Diweddariad y prif ystadegydd: deall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd

Read this page in English

Ar 6 Mehefin  2024 byddwn yn cyhoeddi data dros dro ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd wedi’i gofnodi gan yr heddlu ar gyfer mis Hydref i fis Ragfyr 2023. Ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ym mis Medi 2023 bu cryn ddiddordeb mewn data ar wrthdrawiadau.

Nod y blog hwn yw helpu defnyddwyr i ddeall y data rydym yn ei gyhoeddi yn well, gan gynnwys:

  • beth fydd yn cael ei gyhoeddi a ble
  • cryfderau a chyfyngiadau
  • canllawiau ar sut y gellir dehongli’r data
  • sut bydd y data hwn yn bwydo i mewn i gynlluniau monitro a gwerthuso’r terfyn cyflymder 20mya

Ystadegau i’w cyhoeddi

Bydd nifer o wahanol allbynnau yn cael eu cyhoeddi a’u diweddaru, gan gynnwys:

  1. Bwletin ystadegol sy’n ymdrin â data dros dro ar wrthdrawiadau yn ystod 2023. Mae’r bwletin hwn yn cyflwyno tueddiadau tymor hir, ynghyd â sylwadau a siartiau sy’n cyflwyno dadansoddiadau gwahanol o’r data (fel difrifoldeb, lleoliad, terfyn cyflymder y ffordd).
  2. Dangosfwrdd rhyngweithiol. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’r data yn ôl gwahanol gyfnodau, difrifoldeb a mathau o ffyrdd. Mae’r dangosfwrdd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am anafiadau a’r cerbydau dan sylw.
  3. Tablau data ar ein gwasanaeth data agored StatsCymru. Mae’r tablau hyn yn cyflwyno cyfansymiau chwarterol o wrthdrawiadau yn ôl gwahanol ddadansoddiadau, fel cyfansymiau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd lle y digwyddodd y gwrthdrawiad, difrifoldeb a math o ddefnyddiwr ffordd.
  4. Data lefel gwrthdrawiad. Bydd y taenlenni hyn yn cynnwys gwybodaeth am wrthdrawiadau unigol, gan gynnwys y lleoliad, amser y gwrthdrawiad a nifer y cerbydau ac anafusion yn y gwrthdrawiad, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gynnal dadansoddiadau mwy manwl.

Rydym yn cyhoeddi data bob chwarter ar ein gwefan StatsCymru gydag oedi o tua chwe mis. Eleni byddwn yn cyflwyno sylwadau a chyd-destun ychwanegol i’n bwletin i helpu i wella’r dehongli a’r ddealltwriaeth. Byddwn hefyd yn diweddaru ein hadroddiad ansawdd i grynhoi ffynonellau a dulliau, ac adolygu ansawdd y data.

Cryfderau a chyfyngiadau

Mae’r data rydym yn ei gasglu gan y pedwar heddlu yng Nghymru yn ymwneud â gwrthdrawiadau a arweiniodd at anafiad i unigolyn ac y cafodd gwybodaeth ei hadrodd amdano gan yr heddlu. Cyfeirir at yr ystadegau hyn fel STATS19.

Mae STATS19 yn gasgliad cynhwysfawr o ddata ar wrthdrawiadau ffyrdd sy’n cael ei gasglu gan yr heddlu ledled y DU. Mae’r data a roddir gan bob heddlu yn gyson o ran diffiniadau a chwmpas a gellir ei gymharu ledled y DU. Yn fras gellir cymharu’r ffigurau ar gyfer marwolaethau yn rhyngwladol.

Mae’r data a gesglir fel rhan o STATS19 yn fanwl, ac rydym yn sicrhau bod cymaint o’r data hwn ar gael i ddefnyddwyr â phosibl heb beryglu torri rheolau diogelu data.

Er bod y data’n gyfoethog, mae’r cwmpas yn gyfyngedig ac nid yw’n cynnwys gwrthdrawiadau:

  • nad adroddwyd amdanynt i’r heddlu
  • a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
  • lle na chofnodwyd unrhyw anaf personol
  • lle mae gweithiwr meddygol proffesiynol neu grwner yn cadarnhau yn ddiweddarach mai episod meddygol neu hunanladdiad oedd yr achos

Mae rhai elfennau o’r data wedi’u cyfyngu gan wybodaeth swyddogion yr heddlu ar adeg y gwrthdrawiad. Er enghraifft, rydym yn cyflwyno’r ffactorau cyfrannol a gofnodwyd gan swyddogion a oedd yn bresennol yn y lleoliad. Gwyddom fod y data hwn yn gyfyngedig, ac mae ymchwil a wnaed gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos:

  • Bod ffactor cyflymder yn cael ei nodi ar gyfer traean o wrthdrawiadau angheuol, yn dilyn ymchwilio pellach, o’u cymharu â chwarter o’r gwrthdrawiadau angheuol a gofnodwyd drwy STATS19 (y broses o gasglu data ar wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu)
  • Mae rhai ffactorau, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chyflymder ac yfed alcohol neu gymryd cyffuriau, yn ymddangos yn amlach pan fyddant yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael ar ôl ymchwilio ymhellach, sy’n golygu y gallai data STATS19 danddatgan effaith y ffactorau hyn.

Er bod cyflwyno ffactorau cyfrannol yn rhoi syniad da inni o’r gweithredoedd a arweiniodd at wrthdrawiad, yn y gwrthdrawiadau mwyaf difrifol mae’n bosibl bod ffactorau ychwanegol ar waith na chawsant eu nodi yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Mae yna hefyd rai materion ansawdd data sy’n ymwneud â chofnod terfyn cyflymder y ffordd lle digwyddodd gwrthdrawiadau. Amlygodd ein gwaith dilysu ychwanegol eleni rai anghysondebau hanesyddol ynghyd â rhesymau posibl dros yr anghysondebau hyn, er enghraifft:

  • swyddogion heddlu sy’n cofnodi’r terfyn cyflymder a welwyd yn hytrach na’r terfyn cyflymder parhaol
  • anghysondebau rhwng arwyddion terfynau cyflymder ffyrdd ac awdurdodau lleol
  • camgymeriadau wrth gofio’r terfyn cyflymder ar y ffordd

Yn seiliedig ar sampl fach yn unig, mae’n ymddangos bod y terfyn cyflymder ffordd a gofnodwyd adeg y gwrthdrawiad yn fwy cywir ar gyfer ffyrdd 20, 30 a 60mya nag ar gyfer ffyrdd 40, 50 a 70mya. Yn 2023, digwyddodd dros 80% o wrthdrawiadau ar ffyrdd 20, 30 a 60mya.

Mae ein hadroddiad ansawdd ar gyfer gwrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd yn cynnwys gwybodaeth fanylach am gwmpas a chyfyngiadau’r ystadegau hyn.

Dod i gasgliadau o’r ystadegau

Mae nifer y gwrthdrawiadau dros y tymor byr yn tueddu i amrywio’n fawr iawn, a gall pethau fel y tywydd effeithio arnynt. Yn ystod pandemig COVID-19 bu newidiadau sylweddol mewn gwrthdrawiadau ffyrdd, o ganlyniad i gyfyngiadau a roddwyd ar sut a ble y gallai pobl deithio. Mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi syniad gwell o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu.

Ar hyn o bryd, nid oes ystadegau swyddogol ar lefel y traffig ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder gwahanol. Rydym yn parhau i archwilio i’r mater hwn.

Cynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso 20mya

Ar 17 Medi 2023, newidiodd y gyfraith y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Mae’r rhain fel arfer yn strydoedd preswyl neu strydoedd prysur â goleuadau lle mae cerddwyr. Effeithiodd y newid ar y rhan fwyaf o’r ffyrdd a oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy’n dangos pa ffyrdd sydd wedi parhau i fod â therfyn cyflymder o 30mya.

Trafnidiaeth Cymru sy’n gyfrifol am fonitro’r broses o gyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, ac mae eu datganiad diweddaraf yn edrych ar Newidiadau rhagarweiniol i’r cyflymder cymedrig wedi eu pwysoli (Trafnidiaeth Cymru) ar ôl i’r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno’n genedlaethol. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o ddata monitro ar gyfer y broses o gyflwyno cam 1 (Trafnidiaeth Cymru).

Mae fframwaith monitro Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 20mya yn cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol. Mae tri o’r rhain yn ymwneud â nifer yr anafiadau sy’n digwydd mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu. Er mwyn gwneud cymhariaeth ystyrlon, fel arfer byddai angen data ar wrthdrawiadau ar gyfer o leiaf tair blynedd ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, i’w gymharu â data ar gyfer o leiaf tair blynedd cyn ei gyflwyno.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu manyleb ar gyfer gwerthuso’r polisi 20mya a fydd yn cael ei gynnal gan werthuswr annibynnol. Bydd y gwerthusiad yn adeiladu ar y data sydd ar gael yn fframwaith monitro Trafnidiaeth Cymru, a bydd hefyd yn archwilio’r ffordd mae’r polisi wedi cael ei weithredu a’i effaith ehangach.

Heriau ychwanegol

Mae’r ffordd mae heddluoedd yn casglu data ar wrthdrawiadau ffyrdd yn newid. Y llynedd, symudodd un o’r heddluoedd yng Nghymru i’r offeryn adrodd safonol newydd, sef CRaSH (Collision Recording and SHaring) sydd wedi’i gynllunio i ddarparu ffordd gyffredin i heddluoedd gasglu a chyflwyno data.

Mae CRaSH yn system adrodd ar sail anafiadau, ac mae’r Adran Drafnidiaeth wedi canfod bod heddluoedd sy’n defnyddio’r mathau hyn o systemau’n debygol o weld cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau a gofnodir fel rhai difrifol o gymharu ag mewn casgliadau data blaenorol.

Esbonnir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd, a byddwn yn parhau i adolygu’r ffordd mae hyn yn effeithio ar ein data.

Cyhoeddiadau’r dyfodol

Byddwn yn parhau i gyhoeddi ein data chwarterol ar wrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y bydd eu cyhoeddiad nesaf ar gael ym Mehefin 2024, a bydd yn cyflwyno data ar gydymffurfio â therfynau cyflymder, dosbarthiad cyflymder cerbydau a chyflymderau’r 85ain canradd yn dilyn cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya diofyn yn genedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig ar gyfer mis Medi 2023 i fis Chwefror 2024.

Cysylltwch â ni

Byddem yn croesawu adborth at ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd

Gadael sylw