Blog Gwadd: Adeiladu Dyfodol Digidol Cymru: Rôl Bwrdd Safonau Digidol a Data 

Blog gan Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr dros dro Awdurdod Cyllid Cymru a Chadeirydd Bwrdd Safonau Digidol a Data i Gymru.

Read this page in English

Ar 24 Gorffennaf, cadeiriais y Bwrdd Safonau Digidol a Data i Gymru ac roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith.

Nod Strategaeth Ddigidol Cymru yw sbarduno newid diwylliant yng Nghymru – bod yn agored, defnyddio data i ddatrys problemau a rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn. Mae Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn ein helpu i feddwl am sut rydym yn gwneud hyn.

Pam mae safonau digidol yn bwysig 

Yn y byd rhyng-gysylltiedig heddiw, nid yw safonau digidol a data yn bethau ychwanegol dewisol – maent yn sylfeini hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus sy’n gwasanaethu pobl Cymru. Mae’r safonau hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau digidol yn ddiogel, yn rhyngweithiol, ac yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a moesegol. 

Ond y tu hwnt i gydymffurfiaeth, maent yn darparu manteision diriaethol. Trwy leihau dyblygu a chreu effeithlonrwydd gwasanaeth, maent yn rhyddhau adnoddau gwerthfawr. Maent yn sicrhau cysondeb ym mhrofiad y defnyddiwr ar draws gwahanol wasanaethau cyhoeddus. Efallai yn bwysicaf oll, eu bod yn diogelu ein gwaith yn y dyfodol, gan wneud gwasanaethau yn fwy addasadwy i dechnolegau sy’n dod i’r amlwg ac anghenion newidiol. 

Ein mandad a’n cenhadaeth 

Mae Bwrdd Safonau Digidol a Data a gynullwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, wedi’i sefydlu gyda chefnogaeth draws-Gabinet yn Llywodraeth Cymru, sy’n tanlinellu’r pwysigrwydd a roddir ar ein gwaith ar lefelau uchaf y Llywodraeth.

Mae ein bwrdd yn dwyn ynghyd arweinwyr digidol o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae gennym ddau gyfrifoldeb craidd: hyrwyddo mabwysiadu Safon Gwasanaeth Digidol Cymru a nodi a chymeradwyo safonau ychwanegol sy’n cefnogi dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. 

Mae’r disgwyliad gweinidogol yn glir – dylai’r safonau hyn gael eu mabwysiadu gan holl gyrff cyhoeddus Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud â gorfodi biwrocratiaeth; mae’n ymwneud â chreu iaith a dull cyffredin sydd o fudd i bawb. 

Cefnogi blaenoriaethau ehangach a rhwymedigaethau statudol 

Mae Safon Gwasanaeth Digidol yn cyd-fynd yn berffaith â blaenoriaethau strategol allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, mae’n cefnogi’r weledigaeth a amlinellir yn ‘Cymru Iachach’, lle mae dulliau digidol yn galluogi darparu iechyd a gofal di-dor.  

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac o fewn llywodraeth leol, mae’n helpu sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Mae gofyniad Safon Gwasanaeth Digidol i ddylunio gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg yn cefnogi’n uniongyrchol i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn yr un modd, mae ei ffocws ar sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio gwasanaethau yn helpu sefydliadau i fodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus. 

Nid blychau i’w ticio yn unig yw’r rhain – maen nhw’n gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau gwell, mwy cynhwysol tra’n bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol yn effeithlon. 

Yma i helpu 

Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gall deimlo’n frawychus ceisio cwrdd â’r Safon Gwasanaeth Digidol, dyna pam mae cymorth ar gael i’ch helpu chi ar eich taith. P’un a ydych chi’n dewis un pwynt o’r Safon i ganolbwyntio arno i ddechrau, neu’n dewis pob un ohonynt, gallwn eich helpu i symud i’r cyfeiriad cywir.  

Lle da i ddechrau yw gwefan CDPS lle byddwch chi’n dod o hyd i’r Llawlyfr Gwasanaeth gydag arweiniad ymarferol i fodloni’r Safon. Mae gennym hefyd Catalog Safonau; rhestr o safonau a chanllawiau profedig i’ch helpu i ddylunio a darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae fideos byr hefyd ar gael ar ein Rhestr Chwarae Safonau sy’n egluro pob un o’r safonau a gymeradwywyd yn y catalog.   

Myfyrdodau gan fy sefydliad fy hun – Awdurdod Cyllid Cymru  

Yn ACC (WRA) rydym wedi bod yn gweithio tuag at fod yn sefydliad sy’n seiliedig ar wasanaethau, felly rydym wedi bod yn canolbwyntio’n arbennig ar greu timau digidol’. Rydym wedi defnyddio’r safon i helpu i lywio ein meddwl a fframio ein dealltwriaeth o beth yw da.   

Rydym wedi bod yn sicrhau bod ein gwasanaethau presennol yn bodloni’r Safon Gwasanaeth Digidol, ac rydym yn falch o’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud. Mae’r safon yn cyd-fynd yn wych â’n dull ehangach fel sefydliad, gan ddarparu gwasanaethau sy’n hawdd, yn deg ac yn gynaliadwy, ac felly maent yn darparu ffordd wirioneddol ddefnyddiol ac ymarferol o feddwl am sut y gallwn wella’n barhaus.  

Mae wedi bod yn amhrisiadwy gallu defnyddio’r safon i’n tywys wrth i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaeth Ardoll Ymwelwyr a Chofrestru Cenedlaethol newydd, ac mae ein timau’n mwynhau, ac yn rhannu, yr angerdd am ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr sydd wrth wraidd y safon. 

Edrych ymlaen  

Nid yw trawsnewid digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â phobl, prosesau, ac ymrwymiad a rennir i wella. Mae Safon Gwasanaeth Digidol yn darparu fframwaith sy’n ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig: darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn effeithlon ac sy’n paratoi ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyhoeddus pobl Cymru.  

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru wrth i ni adeiladu galluoedd digidol sy’n gwasanaethu ein cymunedau.  

Gadael sylw