Chwe mis yn ddiweddarach: yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth data agored newydd StatsCymru

Rydym bellach yn agosáu at chwe mis ers inni lansio gwasanaeth data agored newydd StatsCymru, ac mae’n adeg dda i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd y gwasanaeth, y gwelliannau rydym wedi’u gwneud a’r hyn sy’n dod nesaf.

Read this page in English.

Pan gyflwynom y gwasanaeth newydd yr hydref diwethaf, gwnaethom ei ddisgrifio fel cam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn cyhoeddi ac yn rhannu ystadegau swyddogol Cymru. Dywedom y byddem yn parhau i ddatblygu’r platfform yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf i chi, ein defnyddwyr. Mae hynny’n parhau i fod yn ganolog i’n dull gweithredu.

Parhau i wella’r gwasanaeth, wedi’i lywio gan anghenion defnyddwyr

Yn ystod y cyfnod beta, rydym wedi canolbwyntio ar newidiadau sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i ddata, eu harchwilio a’u defnyddio.

Ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth, un o’r pethau y gofynnwyd amdano fwyaf oedd cael ffordd symlach o gyrraedd y set ddata gywir. Mewn ymateb, gwnaethom gyflwyno bar chwilio ar draws y gwasanaeth yn ddiweddar. Mae’r adborth hyd yn hyn yn gadarnhaol, yn enwedig gan ddefnyddwyr sy’n defnyddio StatsCymru yn rheolaidd ac sydd wedi dweud wrthym eu bod eisiau llwybr cyflymach at eu data.

Rydym hefyd wedi gwella’r profiad hidlo wrth ichi edrych ar set ddata. Gallwch bellach chwilio o fewn opsiynau hidlo, sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer setiau data sy’n cynnwys rhestrau hir megis awdurdodau lleol, grwpiau oedran neu gyfnodau amser. Mae’n newid bach a all arbed llawer o amser, ac mae’n adlewyrchu’r math o welliant cyson rydym yn anelu at ei wneud yn barhaus.

Er mwyn ei gwneud hi’n haws cadw trefn ar eich hidlwyr dewisol, byddwn yn ychwanegu tabl cryno cyn bo hir sy’n dangos yn glir y newidynnau a’r gwerthoedd a ddewiswyd. Bydd y gwelliant hwn yn dangos eich dewisiadau yn well, yn enwedig pan fyddwch chi’n gweithio gyda setiau data sy’n cynnwys rhestrau hir o opsiynau.

Pan wnaethom gyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, canfu defnyddwyr nad oeddynt yn gallu dewis yr holl ardaloedd daearyddol bach oedd eu hangen arnynt oherwydd cyfyngiad ar nifer yr hidlwyr. Rydym bellach wedi addasu hyn, fel bod modd ichi ddewis cynifer o hidlwyr ag y dymunwch.

Nodwedd y gofynnodd llawer amdano: creu eich tablau eich hun

Rydym yn parhau i weithio ar un o’r nodweddion y gofynnwyd amdano fwyaf: y gallu i ddefnyddwyr greu eu tablau syml eu hunain.

Yn flaenorol, gwnaethom nodi y byddai hyn ar gael ym mis Chwefror. Mae’r gwaith datblygu wedi cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl, sydd ddim yn anarferol ar gyfer nodwedd gymhleth fel hyn. Ond mae’r cynnydd yn dda ac, ar hyn o bryd, disgwylir i’r swyddogaeth hon fod ar gael yn ystod mis Mawrth, cyn belled nad yw profion yn datgelu unrhyw broblemau mawr.

Pan fydd yn cael ei lansio, bydd y nodwedd hon yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i ddefnyddwyr, gan wneud y wefan StatsCymru newydd yn ffordd fwy pwerus o gael gafael ar yr union ddata a’r dadansoddiadau sydd eu hangen arnoch.

Dod â’r hen wasanaeth i ben

Rydym bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig: mae’r holl ddata sy’n cael eu defnyddio’n aml a’u diweddaru’n rheolaidd wedi’u mudo o hen safle StatsCymru i’r platfform newydd. Mae hyn wedi golygu gwaith gofalus gan lawer o dimau gwahanol i reoli’r broses bontio. Gan fod y gwaith mudo hwn wedi’i gwblhau, nid yw hen wasanaeth StatsCymru yn weithredol mwyach.

Bydd yr hen wasanaeth yn dod i ben yn fuan. Os ceisiwch ddefnyddio’r hen wasanaeth, dylech gael eich ailgyfeirio’n awtomatig i’r gwasanaeth newydd. (Fodd bynnag, mae’n bosibl y byddwch chi’n dod ar draws rhai dolenni wedi’u cadw nad ydynt yn eich ailgyfeirio’n awtomatig).

Mae cau’r hen safle yn ein galluogi i ganolbwyntio ein hamser a’n hadnoddau yn gyfan gwbl ar wella’r gwasanaeth newydd a darparu’r nodweddion y mae defnyddwyr wedi gofyn amdanynt.

Sut i rannu eich adborth

Rydym yn parhau i ddatblygu’r gwasanaeth yn agored, ac mae eich adborth yn ganolog i’r broses honno. Os hoffech rannu awgrymiadau, rhoi gwybod am broblem neu ddweud wrthym sut rydych chi’n defnyddio StatsCymru, defnyddiwch y ffurflen adborth ar frig gwefan StatsCymru.

Rydym wedi gwella’r ffurflen hon yn ddiweddar fel bod modd inni ymateb yn uniongyrchol ichi os byddwch yn dewis darparu eich manylion cyswllt. Mae hyn yn ein helpu i ddeall eich anghenion yn well ac yn ein galluogi i roi gwybod ichi pan fyddwn yn gwneud newidiadau yn seiliedig ar eich mewnbwn.

Gwnaethom hefyd gasglu sylwadau gwerthfawr ar StatsCymru drwy ein hymgynghoriad diweddar ar allbynnau ystadegol, a byddwn yn defnyddio’r adborth hwnnw wrth inni lywio ein cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

Beth nesaf?

Dyma ein blaenoriaethau dros y misoedd nesaf:

  • cwblhau a rhyddhau’r nodwedd creu tabl newydd
  • parhau i fireinio’r nodweddion chwilio, llywio a hidlo
  • paratoi map trywydd ar gyfer gwelliannau tymor hwy a datblygu nodweddion
  • paratoi i symud allan o’r cyfnod beta pan fyddwn yn hyderus bod y gwasanaeth yn bodloni’r lefel o sefydlogrwydd ac ymarferoldeb y mae defnyddwyr yn ei ddisgwyl

Diolch i bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yn hyn. Mae eich barn wir yn llywio dyfodol StatsCymru. Os nad ydych wedi archwilio’r gwasanaeth newydd eto, mae nawr yn amser gwych i wneud hynny. Ac os oes gennych awgrymiadau o ran sut y gallwn ei wella, rydym yn awyddus iawn i’w cael.