Y fis diwethaf fe wnaethom ddweud wrthych am y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i wella mynediad at ddata ar effeithlonrwydd ynni cartrefi, gan gynnwys cyhoeddi dangosfwrdd newydd sy’n defnyddio gwybodaeth am dystysgrifau perfformiad ynni. Os gwnaethoch chi fethu hwn, gallwch darllen y post blog. Heddiw, rydym yn ehangu ein gwaith ar ynni a thanwydd ymhellach drwy gyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol o ddata tlodi tanwydd ar gyfer cartrefi yng Nghymru.
Pam ydyn ni wedi cyhoeddi’r dangosfwrdd hwn?
Dywedodd rhanddeiliaid a llunwyr polisi wrthon ni bod angen am ‘siop un stop’ ar gyfer ystadegau ar dlodi tanwydd a phynciau cysylltiedig. Dywedasant nad oedd yn hawdd dod o hyd i’r wybodaeth yr oedd ei hangen arnynt ac nad oedd bob amser yn cael ei chyflwyno mewn ffordd hawdd ei deall. Felly dechreuodd y Tîm Tystiolaeth Cyflwr Tai i ddatblygu offeryn hygyrch sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio’r data yn rhyngweithiol, yn hytrach nag adroddiad cryno statig yn unig.
Beth ydy ‘tlodi tanwydd’?
Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na allant gadw ei gartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, caiff hyn ei fesur fel unrhyw aelwyd a fyddai’n gorfod gwario mwy na 10% o’i hincwm ar gynnal trefn wresogi foddhaol.
Mae gan bob gwlad yn y DU ei metrigau a’i mesurau ei hun ar gyfer tlodi tanwydd felly nid yw’n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol. Mae’r erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Tlodi tanwydd ar draws y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn egluro hyn yn llawn.
Beth sydd yn y dangosfwrdd?
Mae’r dangosfwrdd yn cyflwyno data mewn pedair prif adran:
- amcangyfrifon tlodi tanwydd: edrychwn yn fanwl ar nifer yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol, y rhai sydd mewn perygl o dlodi tanwydd, ac aelwydydd sy’n agored i niwed.
- prisiau tanwydd: rydym yn dangos y mynegeion ynni prisiau domestig a chap prisiau Ofgem yn y blynyddoedd diwethaf, a hefyd dadansoddiad ar lefel yr awdurdod lleol o nifer yr aelwydydd sydd wedi derbyn taliadau tanwydd gaeaf yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
- incwm aelwydydd: mae’r ffocws yma yn bennaf ar incwm gwario crynswth aelwydydd (GDHI) (StatsCymru) a hefyd yr aelwydydd hynny islaw incwm cyfartalog (HBAI) (Adran Gwaith a Phensiynau).
- effeithlonrwydd ynni cartrefi: mae hyn yn cynnwys data ar rai o’r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar effeithlonrwydd ynni fel gweithgarwch y Rhaglen Cartrefi Cynnes, gan gynnwys cynlluniau NEST ac ARBED; a mesurau Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni.
Beth ddylid ei ystyried wrth ddefnyddio’r dangosfwrdd hwn?
Daw’r data a gyflwynir yn y dangosfwrdd o amrywiaeth o ffynonellau, felly er ei fod yn weddol gynhwysfawr, nid yw bob amser yn gymaradwy. I bwysleisio eto, mae pob gwlad yn y DU yn defnyddio ei metrigau a’i mesurau tlodi tanwydd ei hun ac felly mae cymariaethau ar draws y DU yn gyfyngedig.
Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dangosfwrdd hwn yn y dyfodol?
Byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru’r dangosfwrdd gyda’r data diweddaraf ar dlodi tanwydd a phynciau cysylltiedig pan fydd digon o ddiweddariadau i’r ffynonellau a ddefnyddiwyd. Yn gyfredinol, rydym yn disgwyl ei diweddaru bob chwarter.
Gan ein bod wedi dylunio’r dangosfwrdd hwn mewn ymateb i ddymuniadau rhanddeiliaid a llunwyr polisi, rydym yn croesawu adborth i sicrhau bod y dangosfwrdd hwn yn diwallu eich anghenion.
Pa adrannau ydych chi wedi’u defnyddio a sut? A oes unrhyw beth ar goll? Oes unrhyw beth a allai fod yn gliriach? Oes unrhyw ddadansoddiad pellach y gallen ni roi cynnig arno ac ati? Cysylltwch â ni yn ystadegau.cyflwrtai@llyw.cymru.
Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd