Diweddariad y Prif Ystadegydd: yn dod yn fuan, data newydd i ddeall ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru

Ar 27 Tachwedd, byddwn yn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025. Bydd yn rhoi set newydd o safleoedd o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru, gan ddefnyddio Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) newydd Cyfrifiad 2021.

Read this page in English

Yn y gwanwyn, cyhoeddwyd crynodeb o’ch safbwyntiau ar ba ddata y dylem eu defnyddio i ddiweddaru MALlC. Diolch i’r bobl a’r sefydliadau, dros 80 i gyd, a gymerodd ran yn yr arolwg a’r seminarau. Gwnaethom hefyd amlinellu ein cynlluniau ar gyfer yr ychydig fisoedd diwethaf o waith datblygu ar bob un o’r 8 maes o amddifadedd a geir yn y mynegai. Mae’r blog hwn yn atgoffa pawb o’r cynlluniau hynny ac yn rhoi diweddariad, cyn i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Dangosyddion newydd yn y maes tai

Yn y maes tai rydym yn ychwanegu dau ddangosydd newydd. Rydym yn ychwanegu dangosydd ar yr anallu i gael mynediad i feddiannaeth perchennog neu’r farchnad rhentu breifat, a luniwyd gan Brifysgol Heriot-Watt. Cydnabyddir bod hwn yn faes cymdeithasol a pholisi sy’n achos pryder cynyddol, ac mae cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a rhaglenni i ymdrin ag anghenion sy’n codi o ganlyniad i gyfyngiadau fforddiadwyedd tai, y gallai’r data hyn eu llywio o bosibl.

Er mwyn mesur ansawdd tai, rydym yn cynnwys cyfran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni gwael. Mae’n fwy anodd a chostus gwresogi cartrefi â pherfformiad ynni gwael, a cheir effeithiau posibl ar iechyd o ganlyniad i fyw mewn cartref oer (Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin). Mae’r mesur hwn yn cofnodi gwybodaeth am gyflwr ffisegol eiddo sy’n helpu i greu darlun o amddifadedd sy’n ymwneud â thai.

Gwelliannau i’r mynediad at y maes gwasanaethau

Er mwyn mesur amddifadedd mynediad at wasanaethau, am y tro cyntaf byddwn yn edrych ar fynediad at wasanaethau gofal plant yn ogystal â mynediad at ystod o wasanaethau lleol eraill. Gall mynediad at ofal plant esgor ar gyfleoedd cyflogaeth i rieni, yn enwedig y rhai â phlant o oedran cyn ysgol, sy’n debygol o leihau amddifadedd materol a chymdeithasol aelodau o’r aelwyd.

Data newydd ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol

Ym maes yr amgylchedd ffisegol, rydym yn ychwanegu data newydd ar lygredd sŵn. Mae sŵn gormodol wedi cael ei gysylltu â chanlyniadau iechyd gwaeth ac mae’n debygol o effeithio’n anghymesur ar y rhai mewn amddifadedd (Sefydliad Iechyd y Byd).

Beth rydym yn cyhoeddi

Rydym bellach wedi llunio rhestr o’r hyn rydym yn bwriadu ei gyhoeddi a phryd, ar ein gwefan. Mae hyn yn cynnwys canllaw ymlaen llaw sydd bellach ar gael. Mae MALlC yn gynnyrch cymhleth ac rydym yn awyddus i sicrhau y caiff ei ddefnyddio a’i ddehongli’n gywir gan bob defnyddiwr.

Caiff ein data eu gwe-letya ar wasanaeth data agored newydd StatsCymru, gyda data gofodol a mapiau ar MapDataCymru.

Cofrestru’ch diddordeb mewn sesiwn wybodaeth

Rhowch wybod inni os hoffech ein clywed yn sôn am ganlyniadau’r mynegai newydd ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, drwy anfon e-bost i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru gan roi ‘Cofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth am MALlC’ fel teitl pwnc.

Dyddiadau ac amseroedd y sesiynau

  • 2 Rhagfyr 2025, 10am i 11am
  • 4 Rhagfyr 2025, 2pm i 3pm

Nodwch eich dewis o ran iaith (Cymraeg neu Saesneg) ac sesiwn. Byddwn yn anfon gwahoddiad atoch ar gyfer sesiwn Microsoft Teams arlein.