Allan o Brint: Dechrau’r diwedd ar gyfer presgripsiynau papur yng Nghymru

Gan Ryan, Yr Adran Polisi Iechyd Digidol

Read this post in English

Ar 17 Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y presgripsiynau gofal sylfaenol cyntaf yng Nghymru wedi cael eu hawdurdodi gan ddefnyddio cerdyn clyfar ac wedi cael eu trosglwyddo’n ddigidol i’r fferyllfa. Mae hyn i’w weld yn beth syml a rhesymegol i’w wneud, felly pam yr holl ffwdan?

Pam?

Yn gyntaf, dyma rywfaint o gyd-destun: Mae tua 40 miliwn o bresgripsiynau papur yn cael eu trafod bob blwyddyn yng Nghymru. Mewn gwlad â phoblogaeth o tua 3.1m o bobl, mae hynny bron yn gyfystyr â 13 o bresgripsiynau yr un bob blwyddyn. Caiff y rhan fwyaf o’r presgripsiynau hynny eu cynhyrchu ar gyfrifiadur gan feddyg teulu, eu hargraffu, eu llofnodi â llaw, a’u cludo i fferyllfa gymunedol i’w cyflenwi. Yna caiff y presgripsiwn ei roi mewn blwch a’i anfon er mwyn i’r fferyllfa gael ei had-dalu amdano. Mae hyn yn golygu bod claf a thri sefydliad gwahanol yn trafod un darn o bapur! Ac ar ôl hynny, mae angen cadw’r copi papur rhag ofn y bydd rhywun yn gwneud ymholiadau amdano.

Daw’r gwelliant hwn yn dilyn adolygiad annibynnol a drefnwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wella’r drefn o roi presgripsiynau, y ffordd y caiff meddyginiaethau eu gweinyddu a mynediad cleifion at wybodaeth am eu meddyginiaeth. Yn dilyn yr adolygiad, lansiodd y Gweinidog raglen newydd (o’r enw’r Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol, DMTP) i ddigideiddio presgripsiynau a’r broses o weinyddu meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd:

  • i’w gwneud yn haws i gleifion wybod pa feddyginiaethau sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn iddyn nhw, olrhain y broses o baratoi’r presgripsiwn hwnnw a chael hysbysiadau pan fydd y meddyginiaethau yn barod i’w casglu
  • er mwyn i glinigwyr gael gwell mynediad at ddata a’u rhannu’n haws
  • i wella diogelwch clinigol, gan gynnwys atal rhoi presgripsiynau am feddyginiaethau y mae gan gleifion alergedd iddynt
  • er mwyn cynyddu effeithlonrwydd fel bod gan staff fwy o amser i ofalu am gleifion
  • er mwyn lleihau gwariant ar gyffuriau yn sgil llai o wastraff.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi bod yn treialu system presgripsiynu electronig ym maes gofal eilaidd ac mae’r manteision i’w gweld yn barod.

Sut?

Felly, sut gyrhaeddon ni’r sefyllfa hon gyda phresgripsiynau papur yng Nghymru?

Un o’r pethau cyntaf a wnaethom oedd penderfynu ail-bwrpasu ac ailddefnyddio’r Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) a ddefnyddir yn Lloegr. Roedd cael defnyddio technoleg sydd wedi’i phrofi yn rhoi mantais fawr inni, ac mae gennym berthynas weithio dda gyda’n swyddogion cyfatebol yn GIG Lloegr. Rydyn ni wedi teilwra eu gwasanaeth nhw i ddiwallu ein hanghenion ni yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn cydweithio’n agos â gwasanaeth iechyd digidol arall a ddatblygwyd yng Nghymru, sef Ap GIG Cymru. Cyn bo hir, bydd cleifion yn cael hysbysiadau drwy’r Ap i ddweud bod eu meddyginiaethau yn barod i’w casglu. Byddaf yn llunio blog arall ar hynny pan fydd y gwasanaeth hwnnw’n fyw!

Er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Rhagnodi Electronig yn barod, bu’n rhaid i Gymru newid y gyfraith. Roedd angen i staff polisi a staff cyflenwi digidol gydweithio’n agos i wireddu hyn felly. Nid technoleg oedd wrth wraidd y penderfyniad i fabwysiadu dull digidol, ond pobl. Rydyn ni eisiau rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Roedd gwrando ar farn meddygon teulu, fferyllfeydd, cydweithwyr yn y GIG a chleifion, i glywed beth roedden nhw ei eisiau gan wasanaeth meddyginiaethau digidol a sut y bydden nhw’n ei ddefnyddio, yn rhan annatod o’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth (gyda chefnogaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol). Fe wnaethon ni hefyd gydweithio’n agos â chyflenwyr, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ein nodau a’n hamserlenni allweddol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Roedd 17 Tachwedd yn garreg filltir allweddol yn y daith o newid o bresgripsiynau papur i bresgripsiynau electronig, ac yn rhywbeth sy’n werth ei ddathlu. Nawr bod meddyg teulu a fferyllfa yng Nghymru wedi llwyddo i gyfnewid presgripsiynau’n ddigidol am y tro cyntaf, beth fydd yn digwydd nesaf? Yn gyntaf, wrth gwrs, rhaid cyflwyno’r system i oddeutu 380 o feddygfeydd a 700 o fferyllfeydd eraill ledled Cymru. Bydd y system yn cael ei chyflwyno’n raddol, i sicrhau bod y newid yn digwydd mor llyfn â phosibl. Pan fydd meddygon teulu ledled Cymru wedi mabwysiadu’r system, byddwn wedyn yn cydweithio â lleoliadau gofal sylfaenol eraill sy’n rhoi presgripsiynau (deintyddion, optometryddion y stryd fawr, a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd) fel y gallwn ni ddeall sut y gallan nhw a’u cleifion elwa hefyd o ddefnyddio presgripsiynau digidol.

Wrth wneud hyn i gyd, rydyn ni hefyd yn cyflwyno system presgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau electronig ar draws pob ward ym mhob ysbyty yng Nghymru, ac yn datblygu nodweddion rheoli meddyginiaethau yn yr Ap GIG Cymru y soniais amdano yn gynharach. Ar yr un pryd, rydyn ni’n cyflwyno cofnod meddyginiaethau a rennir. Bydd y cofnod hwn yn cynnwys cofnod o bob presgripsiwn sydd wedi cael ei roi gan bob lleoliad fel bod modd i glinigwyr weld yr holl feddyginiaethau sydd wedi cael eu rhoi i bob claf erioed, a hynny mewn un lle. Nod hyn yw galluogi’r clinigwyr i wneud penderfyniadau clinigol mwy gwybodus.