Ar ddiwedd mis Medi, lansiwyd gwasanaeth newydd StatsCymru – carreg filltir fawr yn ein gwaith i wneud ystadegau Llywodraeth Cymru yn haws i’w cyrchu a’u defnyddio. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roeddem am rannu rhannu diweddariad ar sut mae pethau’n mynd, beth rydym wedi’i ddysgu, a beth sy’n dod nesaf.
Beth sydd wedi gwella hyd yn hyn
Ers ei lansio, rydym wedi bod yn cyhoeddi pob set ddata newydd ac wedi’i diweddaru ar y gwasanaeth newydd. Os ydych chi’n chwilio am y ffigurau diweddaraf, mae hyn yn golygu y gwelwch nhw ar y platfform newydd.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni hefyd i symud setiau data presennol o’r hen wasanaeth. Gyda nifer bach iawn o eithriadau yn unig, bydd y mudo hwn wedi’i gwblhau erbyn 16 Ionawr 2026. O hynny ymlaen, ni ddylai fod angen ichi newid rhwng y ddau wasanaeth bellach i ddod o hyd i’r hyn y mae arnoch ei angen.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi bod yn dysgu am sut rydych chithau – a’n cynhyrchwyr setiau data – yn defnyddio’r gwasanaeth. Yn seiliedig ar hynny, rydym wedi gwneud rhai gwelliannau a datrysiadau cyflym i wella’ch profiad. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gweld hanes set ddata: erbyn hyn gallwch weld hanes newidiadau i set ddata, gan ei gwneud hi’n haws olrhain diweddariadau
- dewisiadau briwsion bara: rydym wedi ychwanegu llwybr briwsion bara fel y gallwch weld ble rydych chi a llywio’n haws
- trin setiau data mwy: gall y gwasanaeth bellach reoli setiau data mwy heb broblemau perfformiad
Beth sy’n dod nesaf
Er bod llawer o ddefnyddwyr wedi dweud wrthym eu bod yn hoffi’r dyluniad glanach a gwell hygyrchedd, rydym yn cydnabod nad yw’r adborth wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol. Nid yw rhai nodweddion yr ydych chi wedi dibynnu arnynt yn y gorffennol ar gael eto, ac mae hynny’n rhywbeth yr ydym yn mynd i’r afael ag ef.
Mae dwy o’r nodweddion y gofynnwyd amdanynt fwyaf eisoes yn cael eu datblygu.
Creu’ch tabl eich hun
- Mae hyn yn fater o bwys. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ddefnyddwyr addasu tablau i weddu i’w hanghenion. Rydym yn falch o gadarnhau y dylai’r nodwedd hon fod ar gael erbyn mis Chwefror.
Swyddogaeth chwilio
- Gwelliant arall y gofynnwyd amdano yn helaeth, yn enwedig wrth inni ychwanegu rhagor o setiau data at y gwasanaeth. Rydym yn gweithio ar ychwanegu nodwedd chwilio i’w gwneud hi’n haws ac yn gyflymach dod o hyd i setiau data.
Yn ogystal, pan gyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru y mis diwethaf, gwnaethom sylweddoli bod angen ichi allu dewis mwy o hidlwyr nag y mae’r gwasanaeth yn ei ganiatáu ar hyn o bryd – er enghraifft, pob ardal fach o fewn awdurdod lleol, a all fod dros 100. Rydym yn gweithio i drwsio hyn fel y gallwch wneud y dewisiadau hyn yn haws.
Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o’n hymrwymiad i barhau i wella StatsCymru yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf ichi.
Cau hen wasanaeth StatsCymru
Dywedwyd yn flaenorol y byddai’r hen wasanaeth StatsCymru yn dod i ben ddiwedd mis Ionawr. Fe wnaethoch chi ddweud wrthym y byddai’n well gennych gael mwy o amser i ddod i arfer â’r gwasanaeth newydd, felly rydym wedi ymestyn hyn.
Gallwn gadarnhau bellach y bydd hen wasanaeth StatsCymru yn dod i ben ar 2 Mawrth 2026.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
- Ar ôl 2 Mawrth, ni fydd yr hen blatfform bellach yn hygyrch.
- Os oes gennych nodau tudalen neu ddolenni wedi’u safio i’r hen wasanaeth, ni fydd y rhain yn gweithio bellach. Byddwn yn ailgyfeirio URLau, ond rydym yn argymell eich bod yn diweddaru eich un chi i’ch cyfeirio at wefan newydd StatsCymru.
- Bydd angen i unrhyw ddangosfyrddau neu wasanaethau awtomataidd sy’n echdynnu data ddiweddaru eu cysylltiadau i gyfeirio at wasanaeth newydd StatsCymru.
Daliwch ati i roi adborth
Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio StatsCymru newydd, a bydd yn parhau i lywio’r hyn a wnawn nesaf. Os oes gennych unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon, rhowch wybod inni. Mae hwn yn wasanaeth i bawb sy’n defnyddio ystadegau Llywodraeth Cymru, ac rydym am iddo weithio i chi.