Diweddariad y Prif Ystadegydd: cynlluniau i wella cydlyniad ystadegau ar y Gymraeg yng Nghymru

Read this page in English

Ym mis Rhagfyr 2022 cyhoeddwyd y datganiad cyntaf o ddata ar gyfer y Gymraeg o Gyfrifiad 2021, a oedd yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 538,300. Roedd hyn yn wahanol i rai ffynonellau eraill oedd yn awgrymu bod y ffigyrau wedi bod yn codi.

Rydym wastad wedi bod yn glir ein bod yn ystyried y cyfrifiad fel y ffynhonnell wybodaeth awdurdodol am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Defnyddiwyd data’r cyfrifiad fel sail ar gyfer y llwybr ystadegol i filiwn o siaradwyr Cymraeg yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn defnyddio data’r cyfrifiad i fonitro cynnydd yn erbyn y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae sawl ffynhonnell ddata arall ar gael sy’n rhoi ychydig o wybodaeth am y Gymraeg y gallwn ei defnyddio i fonitro tueddiadau yn y cyfnod rhwng cyfrifiadau. Mae gan y ffynonellau hyn eu cryfderau a’u cyfyngiadau eu hunain o ran ystadegau ar y Gymraeg.

Fel arfer mae arolygon cartrefi, megis yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn darparu amcangyfrifon uwch o nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg na’r cyfrifiad, ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (Gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon ynglŷn â sgiliau Cymraeg) a Llywodraeth Cymru (Data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: 2001 i 2018) wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol.

Er bod arolygon aelwydydd fel arfer yn rhoi amcangyfrifon uwch i ni o allu i siarad Cymraeg, yn gyffredinol maent wedi symud i gyfeiriad tebyg i amcangyfrifon y cyfrifiad. Fodd bynnag, gyda canlyniadau Cyfrifiad 2021, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng a’r arolygon cartrefi amcangyfrif bod y niferoedd wedi cynyddu. Roedd blog a gyhoeddwyd ochr yn ochr â datganiad cyntaf y cyfrifiad yn archwilio’r data yn fanylach, gan gynnwys beth oedd ffynonellau data eraill wedi dangos am y Gymraeg yn y cyfnod rhwng 2011 a 2021. Mae gweddill y blog hwn yn rhoi diweddariad i flog Rhagfyr 2022 ac mae’n amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydweithio i archwilio rhai o’r gwahaniaethau a welwyd rhwng y cyfrifiad a ffynonellau data eraill.

Mae'r siart yn dangos y canlyniadau’r Arolwg Blynyddol y Boblogaeth o 2001 tan ddiwedd Mawrth 2021. Yn 2001 roedd 834,500 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r tuedd yn gostwng tan 2007 ac wedyn yn cynyddu eto i 884,500 erbyn diwedd Mawrth 2021. Mae canlyniadau Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 hefyd wedi’u plotio ar yr un siart er mwyn dangos bod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol is; dros 300,000 yn is.

Gwella ein dealltwriaeth o ystadegau ar y Gymraeg

Oherwydd yr ystod o ffynonellau data sydd ar gael, nid yw’n syml i ddefnyddwyr ystadegau am allu yn y Gymraeg gysoni’r gwahanol amcangyfrifon, yn enwedig gan fod rhai amcangyfrifon yn dangos cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac eraill yn dangos bod y niferoedd yn gostwng. Gall hyn ei gwneud yn heriol gwybod sut i ddefnyddio’r ystadegau hyn i lywio polisi cyhoeddus iaith Gymraeg.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol dros y misoedd diwethaf i archwilio ymhellach beth allwn ei wneud i ddeall rhai o’r gwahaniaethau hyn yn well. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith cydweithredol i archwilio’r materion hyn yn fanylach.

Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw cysylltu data Cyfrifiad 2021 â data arolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol drwy’r Gwasanaeth Data Integredig. Bydd y prosiect cysylltu data arloesol hwn, un o’r prosiectau cyntaf i ddefnyddio’r Gwasanaeth Data Integredig, yn ein galluogi i ddysgu mwy am y grwpiau o bobl sy’n ymateb yn wahanol am eu gallu yn y Gymraeg rhwng y Cyfrifiad ac arolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac i edrych ar eu nodweddion. Dyma fydd y man cychwyn i wella cydlyniad ystadegau ar y Gymraeg ar draws ystod o ffynonellau data a’n dealltwriaeth ohonynt.

Gellir defnyddio canfyddiadau’r prosiect hwn wedyn i archwilio gwahaniaethau rhwng ffynonellau eraill, megis y Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (o ran amcangyfrifon o allu plant ysgol yn y Gymraeg) ac Arolwg Cenedlaethol Cymru (o ran yr amcangyfrifon o allu oedolion yn y Gymraeg).

Mae’r cynllun gwaith hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn ceisio deall nid yn unig sut y mae’r ffynonellau data hyn yn wahanol, ond pam. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio pam mae’r gwahaniaethau rhwng y ffynonellau data yn newid dros amser drwy ystyried yn fanylach agweddau ar ddulliau arolygu a dyluniad arolygiadau.

Ac yn olaf, ochr yn ochr â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar drawsnewid yr Arolwg o’r Llafurlu, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried sut i wella’r ystod o ystadegau ar y Gymraeg ymhellach drwy asesu opsiynau i gasglu gwybodaeth am bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ond sy’n byw y tu allan i Gymru. Mae hyn o bwys cynyddol o ystyried bod ein poblogaeth yn dod yn fwyfwy symudol.

Mae tasglu wedi’i sefydlu i oruchwylio’r gwaith hwn, sy’n cynnwys y fi a dadansoddwyr eraill o Lywodraeth Cymru ynghyd â swyddogion o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd drwy’r blog hwn a’n tudalennau ystadegau ac ymchwil. Bydd y gwaith hwn yn allweddol wrth i ni edrych tuag at ddyfodol ystadegau ar y Gymraeg.

Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd