Mae deall yn glir beth yw maint yr angen o ran tai yng Nghymru yn hanfodol i lunio dyfodol ein cartrefi a’n cymunedau.
Heddiw rydym yn cyhoeddi amcangyfrifon newydd o’r angen o ran tai ychwanegol yng Nghymru. Mae’r ffigurau hyn yn disodli’r amcangyfrifon sy’n seiliedig ar ddata 2019 ac yn defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys amcanestyniadau yn seiliedig ar aelwydydd o 2022 a gyhoeddwyd ddiwedd 2025.
Nid rhagolygon neu dargedau tai ydyn nhw, ond maen nhw’n ein helpu i ddeall y pwysau a allai ddylanwadu ar yr angen o ran tai dros yr 20 mlynedd nesaf.
Mae’r amcangyfrifon yn asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth o faint o gartrefi ychwanegol sy’n debygol o fod eu hangen i sicrhau bod gan bob aelwyd fynediad at dai digonol ac addas sy’n fforddiadwy iddynt.
Beth mae’r amcangyfrifon yn ei ddweud wrthym
Rydym yn mesur dau fath o angen o ran tai.
- Yr angen cyfredol nas diwallwyd – sy’n cynnwys: aelwydydd sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd a aelwydydd sy’n byw mewn tai gorlawn ac sydd yn gudd (er enghraifft, aelwyd aml-deulu fel teuluoedd sy’n byw gyda rhieni a hoffai gael eu cartref eu hunain ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny ac sy’n byw gydag o leiaf un ystafell wely yn llai nag sydd angen).
- Yr angen o ran tai yn y dyfodol, yn seiliedig ar y twf a ragwelir yn nifer yr aelwydydd.
Angen cyfredol nas diwallwyd
Rydym yn amcangyfrif ar hyn o bryd bod angen cartref ychwanegol ar dua 9,400 o aelwydydd. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys aelwydydd sy’n ddigartref sy’n byw mewn llety dros dro, yn ogystal â’r rhai sy’n byw mewn tai gorlawn ac wedi’u cuddio mewn aelwyd arall.
Er bod hyn yn rhoi syniad da i ni o’r angen tai heb ei ddiwallu, mae’n debygol o dan-gyfrifo’r lefel gwirioneddol o angen heb ei ddiwallu gan na fydd rhai cartrefi sydd angen cymorth tai yn ymddangos yn y data hwn. Er enghraifft, nid yw pawb sy’n dioddef digartrefedd yn mynd at eu hawdurdod lleol am gymorth, ac nid yw’r ffigurau ar gyfer llety dros dro yn cynnwys y rhai sy’n cysgu ar y stryd neu’n aros yn anffurfiol gyda ffrindiau neu deulu. Nid yw data’r cyfrifiad hefyd yn cyfrif oedolion sengl sy’n byw gyda phobl eraill fel eu cartref “cudd” eu hunain, hyd yn oed pan allent fod eisiau ffurfio cartref annibynnol.
Yn ein dadansoddiad, tybir bod angen tai fforddiadwy ar bawb sydd ag angen cyfredol nas diwallwyd. Mae’n debygol y byddai rhai o’r cartrefi hynny yn gallu sicrhau cartref addas ar y farchnad agored. Fodd bynnag, heb dystiolaeth fanwl i wahanu’r achosion hynny, y dull mwyaf ymarferol a thryloyw yw ystyried bod angen tai fforddiadwy ar bawb sydd ag angen cyfredol nas diwallwyd
Mae’r ffigwr ar gyfer angen cyfredol nas diwallwyd yn uwch nag yn 2019, gan adlewyrchu’r cynnydd mewn digartrefedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yr angen o ran tai yn y dyfodol
Mae’r angen o ran tai yn y dyfodol neu angen newydd yn adlewyrchu newidiadau a ragwelir yn nifer yr aelwydydd newydd sy’n cael eu ffurfio.
Dros y pum mlynedd gyntaf (Gorffennaf 2025 i Fehefin 2030), rydym yn amcangyfrif y gallai fod angen rhwng 7,800 a 9,300 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn, gydag amcangyfrif canolog o tua 8,700.
Dros y tymor hwy, rydym yn amcangyfrif y bydd lefel yr angen newydd yn arafu’n raddol, yn unol â thwf arafach yn yr amcanestyniadau aelwydydd ar sail data o 2022 . Fel bob amser, y mwyaf y byddwn yn ceisio amcangyfrif ymlaen, y mwyaf ansicr y daw pethau.
Rhaniad y Ddeiliadaeth
Ar gyfer y pum mlynedd gyntaf yn unig, mae’r angen newydd yn cael ei rannu’n fras fel y ganlyn:
- 65% o dai’r farchnad agored
- 35% o dai fforddiadwy
Tybir bod angen tai fforddiadwy ar bawb sydd ag angen nas diwallwyd (9,400 o unedau) Dim ond am y 5 mlynedd gyntaf yr ydym wedi cynhyrchu’r rhaniad deiliadaeth, a hynny oherwydd mae’n dod yn rhy ansicr i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar ôl y pwynt hwn.
Newidiadau ers y diweddariad diwethaf
Yn fras, rydym wedi defnyddio’r un fethodoleg ar gyfer yr amcangyfrifon newydd hyn ag y gwnaethom yn 2019, ond gyda rhai newidiadau.
- Mae angen cyfredol nas diwallwyd yn cael ei gyflwyno fel un amcangyfrif cyfredol yn hytrach na chael ei wasgaru dros sawl blwyddyn.
- Mae angen newydd yn defnyddio rhagamcanion aelwydydd mwy diweddar.
- Mae’r ffynonellau data ar gyfer incwm a rhent wedi’u hadnewyddu i adlewyrchu’r dystiolaeth gyfredol.
- Darperir amcangyfrifon ar lefel genedlaethol yn unig.
Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu ein gwell dealltwriaeth o sut mae’r amcangyfrifon yn cael eu defnyddio a’r data a’r dulliau gorau mwyaf priodol i gefnogi eu defnyddio yn y ffyrdd hynny.
Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Sut i ddefnyddio’r amcangyfrifon
- I wella eich dealltwriaeth o bwysau tai tebygol.
- Llywio polisi tai a chynllunio a darparu gwasanaethau.
- Cyfrannu at unrhyw adolygiad o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn y dyfodol.
- At ddibenion dadansoddol ehangach, megis Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol.
Sut i beidio defnyddio’r amcangyfrifon yma
Ni ddylid ystyried yr amcangyfrifon yn dargedau tai. Mae’r ffigyrau yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau demograffig, incwm a rhenti yn y dyfodol, ac ni allant gyfrif am newidiadau polisi yn y dyfodol neu newidiadau economaidd ehangach.
Mae pwrpas rhestr aros tai – neu gofrestr tai – yn wahanol i bwrpas cyfrifiadau o’r angen o ran tai ychwanegol. Oherwydd eu bod yn mesur pethau gwahanol, bydd cyfanswm nifer y cartrefi ar restrau aros ledled Cymru yn sylweddol wahanol i’r amcangyfrifon hyn. Rhestr o gartrefi sydd wedi gwneud cais am dai cymdeithasol mewn ardal awdurdod lleol yw rhestr aros. Gall rhestrau aros gynnwys cartrefi sydd eisoes mewn llety priodol, ond sydd am symud, neu gartrefi sydd angen addasiadau i’w cartref presennol yn hytrach nag angen uned dai ychwanegol. Gall cartrefi hefyd fod ar fwy nag un rhestr.
Maent yn wahanol i asesiadau o’r farchnad dai lleol (LHMAs). Maent yn cael eu creu mewn ffordd wahanol ac yn gwasanaethu dibenion gwahanol. Mae awdurdodau lleol yn cynnal LHMAs i nodi anghenion o ran tai penodol y cymunedau yn eu hardal. Oherwydd bod LHMAs yn cael eu cynhyrchu ar wahanol adegau ac yn defnyddio ffynonellau data a rhagdybiaethau amrywiol, ni ellir cyfuno eu canlyniadau i amcangyfrif anghenion o ran tai Cymru.
Sylwadau i gloi
Mae deall yr angen o ran tai yn hanfodol i gefnogi cymunedau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’r amcangyfrifon newydd hyn yn cynnig golwg dryloyw sy’n seiliedig ar dystiolaeth o’r pwysau sy’n wynebu system dai Cymru. Rydym yn croesawu adborth gan holl ddefnyddwyr yr ystadegau hyn. Plîs ebostiwch: ystadegau.tai@llyw.cymru
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd