Y diweddaraf ar gyfer defnyddwyr OData StatsCymru

Read this page in English.

Rydym yn gweithio ar blatfform newydd a gwell ar gyfer StatsCymru i gadw i fyny â diweddariadau technolegol ac anghenion defnyddwyr. O ganlyniad, ac fel yr esboniwyd yn ein blog cyntaf, nid yw ein gwasanaethau OData wedi bod ar gael ers diwedd mis Awst. Gwnaethon ni esbonio yn y diweddariad fis diwethaf y cynlluniau dros dro fydd yn cael eu rhoi ar waith tan y caiff gwasanaeth newydd StatsCymru ei sefydlu yn 2025.

Mae’r blog hwn yn esbonio’r trefniadau dros dro ar gyfer ffeiliau data fydd yn cymryd lle OData.

Mae’r trefniadau dros dro nawr yn fyw

Ein bwriad oedd sicrhau bod y trefniadau dros dro ar gael o 1 Medi. Gwnaethon ni gwblhau’r profion wythnos yma ac mae’r trefniadau nawr yn fyw. Dyma sut mae lawrlwytho’r data oedd ar gael trwy’r gwasanaeth OData tan y bydd gwasanaeth newydd StatsCymru ar ei draed. Rydyn ni wedi diweddaru adran help gwasanaeth StatsCymru sy’n ymdrin â’r ffeiliau sydd ar gael trwy’r trefniadau hyn.

Cael at y data

O hyn ymlaen, pan fyddwn yn diweddaru set ddata, byddwch yn gallu lawrlwytho’r data trwy’r dolenni perthnasol.

Mae hyn yn golygu na fydd gan lawer o’n ciwbiau data y ffeiliau ichi allu eu lawrlwytho eto. Mae llawer o’n ciwbiau data sy’n cael eu defnyddio amlaf yn cael eu diweddaru bob mis neu bob chwarter. Bydd y rheini felly’n cael eu diweddaru cyn hir. O ran y rheini sy’n cael eu diweddaru bob blwyddyn os o gwbl, byddwn yn eu hadfywio er mwyn ichi allu lawrlwytho’r data, os ydyn ni’n gwybod bod defnydd helaeth yn cael ei wneud ohonynt trwy’r gwasanaeth OData.

Cymorth pellach

I’ch atgoffa, nid yw’r newid hwn yn effeithio ar weddill safle StatsCymru a byddwch yn dal i allu dod o hyd i ddata, gweld data a lawrlwytho data o’r wefan yn y ffyrdd arferol eraill, yn ogystal â’r ffeiliau newydd sy’n cymryd lle OData.

Rydyn ni am ddiolch i bawb sy’n defnyddio OData StatsCymru am eu hamynedd wrth i ni wneud y newidiadau hyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am y trefniadau dros dro, neu os oes angen rhagor o help arnoch, cysylltwch â ni drwy desg.ystadegau@llyw.cymru