Postiad gan Roland, Tîm Canolog y We, Llywodraeth Cymru
Dysgwch am ein hymrwymiad i hygyrchedd yn y cyflwyniad hwn i’n dull gweithredu ar LLYW.CYMRU.
Pam mae hygyrchedd yn bwysig
Mae hygyrchedd yn ymwneud â sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cael mynediad at ein gwybodaeth a’n gwasanaethau ar-lein.
Mae darparu cynnwys a gwasanaethau hygyrch yn:
- ei gwneud hi’n haws i bawb ddarllen a defnyddio gwybodaeth, sy’n cefnogi canlyniadau polisi gwell
- diwallu anghenion pobl sy’n dibynnu ar dechnolegau cynorthwyol fel rhaglenni darllen sgrin, chwyddwydrau sgrin neu offer adnabod lleferydd
- cyd-fynd â’n gwerthoedd o ran cydraddoldeb a’r model cymdeithasol o anabledd
- dangos ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus rhagorol
Mae dileu anghydraddoldeb hefyd yn gyfraith ac yn un o flaenoriaethau’r Rhaglen Lywodraethu.
Safonau hygyrchedd LLYW.CYMRU
Mae safonau hygyrchedd LLYW.CYMRU yn nodi bod rhaid i gynhyrchion:
- fodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2
- cael eu profi
- cyhoeddi datganiad hygyrchedd
Rydym yn berchen ar safonau LLYW.CYMRU, gan helpu cydweithwyr sy’n berchen ar wasanaethau a microwefannau i’w cymhwyso. Rydym hefyd yn rheoli’r platfform ar gyfer y brif wefan yn uniongyrchol yn www.llyw.cymru a gallwch ddarllen am ein dull o brofi hygyrchedd.
Mae ein safonau yn cydymffurfio â’r cyd-destun ehangach ar draws y sector cyhoeddus cyfan ac yn ategu’r cyd-destun hwnnw, er enghraifft:
- safon 5, sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio’r gwasanaeth, o safonau’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ar gyfer gwasanaethau digidol Cymru
- diffinnir gofynion hygyrchedd fel cyfraith yn Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (ar legislation.gov.uk)
Cymhwyso’r safonau hygyrchedd
Er mwyn helpu timau cynnyrch i fodloni canllawiau WCAG 2.2, rydym yn sicrhau bod safonau LLYW.CYMRU yn cydymffurfio â nhw.
Er enghraifft, mae WCAG 2.2 yn dweud bod rhaid i:
- destun a delweddau o destun sy’n cael eu cyflwyno’n weledol gael cymhareb cyferbyniad o 4.5:1 o leiaf
Er mwyn bodloni hyn, rydym yn sicrhau bod system ddylunio Iaith Profiad Cyflawn (GEL) LLYW.CYMRU yn defnyddio cymhareb cyferbyniad sy’n ddigonol. Mae hyn yn arbed amser i dimau cynnyrch, gan sicrhau profiad cyson i ddefnyddwyr sy’n cryfhau ein brand ac yn adeiladu ymddiriedaeth.
Rydym hefyd yn ymgorffori safonau cynnwys WCAG 2.2 yn ein canllawiau ysgrifennu. Mae hyn yn golygu nad oes angen i gynhyrchwyr cynnwys gyfeirio at ganllawiau WCAG 2.2 yn llawn, sy’n:
- arbed amser, er enghraifft nid oes angen iddynt ddeall cymhareb cyferbyniad testun gan fod hyn eisoes yn cael ei reoli gan system ddylunio GEL LLYW.CYMRU
- ein galluogi i gyflwyno canllawiau cysylltiedig nad ydynt yn rhan o WCAG 2.2 yn yr un lle, er enghraifft esbonio na ddylai teitlau tudalennau fod yn fwy na 65 nod er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau
Cysylltu â ni
Os hoffech wybod mwy neu rannu eich syniadau, rhowch eich sylwadau ar y postiad hwn neu anfonwch e-bost atom yn digidol@llyw.cymru.