Diweddariad y Prif Ystadegydd: deall data Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) Cymru

Read this page in English

Heddiw fe wnaethom gyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyflwyno data Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer cartrefi yng Nghymru.

Pam yr ydym ni wedi cyhoeddi’r dangosfwrdd hwn?

Hyd yma ni fu ffordd hygyrch ar gael i edrych ar ddata Tystysgrif Perfformiad Ynni penodol i Gymru oedd yn cynnwys yr holl ddeiliadaethau, sy’n rhywbeth y mae defnyddwyr yr ystadegau EPC wedi dweud wrthym y byddent yn ei groesawu.

Beth yw Tystysgrifau Perfformiad Ynni?

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni ddilys yn ofynnol bob tro y bydd cartref yn cael ei werthu neu ei rentu. Maent yn ddilys am 10 mlynedd. Er mwyn cael Tystysgrif Perfformiad Ynni, bydd asesydd ynni cymwys yn archwilio cartref ac yn cofnodi gwybodaeth megis y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w adeiladu, y math o adeilad (tŷ, fflat, byngalo), y system wresogi ac unrhyw inswleiddio, er mwyn cyfrifo sgôr effeithlonrwydd ynni o A (y mwyaf effeithlon) i G (y lleiaf effeithlon).  Mae’r sgôr hwn yn ystyried y gost ynni debygol er mwyn rhedeg y cartref. Mae gwybodaeth Tystysgrif Perfformiad Ynni yn cael ei chofnodi ar y Gofrestr Perfformiad Ynni Adeiladau sydd o dan ofal yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC). Gall unrhyw un edrych ar ddata o’r Gofrestr drwy’r wefan OpenDataCommunities.

Beth sydd yn y dangosfwrdd?

Yn y dangosfwrdd rydym wedi’i gyhoeddi heddiw, rydym wedi cyflwyno dadansoddiadau o’r sgôr effeithlonrwydd ynni canolrifol a’r graddfeydd effeithlonrwydd ynni. Y mesurau hyn yw’r rhai a ddefnyddir amlaf i ddangos effeithlonrwydd ynni. Dim ond gwybodaeth ar gyfer Tystysgrifau Perfformiad Ynni dilys (a gofnodwyd yn y 10 mlynedd ddiwethaf) yr ydym wedi ei chyflwyno. Wrth edrych ar y darlun cyflawn, rydym wedi tynnu’r cofnod diweddaraf ar gyfer pob cartref. Wrth edrych ar flynyddoedd penodol, rydym wedi tynnu’r cofnod diweddaraf ar gyfer pob cartref yn ystod y flwyddyn honno.

Beth ddylid ei ystyried wrth ddefnyddio’r dangosfwrdd hwn?

Set ddata weinyddol yw’r Gofrestr Tystysgrifau Perfformiad Ynni, wedi ei chynllunio i gefnogi gweithrediadau’r llywodraeth (yn hytrach na swyddogaethau ystadegol ac ymchwil). Mae heriau’n gysylltiedig â defnyddio data gweinyddol ar gyfer ystadegau ac ymchwil, gan gynnwys ansicrwydd ynghylch ansawdd y data a adroddir amdanynt. Un cyfyngiad ar y set ddata EPC yw ei chwmpas. Dim ond ar gyfer tua hanner yr holl gartrefi yng Nghymru y mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni dilys (a gyflwynwyd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf) ar gael.

Wrth ddadansoddi data’r Tystysgrifau Perfformiad Ynni, rydym wedi canfod nifer bach o ganlyniadau annisgwyl. Er enghraifft, wrth edrych ar gartrefi gyda mwy nag un Dystysgrif Perfformiad Ynni wedi ei chofnodi rhwng mis Ionawr 2013 a mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom ganfod bod anheddau â sgôr A yn eu hasesiadau cynharaf yn tueddu i fod â sgôr B, C neu D yn eu hasesiad diweddaraf. Mae nifer o resymau posibl dros hyn. Mae’n bosibl bod newidiadau wedi eu gwneud i’r cartrefi hyn a allai fod wedi achosi’r effeithiolrwydd ynni i ddisgyn, er enghraifft ychwanegu estyniad. Gallai newidiadau mewn prisiau ynni hefyd fod wedi achosi cynnydd yn y costau ynni amcangyfrifedig. Mae’n bosibl hefyd y cyfrifwyd gwahanol sgorau effeithlonrwydd ynni o dan wahanol ddulliau (Defnyddir SAP (ar gyfer adeiladau newydd, estyniadau a newid defnydd) tra bod RdSAP (yn cael ei ddefnyddio ar gyfer anheddau presennol)). Er mwyn deall y data’n well a sicrhau ein bod yn eu defnyddio’n briodol, rydym yn bwriadu ymchwilio i’r canfyddiadau hynny gyda chydweithwyr yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC). Rydym hefyd yn bwriadu cymharu canlyniadau o Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017–18 â chofnodion Tystysgrifau Perfformiad Ynni a gofnodwyd oddeutu’r un adeg. Os byddwn yn canfod bod anheddau wedi derbyn sgôr tebyg yn yr asesiadau Tystysgrif Perfformiad Ynni a’r Arolwg Cyflwr Tai Cymru, bydd mwy o hyder gennym yn ansawdd data’r Tystysgrifau Perfformiad Ynni.

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol o safbwynt y dangosfwrdd hwn?

Mae’r mesurau effeithlonrwydd ynni a ddefnyddir amlaf wedi’u cynnwys yn fersiwn gyntaf y dangosfwrdd hwn. Fodd bynnag, mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn darparu llawer o wybodaeth arall (megis effaith amgylcheddol a gofynion gwresogi gofodau) sydd, o’u defnyddio ochr yn ochr â sgoriau effeithlonrwydd ynni, yn gallu darparu darlun mwy cyflawn o effeithlonrwydd ynni. Byddwn yn archwilio gwerth cynnwys mesurau eraill yn y rhifyn nesaf o’r dangosfwrdd yn unol â blaenoriaethau defnyddwyr.

Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni hefyd yn cynnwys gwybodaeth am waith gwella cartrefi a argymhellir, a allai gynyddu effeithlonrwydd ynni annedd. Rydym yn gweithio gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau er mwyn deall y ffordd orau y gallem ddefnyddio’r data hyn. Os oes gennych unrhyw adborth am y dangosfwrdd, neu os hoffech ein gweld yn cynnwys unrhyw beth mewn fersiynau yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd