Blog ar y cyd gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru, a Harriet Green a Myra Hunt, Prif Swyddog Gweithredol ar y cyd, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
O 1 Ebrill ymlaen, bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, gan ddod yn rhan o Gyfarwyddiaeth newydd Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i wneud i’r newid hwnnw ddigwydd mor llyfn â phosibl. Rydym yn gwybod mai hwn yw’r cam cywir ar yr adeg iawn.
Wrth edrych yn ôl dros y 5 mlynedd diwethaf, rydym wedi adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer trawsnewid digidol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi’i ategu gan Strategaeth Ddigidol Cymru.

Cryfach gyda’i gilydd
Nawr, rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol a chyfleoedd cyffrous i adeiladu ar y sylfaen hon.
Bydd Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yn parhau â’r holl waith gwych y mae CDPS wedi bod yn ei wneud, ynghyd â’n Swyddfa AI – dan arweiniad y Dirprwy Gyfarwyddwr newydd ei benodi, Mark Jones – a’n harbenigwyr polisi digidol presennol i gymryd agwedd wirioneddol gyfannol at arweinyddiaeth ddigidol ac AI – gan gyfuno sgiliau timau gwych sy’n gweithio fel un.
Bydd ein ffocws ar gyfer y misoedd cyntaf yn syml wrth i ni baratoi i ymateb i flaenoriaethau tymor nesaf y Senedd. Rydym yn disgwyl parhau i:
- eirioli dros Safonau Gwasanaeth Digidol fel asgwrn cefn gwasanaethau cyhoeddus digidol da;
- cefnogi sefydliadau i ddefnyddio ein banc o adnoddau yn llawn, gan gynnwys y llawlyfr gwasanaeth a phatrymau gwasanaeth sydd wedi’u profi sy’n arbed amser ac adnoddau;
- gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y sector cyhoeddus i gynnal asesiadau gwasanaeth;
- cyflwyno ein cyrsiau hyfforddi digidol llwyddiannus, gan gynnwys y rhaglen Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern;
- dod â phobl at ei gilydd trwy ein saith Cymuned Ymarfer;
- darparu cyngor ac arweiniad i’r sector cyhoeddus ar AI; a,
- darparu arweinyddiaeth ar yr holl faterion strategaeth a pholisi digidol trawsbynciol.
Byddwn hefyd yn defnyddio’r wythnosau nesaf i lunio sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd a sut rydym am weithio gyda’n cydweithwyr yn y sector cyhoeddus i’w helpu i yrru newid ymlaen. Wrth wneud hynny, byddwn yn barod i gefnogi’r llywodraeth newydd gyda’i blaenoriaethau.
Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio yn agored ac i rannu ein meddwl dros y misoedd nesaf wrth i’r blaenoriaethau hyn ddod yn glir.
A byddwn yn parhau i roi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Oherwydd, yn y pen draw, dyna beth yw digidol.
Dilynwch Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru ar LinkedIn ac ar gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru.