Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: gwelliannau i ystadegau perfformiad y GIG

Bob mis, rydym yn cyhoeddi ystod eang o ystadegau gofal eilaidd y GIG, gan gynnwys gofal brys a gofal mewn argyfwng, diagnosteg, therapïau a rhestrau aros y GIG. Yn ddiweddar, rydym wedi gwneud rhai newidiadau er mwyn gwella perthnasedd ac amseroldeb ein data ac adlewyrchu’r newid o ran sut y caiff galwadau 999 i’r gwasanaeth ambiwlans eu rheoli.

Read this page in English

Data mwy amserol ynghylch rhestrau aros y GIG

Mae diddordeb mawr mewn ffigurau rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, yn arbennig o ran amseroedd aros hir. Caiff y mesurau swyddogol eu cyhoeddi gydag oedi o tua 7 wythnos, sy’n golygu er enghraifft, y caiff ffigurau terfynol mis Mehefin eu cyhoeddi ar 21 Awst. Fodd bynnag, yn sgil y sylw ar yr ystadegau hyn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r amseroedd aros hiraf, mae gwerth cyhoeddus mewn sicrhau bod data ar y pwnc hwn ar gael yn gynt. Rydym wedi ystyried sut y gallwn ddarparu ffigurau ar gyfer y mis canlynol yn yr adroddiad ystadegol yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael, ac o fis Awst ymlaen, byddwn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer mis Gorffennaf yn ymwneud â chyfanswm y llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n aros a’r rhai sy’n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd.

Bydd y mesurau hyn yn rhai dros dro, a gallant newid i ryw raddau cyn i’r ystadegau swyddogol gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, credwn y bydd y ffigurau dros dro yn dangos, mewn modd dibynadwy ac amserol, y newidiadau ar gyfer y mis i ddod.

Ffordd newydd o fesur perfformiad ambiwlansys

Ym mis Gorffennaf 2025, newidiodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y ffordd y mae’n rheoli galwadau 999. Cafodd dau gategori ymateb newydd eu creu ar gyfer y galwadau mwyaf difrifol, gan ddisodli’r categori coch blaenorol. Yn ogystal, cyflwynwyd mesurau perfformiad newydd, sy’n golygu bod y gyfres ddata flaenorol yn dod i ben ym mis Mehefin 2025. O fis Awst 2025 ymlaen, byddwn yn cyhoeddi ystadegau swyddogol yn seiliedig ar y model newydd a bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud yn ddiweddarach eleni.

O 2016 ymlaen, cafodd galwadau ambiwlans eu categoreiddio fel naill ai rhai coch (lle mae bywyd yn y fantol), ambr (galwadau difrifol ond lle nad yw bywyd yn y fantol) neu wyrdd (galwadau nad ydynt yn rhai brys), gyda galwadau coch yn destun targed wyth munud ar gyfer ymateb brys. Yn dilyn adolygiad clinigol o’r targed, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol newidiadau i’r ffordd y caiff perfformiad ambiwlansys ei fesur a’r bwriad i’w treialu o fis Gorffennaf ymlaen.

Addaswyd y model ymateb clinigol ar gyfer ambiwlansys, sy’n pennu sut y caiff galwadau eu blaenoriaethu, er mwyn adlewyrchu’r dull newydd. Bwriad y newidiadau yw adlewyrchu’n well yr ystod o senarios yn ymwneud â chleifion, gan sicrhau bod mesurau newydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau clinigol ac ansawdd y gwasanaeth.

Categorïau a mesurau newydd ar gyfer galwadau

Ar 1 Gorffennaf 2025, cyflwynwyd dau gategori newydd, Porffor: ataliad a Coch: brys, gan ddisodli’r categori coch blaenorol. Mae galwadau porffor ar gyfer cleifion sy’n cael ataliad ar y galon neu ataliad anadlol. Mae galwadau coch ar gyfer cleifion sydd â thrawma mawr neu sy’n wynebu perygl sylweddol o gael ataliad y galon neu ataliol anadlol os nad ydynt yn cael ymateb cyflym. Ar hyn o bryd, nid oes newid i alwadau ambr a gwyrdd ond bydd categorïau newydd sy’n adlewyrchu’r gwahanol fathau o alwadau llai brys yn cael eu cyflwyno maes o law.

Bydd ystod eang o ddangosyddion gwasanaethau ambiwlans yn cael eu cyhoeddi gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bydd is-set o fesurau yn cael eu sefydlu yn ystadegau swyddogol a’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r mesurau swyddogol ar gyfer y categori porffor fel a ganlyn:

  • nifer y galwadau
  • cyfradd dychwelyd i gylchrediad naturiol (ROSC)
  • amser canolrifol a gymerir i adnabod ataliad y galon
  • amser canolrifol a gymerir i ddechrau rhoi cyfarwyddiadau CPR
  • amser canolrifol a gymerir i sicrhau diffibriliwr
  • ymateb canolrifol ambiwlansys (targed o 6 i 8 munud)
  • ymateb 90 canradd ambiwlansys (targed o <20 munud)

Nod y gwasanaeth ambiwlans wrth ymateb i alwadau porffor yw gwella cyfraddau dychwelyd i gylchrediad naturiol ar gyfer cleifion ataliad ar y galon neu ataliad anadlol. Y mesur clinigol allweddol felly yw’r gyfradd dychwelyd i gylchrediad naturiol, sef cyfran y cleifion sydd â churiad calon wedi’i adfer ar ôl dioddef ataliad ar y galon am gyfnod.

Bydd amseroedd ymateb ambiwlansys yn cael eu mesur gan y canolrif, lle y mae hanner yr ymatebion yn gyflymach a hanner yn arafach, a’r 90 canradd, lle y mae 90% o’r ymatebion yn gyflymach a 10% yn arafach. Bydd y targed amser ymateb canolrifol yn 6-8 munud a bydd y targed ar gyfer y 90 canradd yn 20 munud.

Bydd amseroedd canolrifol hefyd yn cael eu hadrodd o ran adnabod ataliad ar y galon, yr amser a gymerir i’r rhai sy’n ateb galwadau i ddechrau rhoi cyfarwyddiadau CPR a’r amser a gymerir i sicrhau diffibriliwr. Mae’r rhain yn ddangosyddion allweddol o ran siawns cleifion o oroesi.

Mae’r mesurau swyddogol ar gyfer y categori coch fel a ganlyn:

  • nifer y galwadau
  • ymateb canolrifol ambiwlansys (targed o 6 i 8 munud)
  • ymateb 90 canradd ambiwlansys (targed o <20 munud)
  • Mesur neu fesurau canlyniadau – i’w pennu

Y bwriad ar gyfer y categori coch yw atal cyflwr cleifion sydd mewn perygl o gael ataliad ar y galon neu ataliad anadlol rhag dirywio i achos o ataliad. Yn yr un modd â galwadau porffor, mae ymateb amserol gan ambiwlansys yn allweddol, a bydd yr un mesurau amser ymateb yn cael eu hadrodd, a hynny yn erbyn yr un targedau. Bydd mesurau canlyniadau clinigol yn cael eu hystyried maes o law.

Adrodd ar ddata ambiwlansys a newidiadau yn y dyfodol

Dylai ystadegau swyddogol fod yn berthnasol ac yn hwylus i gael gafael arnynt. Er mwyn annog dealltwriaeth y cyhoedd o’r newidiadau a’r effaith ar wasanaethau, byddwn yn darparu’r mesurau newydd ar gyfer perfformiad ambiwlansys yn ein datganiad ystadegol misol ynghylch gweithgarwch a pherfformiad y GIG. Byddwn hefyd yn cyhoeddi data fesul Bwrdd Iechyd Lleol ar ein gwasanaeth StatsCymru.

Yn ddiweddarach eleni, bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i’r model ymateb ambiwlansys. Bydd galwadau nad ydynt yn rhai porffor neu goch yn cael eu hailgategoreiddio gan adlewyrchu’r gwahanol fathau o gyflyrau llai brys y mae cleifion yn eu hwynebu, a bydd mesurau perfformiad cyfatebol yn cael eu datblygu.

Bydd data ar gyfer yr holl fesurau newydd yn cael eu casglu a bydd eu hansawdd yn cael ei sicrhau gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’u darparu i Lywodraeth Cymru i’w cyhoeddi. Os oes gennych gwestiynau ynghylch y model ymateb newydd neu’r mesurau perfformiad, anfonwch e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Stephanie Howarth
Y Prif Ystadegydd