Rydym wrth ein boddau o gyhoeddi bod gwasanaeth data agored newydd StatsCymru nawr yn fyw ac yn barod ichi chwilota drwyddo.
Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y ffordd rydym yn darparu mynediad at ystadegau swyddogol i Gymru. Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig ffordd fwy modern, hyblyg a hawdd ei defnyddio o ddod o hyd i ddata ar Gymru, eu defnyddio a’u rhannu. Nid oes gwahaniaeth a ydych yn defnyddio StatsCymru yn rheolaidd neu newydd ddechrau, rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld bod y platfform newydd yn haws i’w lywio a’i bod yn ymateb yn well i’ch anghenion.
Beth ddylid ei ddisgwyl gan wasanaeth “beta”?
Byddwch yn sylwi bod y gwasanaeth StatsCymru ar ei newydd wedd wedi’i labelu yn wasanaeth “beta”. Mae hyn yn golygu bod y gwaith ar y gwasanaeth newydd yn parhau. Mae’r nodweddion craidd yn eu lle, ond rydym yn gwybod bod rhagor i’w wneud eto. Rydym yn ei ryddhau nawr er mwyn ichi allu dechrau ei ddefnyddio a hefyd – ac mae hyn yn hollbwysig – er mwyn i ni ddysgu o’ch adborth chi. Rydym wedi cynnal profion helaeth. Ond efallai y bydd dal angen llyfnhau ambell i beth, neu gallai rhywbeth godi o bryd i’w gilydd o hyd nad yw’n gweithio yn ôl y disgwyl. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw beth tebyg, rhowch wybod inni.
Nodweddion hygyrchedd a rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API)
Rydym yn falch bod y StatsCymru newydd yn bodloni safonau hygyrchedd modern, gan sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth yn hyderus. Rydym hefyd wedi cyflwyno API agored, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu’n uniongyrchol â setiau data i’w defnyddio mewn dangosfyrddau, offer dadansoddi neu gymwysiadau wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer y defnyddiwr. Mae canllawiau ar gael i helpu i’ch rhoi ar ben y ffordd, a byddwn yn parhau i ehangu’r cymorth ymhen amser.
Pontio o’r hen wasanaeth
Bydd yr hen wasanaeth StatsCymru yn parhau i fod ar gael tan fis Ionawr. Fodd bynnag, o heddiw ymlaen, dim ond ar y gwasanaeth newydd y bydd yr holl setiau data newydd, wedi’u diweddaru, yn cael eu cyhoeddi. Byddwn yn mudo’r setiau data sy’n bodoli’n barod yn raddol dros y misoedd nesaf. Os ydych yn dibynnu ar set ddata benodol, byddwch yn dal i allu cael mynediad ati ar yr hen safle am y tro, ond cadwch olwg am ddiweddariadau wrth inni drosglwyddo pethau.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Dechrau’r daith yn unig yw lansio’r gwasanaeth newydd. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn monitro’n agos sut byddwch yn defnyddio’r wefan ac yn gwrando ar eich adborth. Rydym wedi ymrwymo i wella ac addasu ar sail yr hyn y byddwn yn ei ddysgu. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth a allai fod yn well, neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer nodweddion newydd, cysylltwch â ni.
Rydym hefyd yn gweithio ar gynllun i ailgyfeirio hen URLs StatsCymru i’r gwasanaeth newydd wrth i setiau data gael eu diweddaru a’u trosglwyddo. Dylai hyn helpu i sicrhau y bydd cyn lleied o darfu â phosibl i chi o ran y ddarpariaeth, a dylai ei gwneud yn haws ichi ddod o hyd i’r data sydd eu hangen arnoch, hyd yn oed wrth i bethau newid.
Diolch yn fawr
Diolch ichi am eich cefnogaeth wrth inni fwrw ati â’r broses bontio i’r gwasanaeth newydd. Rydym wir yn edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfleoedd y mae’r gwasanaeth StatsCymru newydd yn eu cynnig, ac edrychwn ymlaen hefyd at weithio gyda chi i’w wella ymhellach eto hyd yn oed.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu adborth, rhowch wybod inni. Bydd eich mewnbwn chi yn helpu i siapio dyfodol data agored yng Nghymru.