Rydym wedi cyhoeddi blog Prif Ystadegydd o’r blaen sy’n rhoi cyngor ar ansawdd yr ystadegau sy’n deillio o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) ac un arall sy’n tynnu sylw at welliannau a gyflwynwyd i amcangyfrifon y farchnad lafur a’r effeithiau a gafodd y newidiadau hyn ar ddibynadwyedd ystadegau’r farchnad lafur yng Nghymru.
Heddiw, yn dilyn ymyriadau parhaus gan y SYG i wella ansawdd yr LFS, rydym yn trafod sut mae’r datblygiadau hyn wedi effeithio ar ystadegau’r farchnad lafur ar gyfer Cymru a’r dull rydym yn parhau i’w argymell er mwyn rhoi darlun cadarn ac amserol o farchnad lafur Cymru.
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg.
Heriau a gwelliannau o ran yr Arolwg o’r Llafurlu
Ers mis Chwefror 2024 mae’r SYG wedi gwneud nifer o welliannau i’r LFS er mwyn gwella dibynadwyedd yr amcangyfrifon sy’n deillio o’r arolwg. Roedd y gwaith gwella cychwynnol yn cynnwys ailbwysoli’r LFS yn seiliedig ar yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf sydd ar gael, dechrau gwneud rhai cyfweliadau wyneb yn wyneb eto, cynyddu’r cymelliadau ar gyfer ymatebion a rhoi hwb i faint sampl yr arolwg. Er bod yr ymyriadau hyn wedi arwain at rai gwelliannau cadarnhaol yn ystadegau’r farchnad lafur, roedd nifer yr ymatebion a gofnodwyd yn yr arolwg yn parhau i fod yn isel yn ôl safonau hanesyddol, gan gyfyngu felly ar ansawdd yr amcangyfrifon ar gyfer Cymru.
Yn ogystal â’r gwelliannau blaenorol sydd bellach wedi’u hymgorffori’n llawn yn nata’r LFS, mae’r SYG hefyd wedi cynyddu nifer y cyfwelwyr maes. Ar y cyd, mae’r gwelliannau hyn wedi parhau i gael effaith gadarnhaol amlwg ar nifer yr ymatebion a gyflawnwyd i’r LFS ledled y DU. Mae’n dal i fod yn wir, fodd bynnag, bod yr ymatebion i’r arolwg yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y cyfnodau cyn y pandemig.
Yr Arolwg o’r Llafurlu: effeithiau’r ymyriadau o ran Cymru
Mae’r ymyriadau a wnaed i’r LFS wedi gwella nifer yr ymatebion a’r dibynadwyedd ar lefel Cymru. Er hynny, mae nifer yr ymatebion yn dal i fod yn isel yn ôl safonau hanesyddol. O’i gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, mae’r data yn dal i ddangos mwy o amrywiadau oherwydd bod cyfyngau hyder y samplu yn parhau i fod yn lletach, ac mae’r prif ffigurau a’r prif dueddiadau wedi parhau i wyro oddi wrth ffynonellau data swyddogol eraill am y farchnad lafur.
Mae amrywioldeb samplu yn cyfeirio at y ffordd y mae canlyniadau arolwg yn gallu newid, gan ddibynnu’n syml ar ba bobl a gynhwysir yn yr arolwg mewn cyfnod penodol.
Mae cyfyngau hyder lletach yn dangos mwy o ansicrwydd a llai o fanwl gywirdeb o ran amcangyfrif y gwir fesur o’r farchnad lafur.
Oherwydd yr anwadalrwydd cynyddol a’r cyfyngau hyder lletach ers canol 2022, fel y dangosir yn ffigurau 1 a 2, mae’n anodd nodi a yw’r newidiadau chwarterol a blynyddol yn y data yn adlewyrchiad gwirioneddol o newidiadau ym marchnad lafur Cymru, ynteu ai dim ond effaith y sampl llai sy’n gyfrifol am hyn.
Ffigur 1: cyfradd gyflogaeth a chyfyngau hyder yr LFS ar gyfer Cymru, y tri mis hyd at fis Ionawr 2019 i’r tri mis hyd at fis Ionawr 2026 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Disgrifiad o ffigur 1: siart sy’n dangos cyfraddau cyflogaeth yr LFS a’r cyfyngau hyder cyfatebol ar gyfer Cymru. Mae’r gyfradd gyflogaeth wedi gostwng yn gyffredinol ers 2019 ochr yn ochr â chynnydd mewn cyfyngau hyder, yn enwedig o ganol 2022; fodd bynnag, mae’r cyfyngau hyder wedi culhau ychydig ers yr ymyriadau diweddaraf gan y SYG.
[Nodyn 1] Y rheswm dros y cyfnodau coll yn y data rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023 a mis Tachwedd a mis Ionawr 2024 yn ffigurau 1 a 2 yw bod y SYG wedi gohirio’r LFS dros dro ar gyfer y cyfnodau hyn ar eu hamser cyhoeddi gwreiddiol.
[Nodyn 2] Mae’r data a gyflwynir ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2022 hyd at fis Medi i fis Tachwedd 2023 yn defnyddio cyfyngau hyder sy’n seiliedig ar bwysoliad LFS hŷn. Mae’r SYG wedi cadarnhau na fyddai gwahaniaeth arwyddocaol rhwng cyfyngau hyder a seilir ar y pwysoliadau blaenorol a rhai a seilir ar y pwysoliadau diweddaraf.
Ffigur 2: cyfradd ddiweithdra a chyfyngau hyder yr LFS ar gyfer Cymru, y tri mis hyd at fis Ionawr 2019 i’r tri mis hyd at fis Ionawr 2026 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Disgrifiad o ffigur 2: siart sy’n dangos cyfraddau diweithdra yr LFS a’r cyfyngau hyder cyfatebol yng Nghymru. Mae anwadalrwydd y gyfradd ddiweithdra a maint y cyfyngau hyder cyfatebol wedi cynyddu ers 2019, yn enwedig o ddiwedd 2022; fodd bynnag, mae’r cyfyngau hyder wedi culhau ychydig ers yr ymyriadau diweddaraf gan y SYG.
[Nodyn 1] Y rheswm dros y cyfnodau coll yn y data rhwng mis Mehefin a mis Awst 2023 a mis Tachwedd a mis Ionawr 2024 yn ffigurau 1 a 2 yw bod y SYG wedi gohirio’r LFS dros dro ar gyfer y cyfnodau hyn ar eu hamser cyhoeddi gwreiddiol.
[Nodyn 2] Mae’r data a gyflwynir ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2022 hyd at fis Medi i fis Tachwedd 2023 yn defnyddio cyfyngau hyder sy’n seiliedig ar bwysoliad LFS hŷn. Mae’r SYG wedi cadarnhau na fyddai gwahaniaeth arwyddocaol rhwng cyfyngau hyder a seilir ar y pwysoliadau blaenorol a rhai a seilir ar y pwysoliadau diweddaraf.
Mae ansicrwydd amcangyfrifon yr LFS yn parhau i fod yn amlwg wrth gymharu’r LFS â ffynonellau data eraill. Mae niferoedd a thueddiadau cyflogaeth yr LFS yng Nghymru wedi gwyro oddi wrth ddata Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE) Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) am gyflogeion ers 2021, fel y dangosir yn ffigur 3.
Ffigur 3: cyfradd gyflogaeth yr LFS a thueddiadau cyflogeion RTI PAYE CTheF ar gyfer Cymru a’r DU, y tri mis hyd at fis Ionawr 2019 i’r tri mis hyd at fis Ionawr 2026 (Rhagfyr i Chwefror 2019 i Dachwedd i Ionawr 2020 = 100)

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell sy’n dangos cyfraddau cyflogaeth yr LFS a niferoedd cyflogeion RTI PAYE CThEF ar gyfer Cymru a’r DU, wedi’u mynegeio i’r cyfnod Rhagfyr i Chwefror 2019 i fis Tachwedd i Ionawr 2020. Mae niferoedd y cyflogeion RTI PAYE wedi dangos tueddiadau tebyg rhwng Cymru a’r DU ers 2019, ond mae cyfradd gyflogaeth yr LFS ar gyfer Cymru wedi gwyro oddi wrth gyfradd y DU ac wedi dangos tueddiadau gwahanol i ddata RTI PAYE.
Mae’n werth nodi bod y ddwy ffynhonnell ddata a gyflwynir yn Ffigur 3 yn dangos mesurau cyflogaeth ychydig yn wahanol, gan fod data RTI CThEF yn cynnwys cyflogeion yn unig a data’r LFS yn cynnwys pobl hunangyflogedig. Er y gall newidiadau mewn hunangyflogaeth fod yn rhan fach o’r esboniad dros y gwahaniaethau yn nhueddiadau’r ffynonellau, mae’r gwahaniaeth parhaus yn dal i fod yn achos pryder.
Er bod addasiadau diweddar i’r LFS wedi cryfhau maint y samplau a gwella dibynadwyedd, mae’r LFS yn parhau i ddangos mwy o amrywioldeb, cyfyngau hyder lletach a llai o gysondeb â ffynonellau eraill, sy’n awgrymu bod yr LFS yn dal i gynnig darlun ansicr o farchnad lafur Cymru o’i ystyried ar ei ben ei hun.
Rhoi darlun cliriach o farchnad lafur Cymru
Mae’r SYG yn parhau i ddatblygu’r Arolwg Diwygiedig o’r Llafurlu (TLFS), sy’n anelu at ddarparu amcangyfrifon mwy dibynadwy a chadarn o’r farchnad lafur ledled y DU yn y dyfodol. Yn y cyfamser, fodd bynnag, er bod yr ymyriadau y mae SYG wedi’u gwneud i’r LFS wedi gwella ansawdd yr amcangyfrifon, mae’r rhain yn dal i fod yn ansicr. Rydym yn parhau i argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â’r tueddiadau mewn mesurau eraill yn y farchnad lafur, yn enwedig swyddi’r gweithlu (mesur chwarterol o swyddi), nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra, a’r data RTI gan CThEF (nifer y cyflogeion ar y gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru. Mae pob un o’r cyfresi hyn yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru yn dilyn tuedd debyg i’r DU gyfan.
Bydd ein bwletin Trosolwg o’r Farchnad Lafur yn parhau i ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data sy’n berthnasol i’r farchnad lafur, gan roi darlun amserol a chynhwysfawr o farchnad lafur Cymru bob mis.
Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd