Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: sicrhau ansawdd yn ystadegau amseroedd aros y GIG

Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystadegau swyddogol ar weithgaredd a pherfformiad y GIG, gan gynnwys amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT). Mae’r rhain ymhlith y ffigurau sy’n cael eu gwylio’n fwyaf gofalus a gynhyrchir gennym, oherwydd eu bod yn helpu cleifion, clinigwyr a llunwyr polisïau i ddeall sut mae gwasanaethau’n perfformio ledled Cymru.

Read this page in English.

Ychydig cyn ein cyhoeddiad rheolaidd, a ddisgwyliwyd ar 20 Tachwedd, gwnaethom nodi materion gyda’r data RTT a gyflwynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). O ganlyniad, gwnaethom ohirio’r datganiad ac, y diwrnod canlynol (21 Tachwedd), cafodd cyhoeddiad rhannol a oedd yn cwmpasu pob maes gweithgaredd arall ei gyhoeddi gennym wrth inni barhau i ymchwilio i’r pryderon ynghylch y data RTT.

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n ddiwyd gyda chydweithwyr yn GIG Cymru a’r bwrdd iechyd i ddeall yr achos wrth wraidd y mater hwn a’r goblygiadau ar gyfer yr ystadegau. Cyhoeddwyd datganiad y Prif Ystadegydd i esbonio’r sefyllfa ac ysgrifennwyd i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau i nodi’r camau rydym yn eu cymryd.

Beth yw’r mater – a pham mae’n bwysig?

Nododd ein gwiriadau ansawdd anomaleddau ac anghysondebau yn y data RTT a gyflwynwyd gan BIPBC ar gyfer y misoedd diwethaf. Yn benodol:

  • Anghysondebau rhwng gweithgaredd gweithredol a’r setiau data a ddefnyddir ar gyfer ystadegau: Nid oedd y tueddiadau ymhlith rhestrau aros yr adroddwyd arnynt yn gyson â’r hyn y byddai gwybodaeth rheoli gweithredol yn ein harwain i’w ddisgwyl.
  • Roedd hyn oherwydd problemau ynghylch cwmpas y data: Ymddengys nad yw rhai llwybrau ar gyfer cleifion a gafodd eu trin gan ddarparwyr annibynnol wedi’u cynnwys yn y data RTT yr adroddwyd arnynt. Mae’r bwrdd iechyd wedi cydnabod bod materion wedi codi o ran y ffordd y cafodd llwybrau a gafodd eu trin gan ddarparwyr annibynnol eu cofnodi.
  • Arweiniodd hyn i ddechrau at danadrodd o ran y llwybrau cleifion ac roedd yn golygu nad oedd y gostyngiad dilynol mewn llwybrau wedi’u hadlewyrchu yn y data.

Cyflwynwyd ffigurau RTT dros dro yn ddiweddar – a gynlluniwyd i roi golwg gynharach i ddefnyddwyr ar y tueddiadau – a chwaraeodd y rhain rôl bwysig i ddod o hyd i’r anomaleddau hyn. Nid oedd y data dros dro yn dilyn y tueddiadau a ddisgwyliwyd ar sail yr wybodaeth weithredol, ac ysgogodd hyn wiriadau pellach.

Ar gyfer dibenion tryloywder, rydym wedi bod yn gweithio ar sail y rhagdybiaeth mai ar gyfer y misoedd diwethaf (yn enwedig mis Awst a mis Medi) y profwyd y prif faterion, a bod materion llai wedi’u profi o bosibl yn gynharach yn ystod y flwyddyn. Ond dylwn bwysleisio efallai na fydd yr union effeithiau yn hysbys tan y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau.

Gan fod ystadegau RTT yn cael eu defnyddio i fonitro perfformiad dros amser, gall unrhyw fylchau o ran cwmpas y data neu wallau cofnodi olygu y bydd yn amhosibl dweud â hyder a yw arosiadau yn cynyddu neu’n gostwng o fis i fis. Dyna pam gwnaethom benderfynu atal dros dro y trefniadau adrodd RTT ar gyfer BIPBC tra bo’r ymchwiliadau yn parhau.

Beth rydym yn ei wneud i ddatrys hyn?

I ddarparu sicrwydd ac i gael y data sylfaenol yn ôl ar sail gadarn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi comisiynu adolygiad allanol i ansawdd a threfniadau llywodraethu data RTT BIPBC. Bydd hyn yn ymchwilio i’r:

  • prosesau casglu data yn y Bwrdd Iechyd
  • trefniadau sicrhau ansawdd a chymeradwyo lleol
  • arferion adrodd (gan gynnwys triniaeth gan ddarparwyr annibynnol)
  • trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi’r prosesau hyn

Bydd ystadegydd yn rhan o’r tîm adolygu i ddod ag arbenigedd yn y safonau y mae’n ofynnol i ystadegau swyddogol eu bodloni.

Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, byddwn yn parhau i gyhoeddi ystadegau RTT ar gyfer Cymru ac eithrio BIPBC, gyda chanllawiau clir i ddefnyddwyr ar sut i ddehongli’r ffigurau tra bydd data un bwrdd iechyd heb eu cynnwys dros dro. Rydym wedi cyhoeddi’r cyntaf o’r diweddariadau hyn heddiw ar gyfer yr ystadegau a fyddai wedi’u cyhoeddi’n wreiddiol ar 20 Tachwedd.

Ein hymrwymiad i ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth

Rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw ystadegau RTT i gleifion a’r cyhoedd, ac rwy’n gwerthfawrogi o ddifrif y cyfrifoldeb sydd arnom i gyhoeddi ffigurau sy’n bodloni safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau – dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.

Sut rydym yn cynnal y safonau

  • Dibynadwyedd: Gwnaethom weithredu’n brydlon i oedi’r cyhoeddiad pan ddaeth pryderon i’r amlwg, ac rydym wedi cyfathrebu’n agored drwy sianeli swyddogol.
  • Ansawdd: Rydym wedi atal dros dro y trefniadau adrodd RTT ar gyfer BIPBC tan i’r adolygiad annibynnol ddirwyn i ben a bod gennym hyder yn y data. Rydym yn darparu cyngor i’r defnyddwyr ar sut i ddehongli ystadegau RTT diweddar yng ngoleuni’r mater hwn.
  • Gwerth: I ddiwallu anghenion y defnyddwyr, rydym yn parhau i gyhoeddi pob rhan arall o’r datganiad misol ar weithgareddau a pherfformiad y GIG a byddwn yn cyhoeddi RTT ar gyfer Cymru ac eithrio BIPBC hyd nes y bydd data dibynadwy ar gael.

Ar hyn o bryd, nid ydym wedi tynnu unrhyw ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn ôl, er ein bod yn cydnabod y gallai rhai o’r misoedd diwethaf fod wedi’u heffeithio gan y materion a nodwyd. Yn hytrach, rydym yn cynnig canllawiau clir i ddefnyddwyr ar sut y dylid dehongli a defnyddio’r data hyn, a sut na ddylid eu dehongli a’u defnyddio. Rydym yn gobeithio y gellir datrys y pryderon ynghylch ansawdd yn gyflym. Fodd bynnag, os bydd yr adolygiad yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl neu’n datgelu effaith ehangach, mae’n bosibl y byddwn yn ailystyried y sefyllfa hon ac yn tynnu’r data yr effeithir arnynt yn ôl yn y dyfodol.

Mae’n bwysig nodi nad yw ein prosesau sicrhau ansawdd wedi nodi materion tebyg gyda data RTT byrddau iechyd eraill. Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa hon, a byddwn hefyd yn parhau i fod yn dryloyw os bydd unrhyw beth yn newid.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Adfer y sefyllfa fel bod y data yn cwmpasu Cymru gyfan fydd yn flaenllaw i ni, a hynny cyn gynted ag y gallwn pan fydd gennym hyder yn y data. Rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn GIG Cymru a BIPBC i fynd i’r afael â’r materion sylfaenol, a byddwn yn diweddaru defnyddwyr drwy ein sianeli ystadegol arferol pan fyddwn yn barod i ailddechrau adroddiadau RTT i Gymru gyfan.

Os ydych yn defnyddio ystadegau RTT yn eich gwaith ac mae gennych gwestiynau am ddehongli tra bo BIPBC wedi’i eithrio, byddem yn croesawu eich adborth a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd