Heddiw rydym wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2022. Dyma’r set gyntaf o amcanestyniadau i ni gyhoeddi ers 2020.
Newidiadau diweddar i’r boblogaeth
Mae’r amcanestyniadau hyn yn adlewyrchu’r newidiadau demograffig nodedig yr ydym ni wedi eu gweld yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig ar gyfer mudo.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mudo o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig (DU) wedi cynyddu’n sylweddol. Mae’r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer Cymru yn awgrymu bod mudo rhyngwladol net, sef y gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n symud i mewn ac allan o Gymru o’r tu allan i’r DU, bron i bum gwaith yn uwch nag yr oedd ar gyfartaledd yn y degawd blaenorol. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn awgrymu bod mudo rhyngwladol hirdymor bellach yn dangos arwyddion cynnar ei fod yn gostwng (y SYG).
Mae mudo rhwng Cymru a gweddill y DU wedi bod yn amrywio. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, amcangyfrifir bod mudo mewnol net, hynny yw, y gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n symud i mewn ac allan o Gymru o weddill y DU, dros un a hanner gwaith yn uwch nag yr oedd ar gyfartaledd yn y degawd blaenorol. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn wedi bod yn amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn.
Rydym hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer y genedigaethau, gyda chyfanswm y gyfradd ffrwythlondeb o 1.35 yn 2024, yr isaf a gofnodwyd erioed.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am yr amcanestyniadau
Nid rhagolygon yw amcanestyniadau poblogaeth. Yr hyn a olygwn wrth hynny yw eu bod yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar dybiaethau am dueddiadau diweddar mewn ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo, ac mae’r rhagdybiaethau hynny’n ansicr yn eu hanfod.
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i’r dulliau a ddefnyddir i gyfrifo ein amcanestyniadau o ganlyniad i’r tueddiadau demograffig diweddaraf hyn. Gan fod amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor wedi bod yn sylweddol uwch rhwng canol 2022 a chanol 2024 nag yn y blynyddoedd blaenorol, rydym wedi sicrhau bod lefelau mudo rhyngwladol a amcanestynnir yn gyson â’r amcangyfrifon cyhoeddedig yn gyffredinol yn ystod y cyfnod hwn.
Rydym hefyd wedi newid ein dulliau ar gyfer yr amcanestyniadau aelwydydd i sicrhau eu bod yn gyson â’n hamcangyfrifon aelwydydd, gan ymgorffori’r data diweddaraf am gyfansoddiad aelwydydd o Gyfrifiad 2021.
Felly mae’r tueddiadau demograffig hyn sydd wedi bod yn newid yn diweddar yn golygu bod yr amcanestyniadau diweddaraf yn wahanol i’r amcanestyniadau blaenorol. Amcanestynnir bellach y bydd y boblogaeth yn cynyddu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol rhwng canol 2022 a chanol 2032, gyda’r cynnydd mwyaf a amcanestynnir yng Nghaerdydd a’r awdurdodau lleol cyfagos, sef Casnewydd a Bro Morganwg. Gwelwn batrymau tebyg yn yr amcanestyniadau aelwydydd.
Yn yr amcanestyniadau blaenorol, amcanestynnwyd y byddai’r boblogaeth yn lleihau mewn pedwar awdurdod lleol yn ystod y 10 mlynedd cyntaf o gyfnod yr amcanestyniadau.
Ffigur 1: newid canrannol yn yr amcanestyniadau poblogaeth yn ôl awdurdod lleol, rhwng canol 2022 a chanol 2032

Cyngor am sut i ddefnyddio’r amcanestyniadau
Mae’r map uchod yn seiliedig ar y prif amcanestyniadau poblogaeth sy’n adlewyrchu’r tueddiadau ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo diweddaraf orau.
Rydym hefyd yn cyhoeddi amcanestyniadau amgen, neu ‘amrywiadol’, ochr yn ochr â’r prif amcanestyniad hwn. Maent yn seiliedig ar senarios amgen yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo o’u cymharu â’r prif amcanestyniad. Maent yn rhoi arwydd o ansicrwydd, ond nid ydynt yn cynrychioli terfynau uchaf nac isaf ymddygiad demograffig yn y dyfodol.
Mae’r amcanestyniad mudo cyfartalog 10 mlynedd, er enghraifft, yn defnyddio 10 mlynedd o ddata mudo, yn hytrach na 5 mlynedd o ddata a ddefnyddir yn y prif amcanestyniad. Mae’r amcanestyniad hwn yn is yn gyffredinol na’n prif amcanestyniad gan ei fod yn cynnwys cyfnodau pan oedd lefelau mudo yn is nag y maent wedi bod yn ddiweddar.
Mae’r un peth yn wir am yr amcanestyniad amgen sy’n seiliedig ar 15 mlynedd o ddata mudo. Fodd bynnag, un cyfyngiad ar y amcanestyniadau amgen hyn yw ei bod hi’n bosibl eu bod yn gwanhau effaith newidiadau mwy systemig mewn mudo sydd wedi digwydd yn ddiweddar, yn enwedig os bydd tueddiadau mudo diweddar yn parhau i’r dyfodol.
Dylai defnyddwyr ystyried yr ystod lawn o amrywolion wrth ddefnyddio’r amcanestyniadau, i adlewyrchu’r ansicrwydd mewn patrymau mudo presennol a phatrymau yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn parhau i gynghori ein defnyddwyr i ddefnyddio’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael, gan y gall amcanestyniadau poblogaeth fod yn wahanol i amcangyfrifon poblogaeth sydd wedi eu cyhoeddi yn y tymor byr a’r tymor hir.
I grynhoi, dylech ddefnyddio’r:
- prif amcanestyniadau at ddibenion cynllunio ac i lywio eich penderfyniadau, gan eu bod yn seiliedig ar y tueddiadau diweddaraf mewn ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo
- ystod lawn o amcanestyniadau amgen i ddeall y amrywiaeth o senarios posibl yn y dyfodol ac i adlewyrchu ansicrwydd yn eich dadansoddiad
- amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf ar gyfer unrhyw flynyddoedd lle maent ar gael, gan mai dyma’r amcangyfrifon gorau posibl o faint y boblogaeth
Ni ddylech:
- drin yr amcanestyniadau amgen fel terfynau uchaf neu isaf pendant. Nid rhagolygon o’r hyn a fydd yn digwydd mewn gwirionedd yw’r rhain
- anwybyddu’r ansicrwydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth. Ystyriwch ystod o senarios bob amser cyn gwneud penderfyniadau
- adio amcanestyniadau poblogaeth yr awdurdodau lleol at ei gilydd os oes gennych ddiddordeb mewn amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru. Yn lle hynny, defnyddiwch amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2022 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Camau nesaf
Nawr ein bod wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer awdurdodau lleol, byddwn yn cyhoeddi amcanestyniadau ar gyfer parciau cenedlaethol nesaf.
Hoffem ddiolch i grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru am eu mewnbwn a’u cyngor yn ystod y broses gynhyrchu’r amcanestyniadau hyn, yn ogystal â’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a gymerodd ran yn y broses sicrhau ansawdd.
Cysylltwch â’r tîm yn ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr amcanestyniadau hyn.
Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd