaethau Allbynnau Ardaloedd, gyda sgil-effaith ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) sy’n ffurfio’r blociau adeiladu ar gyfer MALlC.
Rydym wedi edrych ar y newidiadau hyn, ac erbyn hyn mae cyfanswm o 1,917 o ACEHI yng Nghymru o’i gymharu ag 1,909 o ACEHI ar ôl Cyfrifiad 2011. Mae 1,837 o ACEHI yng Nghymru wedi parhau heb eu newid, mae 45 wedi cael eu huno i 22 o ACEHI newydd, ac mae 27 wedi’u rhannu’n 58 ACEHI newydd.
Gofynnwyd inni am gynlluniau i ddiwygio’r mynegai diweddaraf – MALlC 2019 – i fod yn seiliedig ar ACEHI newydd Cyfrifiad 2021 yn hytrach na ACEHI 2011. Nid ydym yn bwriadu gwneud hyn, ac nid oes gennym yr holl ddata sylfaenol sydd eu hangen i’w wneud yn gywir. Byddwn yn hytrach yn canolbwyntio ar gynhyrchu’r mynegai nesaf yn 2025/26 ar y sail newydd.
Os oes angen brys am ddata ar amddifadedd cymharol ar gyfer rhai o’r ardaloedd (nifer cymharol fach) yr effeithir arnynt gan newidiadau i ffiniau, dylai dadansoddwyr ystyried y ffordd orau i ddefnyddio data MALlC 2019 i ddarparu amcangyfrifon sy’n addas at eu diben. Ar gyfer yr ardaloedd wedi’u rhannu, efallai mai un dull fyddai neilltuo’r un raddfa neu ddegradd ag oedd gan yr ardal wreiddiol, fwy, i’r ardaloedd newydd. Ar gyfer ardaloedd wedi’u huno, gall wneud synnwyr edrych ar y graddfeydd neu’r degraddau a ddyrennir i’r ardaloedd gwreiddiol, llai, a dyrannu’r rhai mwyaf difreintiedig i’r ardal newydd, unedig. Mae canllawiau MALlC 2019 yn esbonio pam nad yw fel arfer yn ddilys cyfrifo graddfeydd ar gyfer daearyddiaethau mwy drwy gymryd cyfartaledd.
Ymunwch â’n rhestr ddosbarthu
Bydd diweddariadau pellach wrth inni ddechrau gweithio tuag at y mynegai newydd. Os ydych chi am gael gwybod am wybodaeth newydd ynghylch MALlC, anfonwch e-bost at ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.
Post gan, Nia Jones, Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru