Postiad gan Simon, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru
Os ydych chi wedi defnyddio LLYW.CYMRU, rydych chi wedi defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru. Ond sut ydyn ni’n penderfynu pa wefannau yw ein rhai ni, a pham bod hyn yn bwysig?
Beth sy’n cyfrif fel gwefan Llywodraeth Cymru
Rydym yn ystyried gwefan yn wefan Llywodraeth Cymru os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- daw 50% neu fwy o’i chyllid gan Lywodraeth Cymru
- mae’n cael ei chefnogi’n bennaf gan Lywodraeth Cymru fel y partner arweiniol
Mae’r rhan fwyaf o’n gwefannau hefyd yn defnyddio parth llyw.cymru neu gov.wales. Gall cyrff sector cyhoeddus eraill yng Nghymru hefyd ddefnyddio’r parthau hyn. Dysgwch fwy am sut i gofrestru a rheoli parthau .llyw.cymru a .gov.wales.
Mae’n well cael llai o wefannau a’r rheini’n fwy cyson
Fel rhan o’n gwaith llywodraethiant, rydym yn lleihau nifer y gwefannau ac yn cymhwyso safonau cyffredin. Mae hyn yn helpu i sicrhau:
- bod defnyddwyr yn treulio llai o amser yn penderfynu pa wefan i’w defnyddio
- ein bod yn creu hunaniaeth glir sy’n datblygu ymddiriedaeth
- ein bod yn lleihau costau trwy ailddefnyddio dyluniadau sefydledig
Pan fydd cydweithiwr yn gofyn am greu gwefan newydd, byddwn yn gwirio a oes modd diwallu’r anghenion ar safle sy’n bodoli eisoes.
Gwedd gyson
Rydym yn defnyddio system ddylunio GEL LLYW.CYMRU ar gyfer y rhan fwyaf o wefannau Llywodraeth Cymru. Mae’n helpu pobl i adnabod eu bod yn defnyddio ffynhonnell swyddogol ac yn ailddefnyddio dyluniad clir, cyson a hygyrch, gan arbed amser ac arian. Darllenwch fwy am sut mae system ddylunio GEL LLYW.CYMRU yn gwella profiad y defnyddiwr ac effeithlonrwydd.
Mae rhai eithriadau. Er enghraifft, mae gwefan Croeso Cymru yn defnyddio dyluniad gwahanol oherwydd ei chynulleidfa a’i phwrpas unigryw.
Technoleg
Nid yw llai o wefannau yn golygu bod yn rhaid i bopeth ddefnyddio’r un dechnoleg. Gallwn adeiladu gwahanol wasanaethau mewn gwahanol ffyrdd. Trwy ddilyn safonau dylunio cyffredin, gallwn ddarparu profiad cyson, o ansawdd uchel.
Er enghraifft:
- mae’r canllawiau am drwyddedau pysgota wedi’u cynnwys ar wefan graidd LLYW.CYMRU
- mae’r gwasanaeth ar-lein, rheoli trwyddedau pysgota a datganiadau dalfedd, ar system ar wahân
Maen nhw’n edrych ac yn teimlo’r un peth diolch i’r system ddylunio, felly mae defnyddwyr yn gallu symud yn hawdd rhyngddynt – er eu bod yn cael eu cefnogi gan wahanol gyflenwyr.
Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwefan newydd neu wefan sydd wedi newid
Os ydych chi’n gweithio yn Llywodraeth Cymru ac yn ystyried creu gwefan newydd, neu wneud newidiadau mawr i un sy’n bodoli eisoes, mae angen cymeradwyaeth y Tîm Digidol Corfforaethol arnoch. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl cyn gwneud unrhyw ymrwymiad. Chwiliwch y fewnrwyd am ‘cymeradwyo gwefan’.
Cysylltwch â ni
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. I rannu eich syniadau neu i gael gwybod mwy, rhowch sylwadau ar y post hwn neu anfonwch e-bost atom yn digidol@llyw.cymru.