Diweddariad y Prif Ystadegydd: dadgyfuno data cyfiawnder Cymru

Heddiw, rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus i wella’r data ym maes cyfiawnder yng Nghymru sydd ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys datblygu dangosfyrddau rhyngweithiol i ddod â’r data sydd ar gael ar Gymru at ei gilydd mewn un lle. Fore heddiw, cyhoeddwyd y cyntaf o’r dangosfyrddau hyn – y Dangosfwrdd Rhyngweithiol Cyfiawnder Ieuenctid.

Read this page in English.

Pam mae gennym ddiddordeb mewn gwella mynediad at ddata cyfiawnder Cymru?

Cynhaliodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, comisiwn annibynnol a benodwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017, adolygiad o’r system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddodd y Comisiwn yr adroddiad Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru ym mis Hydref 2019 i osod gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru.

Ymhlith nifer o argymhellion, pwysleisiodd yr adroddiad bwysigrwydd casglu a chyhoeddi data cyfiawnder penodol i Gymru sydd ar raddfa ddigonol i’w gwneud yn bosibl eu dadgyfuno, gyda’r bwriad o ddatblygu polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth briodol ac fel sail ar gyfer ymchwil.

Beth rydym wedi bod yn ei wneud i wella’r data cyfiawnder sydd ar gael ar gyfer Cymru?

Mae ein dadansoddwyr wedi adolygu’r tirwedd o ran data cyfiawnder Cymru ac wedi nodi nifer o fylchau ar draws pob agwedd ar y system gyfiawnder. Rydym bellach yn trafod ein canfyddiadau gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gyfeirio at y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a’r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd i lywio ein blaenoriaethau data.

Gellir dod o hyd i ddata cyfiawnder presennol ar gyfer Cymru mewn amrywiol ddatganiadau ystadegol, ond yn aml cânt eu rhannu ar draws tablau data agored neu offerynnau daearyddol. Mae ein hystadegwyr wedi bod yn dod â’r gwahanol setiau data hyn at ei gilydd i ddangosfyrddau Power BI i greu un set o gynnyrch ystadegol ar gyfer defnyddwyr data cyfiawnder Cymru. Y dangosfwrdd rhyngweithiol cyfiawnder ieuenctid yw’r cyntaf o’r dangosfyrddau hyn y cynlluniwyd ei ryddhau.

Beth sydd yn y dangosfwrdd?

Mae’r dangosfwrdd yn dwyn ynghyd y data penodol i Gymru yn nhablau’r ystadegau blynyddol ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid (Saesneg yn unig), a gyhoeddir gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Mae pedwar prif faes pwnc yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd:

  1. Plant sy’n troseddu – nifer a nodweddion plant a dderbyniodd rybuddion neu ddedfrydau yng Nghymru
  2. Troseddau Profedig – nifer a natur troseddau profedig a gyflawnwyd gan blant yng Nghymru
  3. Canlyniadau – nifer y rhybuddion neu’r dedfrydau a roddwyd i blant yng Nghymru
  4. Dangosyddion Perfformiad Cyfiawnder Ieuenctid Cymru – cyfres o ddangosyddion perfformiad sy’n benodol i’r system Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys llety; addysg, hyfforddiant a chyflogaeth; camddefnyddio sylweddau; ac iechyd meddwl.

Beth ddylid ei ystyried wrth ddefnyddio’r dangosfwrdd hwn?

Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr yn cyhoeddi Canllaw i ystadegau cyfiawnder ieuenctid (Saesneg yn unig) sy’n rhoi mwy o fanylion am ystadegau cyfiawnder ieuenctid a gyflwynir yn y bwletin ystadegau cyfiawnder ieuenctid blynyddol (ffynhonnell ddata’r dangosfwrdd hwn).

Mae’r data a gynhwysir ar ddangosyddion perfformiad Cyfiawnder Ieuenctid yn ymwneud â’r dangosyddion fel yr oeddent cyn 1 Ebrill 2023. Lluniwyd dangosyddion perfformiad allweddol newydd gan Weinyddiaeth Gyfiawnder y DU mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, gwasanaethau rheng flaen, arolygiaethau ac adrannau eraill y llywodraeth, ac maent wedi dod i rym o 1 Ebrill 2023. Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion newydd hyn i’w gweld ar y dudalen we dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr) (Saesneg yn unig).

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer dangosfyrddau cyfiawnder rhyngweithiol yn y dyfodol?

Cyhoeddir y data sy’n ffynhonnell i’r dangosfwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol, a’n bwriad yw eu diweddaru cyn gynted â phosibl. Rydym yn ystyried ffynonellau data eraill sy’n ymwneud â Chyfiawnder Ieuenctid i’w cynnwys mewn diweddariadau yn y dyfodol.

Mae gennym nifer o ddangosfyrddau eraill ar y gweill, gan gynnwys pynciau fel llysoedd, tribiwnlysoedd, carchardai, troseddu a chymorth cyfreithiol. Rydym wir yn croesawu adborth er mwyn sicrhau bod y dangosfwrdd hwn a dangosfyrddau yn y dyfodol yn diwallu anghenion defnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y dangosfwrdd cyfiawnder ieuenctid neu os oes unrhyw beth yr hoffech ei weld yn cael ei gynnwys mewn fersiynau yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.