Ar ôl ymgysylltu’n helaeth ag awdurdodau lleol, mae gennym restr derfynol o enwau sydd wedi’u diweddaru ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) yng Nghymru. Mae’r enwau hyn, sydd wedi eu diweddaru mewn modd reddfol, yn ddwyieithog ac yn adlewyrchu enwau’r wardiau etholiadol a’r cymunedau lleol y maent yn eu cynrychioli.
Beth yw LSOAs?
Ardaloedd daearyddol â maint poblogaeth tebyg i’w gilydd yw LSOAs, a ddefnyddir i lunio adroddiadau ar ystadegau ardaloedd bach. Mae 1,917 o LSOAs yng Nghymru, pob un yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd, a phoblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl. Crëwyd yr ardaloedd hyn gyntaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar ôl Cyfrifiad 2001, ac maent yn cael eu newid ar adeg pob cyfrifiad i adlewyrchu newidiadau yn y boblogaeth.
Pam fod angen diweddaru’r enwau?
Mae’r enwau a ddarperir gan yr ONS yn seiliedig ar awdurdodau lleol, nad ydynt o reidrwydd yn enwau greddfol i’r defnyddwyr. Er enghraifft, nid yw “Denbighshire 004E” yn adlewyrchu’n glir yr ardal y mae’n ei chynrychioli. Yn 2005, cyflwynodd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) enwau lleol ar gyfer LSOAs er mwyn darparu disgrifiadau cliriach i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau lleol, y cyfryngau a’r cyhoedd. Yn dilyn pob cyfrifiad, gallai’r LSOAs newid yn seiliedig ar newidiadau yn y boblogaeth, ac arweiniodd cyfrifiad 2021 at greu nifer o LSOAs newydd. Yn dilyn adolygiad o wardiau etholiadol yng Nghymru yn 2022, roedd angen diweddaru’r enwau gwreiddiol er mwyn parhau i fod yn gyson â nhw.
Sut aethom ati i ymgysylltu?
Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom ofyn i aelodau Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru am adborth ar ein rhestr arfaethedig o enwau LSOAs ar ôl eu diweddaru, yn seiliedig ar fethodoleg gychwynnol. Wedyn, fe wnaethom gyfarfod â nifer o awdurdodau lleol a oedd wedi ymateb, a chafodd ein methodoleg ei hadolygu ar sail yr adborth a gafwyd.
Ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom anfon rhestr newydd o enwau yn seiliedig ar y fethodoleg ddiwygiedig, gan wahodd sylwadau ac adborth pellach.
Buom yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau ein bod yn defnyddio dull gweithredu cyson wrth ymdrin â phob enw, a bod yr enwau newydd yn gywir, yn ddwyieithog ac yn adlewyrchu enwau’r wardiau etholiadol a’r ardaloedd lleol.
Beth nesaf?
Mae’n bleser gennym roi gwybod ichi fod y rhestr derfynol o Cyfrifiad 2021 Enwau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) (StatsCymru) wedi’i chyhoeddi. Mae’r diweddariad hwn yn darparu rhestr swyddogol o enwau’r holl LSOAs yng Nghymru, gan ei gwneud hi’n haws i bawb ddeall a defnyddio ystadegau ardaloedd bach.
Rydym yn gwerthfawrogi’r cydweithrediad a’r mewnbwn a gafwyd gan yr awdurdodau lleol a’r rhanddeiliaid a fu’n rhan o’r broses hon. Mae yna nifer bach o LSOAs lle mae’r awdurdodau lleol wedi nodi’r posibilrwydd y byddant yn adolygu’r enwau hynny ymhellach, ac os bydd unrhyw newidiadau pellach byddwn yn diweddaru’r rhestr a gyhoeddwyd, gan nodi’r enwau sydd wedi newid. Mae awdurdodau lleol a Chomisiynydd y Gymraeg wedi ein helpu i sicrhau ansawdd yr enwau, ond os gwelwch fod yna gamgymeriad, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod inni drwy e-bostio: data@llyw.cymru.