Diweddariad y Prif Ystadegydd: deall y newidiadau sydd ar ddod i ystadegau tlodi

Bob gwanwyn rydym yn cyhoeddi data ar bobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ddata o Arolwg o Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yr arolwg hwn yw’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer incwm aelwydydd a thlodi yn y DU.

Read this page in English.

Ar gyfer yr ystadegau sydd ar ddod ar 26 Mawrth 2026, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi gwelliannau i’r ystadegau diweddaraf, sy’n golygu na fydd modd cymharu rhai data â blynyddoedd blaenorol. Mae hyn hefyd yn gymwys i set ddata Aelwydydd Islaw’r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau a gyhoeddwyd ar yr un diwrnod.

Mae’r blog hwn yn disgrifio’r hyn sy’n newid a pham.

Defnyddio cofnodion budd-daliadau i wella mesurau incwm

Yn draddodiadol, mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu wedi dibynnu ar bobl yn ateb cwestiynau am eu hincwm, eu budd-daliadau a’u henillion. Er bod hyn yn gweithio’n dda mewn llawer o achosion, gall pobl weithiau anghofio pethau neu gamddeall cwestiynau, gan arwain at ymatebion anghywir. Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau eisoes yn cymryd llawer o gamau i fynd i’r afael ag ymatebion anghywir, mae datrysiad gwell, mwy cynhwysfawr bellach ar gael.

Mae’r ystadegau traddodiadol sy’n seiliedig ar arolygon yn cael eu diweddaru i wneud gwell defnydd o’r wybodaeth sydd eisoes gan y llywodraeth. Yn hytrach na dibynnu ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud yn yr arolwg yn unig, mae’r dull newydd yn cysylltu ymatebion arolwg â chofnodion swyddogol dienw i gofnodi incwm aelwydydd yn fwy cywir. Er enghraifft, gellir cael gwybodaeth am incwm aelwyd o fudd-daliadau o gofnodion taliadau budd-daliadau yn hytrach na dibynnu ar ymateb unigolyn.

Mae’r arolwg yn dal i fod yn hanfodol, gan ei fod yn casglu gwybodaeth nad yw’r cofnodion gweinyddol sydd ar gael yn eu cwmpasu, fel amgylchiadau’r aelwyd. Ond drwy gyfuno’r ddwy ffynhonnell, dylai’r ystadegau roi darlun mwy cywir o incwm a thlodi.

Bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno’n raddol, gyda rhai ffigurau’n newid wrth i bob gwelliant newydd gael ei gyflwyno. Ar gyfer rhyddhau data 2026, bydd data gweinyddol yn disodli data arolwg wrth fesur incwm ar gyfer y mwyafrif o fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Bydd hyn yn gymwys o flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 ymlaen, sef y flwyddyn gyntaf pan all yr Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu’r rhan fwyaf o ymatebion arolwg â chofnodion budd-daliadau yn gyfreithlon.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y newid hwn mewn dau gam dros y misoedd nesaf, a dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau dros amser tra bo’r diwygiadau fesul cam hyn yn cael eu cyflwyno:

  • ar 26 Mawrth 2026, ar yr un pryd â chyhoeddi’r data newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 hyd 2024
  • yn ystod haf 2026 byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 hyd 2021

Diweddaru’r flwyddyn gyfeirio tlodi absoliwt

Mae tlodi absoliwt yn mesur a yw aelwydydd yn byw ar incwm isel o’i gymharu â safon sefydlog. Mae’n gwneud hyn drwy gymryd incwm canolrifol y DU mewn blwyddyn gyfeirio o ddewis, ei addasu ar gyfer chwyddiant, ac yna gweld faint o bobl sy’n disgyn o dan 60% o’r lefel honno mewn blynyddoedd eraill.

Hyd yn hyn, y flwyddyn gyfeirio oedd y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2011. Cyn diweddariad data 2026, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi adolygu’r mesur tlodi absoliwt ac wedi penderfynu diweddaru’r flwyddyn gyfeirio o’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2011 i’r flwyddyn ariannol ddiweddaraf sydd ar gael a ddaeth i ben yn 2025.

Bydd y diweddariad yn gymwys i ystadegau yn ôl i’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 ar 26 Mawrth 2026 ac i’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 yn haf 2026. Mae’r newid hwn yn helpu i gadw’r mesur yn berthnasol, ond mae hefyd yn golygu bod angen i ddefnyddwyr fod yn ofalus iawn wrth ddehongli tueddiadau hanesyddol mewn tlodi absoliwt.

Rhagor o newidiadau i ddod

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu gwneud gwelliannau pellach yn 2027, pan fydd y ffordd y mae ystadegau’r Arolwg o Adnoddau Teulu yn cael eu graddio i gyfansymiau poblogaeth (a elwir yn bwysoli) yn cael ei diweddaru.  Bydd y diweddariad hwn yn ymgorffori data poblogaeth y cyfrifiad diweddaraf (Cyfrifiad 2021) a bydd yn arwain at ôl-gyfres newydd o setiau data diwygiedig ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu, ac ystadegau tlodi.

Yn y dyfodol, efallai y bydd newidiadau pellach i’r data wrth i’r Adran Gwaith a Phensiynau barhau â’i rhaglen waith hirdymor i:

  • integreiddio data cynllun Talu Wrth Ennill a hunanasesu CThEF a ffynonellau gweinyddol eraill i set ddata yr Arolwg o Adnoddau Teulu
  • adolygu’r cynllun pwysoli arolwg i sicrhau bod ystadegau’n adlewyrchu’n well budd-daliadau’r wladwriaeth sy’n cael eu rhoi ar draws y boblogaeth gyfan (yn hytrach na’r boblogaeth a samplwyd yn unig)

Beth mae hyn yn ei olygu i ystadegau tlodi i Gymru

Mae cyhoeddiadau’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys data lefel uchel ar y rhai sy’n profi tlodi yng Nghymru a gwledydd neu ranbarthau eraill y DU. Rydym yn cyhoeddi dadansoddiad ychwanegol i alluogi gwell dealltwriaeth o’r grwpiau hynny sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.

Bydd y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r ystadegau tlodi yn arwain at well data yn y tymor hir. Fodd bynnag, oherwydd bod y newidiadau hyn yn dal i fynd rhagddynt, mae’r ffigurau yn llai sicr nag arfer a byddant yn cael eu hadolygu yn y dyfodol wrth i ddulliau barhau i wella. Mae’r ansicrwydd hwn yn fwy pan fydd y data yn cael eu dadansoddi islaw lefel y DU.

Er mwyn bod yn agored ac yn glir gyda defnyddwyr, rydym am i’n hystadegau tlodi ar gyfer Cymru gael eu labelu dros dro fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad ac rydym wedi ysgrifennu at y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau i ofyn am hyn. Byddai hyn yn nodi y gellir defnyddio’r data o hyd, ond bod y ffigurau yn destun adolygiad wrth i’r newidiadau barhau i gael eu hymgorffori. Mae’r un dull yn cael ei gymryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rydym wedi ymrwymo i helpu defnyddwyr i ddeall y datblygiadau ac i ddehongli newidiadau’n briodol. Bydd ein hallbynnau yn disgrifio sut y gellir defnyddio’r ystadegau ac na ellir eu defnyddio, a byddant yn esbonio ansicrwydd yn yr amcangyfrifon a’r cymariaethau o dueddiadau. Byddwn yn dangos yn glir ble mae’r gyfres ddata yn newid mewn tablau a siartiau.

Plant sy’n byw mewn tlodi materol dwfn

Mae plentyn mewn tlodi materol dwfn os nad oes ganddo o leiaf bedair allan o 13 eitem hanfodol (Yr Adran Gwaith a Phensiynau), megis byw mewn cartref heb leithder, a gallu bwyta tri phryd y dydd. Cyflwynwyd y mesur newydd hwn yn strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Rhagfyr 2025), a bydd yn cael ei gynnwys yn ei hadroddiad blynyddol o Aelwydydd Islaw’r Incwm Cyfartalog o hyn ymlaen.

Mae’r mesur yn seiliedig ar y set o gwestiynau amddifadedd materol yr Arolwg o Adnoddau Teulu a ddiweddarwyd yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2024. Bydd yn cymryd tan y gwanwyn 2027 cyn i ni gael y cyfartaledd tair blynedd a ddefnyddir fel arfer i gynhyrchu amcangyfrifon cadarn ar gyfer dadansoddiadau manwl fel ar gyfer gwledydd.

Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd y metrig newydd hwn, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyhoeddi’r amcangyfrifon cyntaf o dlodi materol dwfn ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU yn adroddiad eleni, fel cyfartaledd dwy flynedd sy’n cwmpasu’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2024 hyd at y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025. Byddwn yn cynnwys y ffigur yn ein hadroddiad Cymreig hefyd.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau a ddisgrifir yn y blog hwn yn strategaeth rhyddhau yr Arolwg o Adnoddau Teulu (Yr Adran Gwaith a Phensiynau) a’r strategaeth rhyddhau Aelwydydd Islaw’r Incwm Cyfartalog (Yr Adran Gwaith a Phensiynau).