Diweddariad y Prif Ystadegydd: Mae StatsCymru yn newid. Beth sydd angen ichi ei wybod

Read this page in English

Mae StatsCymru yn adnodd amhrisiadwy i ymchwilwyr, llunwyr polisi a dinasyddion ers ei sefydlu. Mae dros 280,000 o ddefnyddwyr unigryw yn defnyddio’r adnodd bob blwyddyn, ac mae’n gweithredu fel storfa gynhwysfawr o ystadegau a data ar Gymru.  P’un a ydych yn ymchwilio i dueddiadau economaidd, data iechyd, ynteu i siâp ein poblogaeth, mae StatsCymru yn darparu golwg fanylach ar y sefyllfa er mwyn ichi allu deall gwahanol agweddau ar fywyd Cymru.

Ond, wrth i dechnoleg esblygu, felly hefyd rhaid i’n gwasanaethau. Mae StatsCymru wedi bod yn gweithredu ar ei ffurf bresennol ers 2012. Yn y blynyddoedd ers hynny, mae galluoedd technolegol a safonau digidol wedi datblygu’n sylweddol. I sicrhau ein bod yn parhau i gynnig y gwasanaeth gorau posibl, rydym wedi dechrau ar y daith i ddiweddaru StatsCymru.

Mae ein dull o fynd ati i drawsnewid yr adnodd wedi’i seilio ar egwyddorion Safon Gwasanaethau Digidol Cymru. Drwy fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym wedi ymrwymo i saernïo’r gwasanaeth ar sail anghenion y rheini sy’n dibynnu arno fwyaf. Rydym wedi bod wrthi’n ymgysylltu â defnyddwyr, drwy gynnal profion ac ymchwil, a chasglu adborth i sicrhau bod StatsCymru ar ei newydd wedd yn hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio, yn effeithlon ac yn ymatebol i’ch anghenion.

Felly, beth allwch chi ei ddisgwyl o StatsCymru ar ei newydd wedd?  Rydym yn y cyfnod profi gyda defnyddwyr ar hyn o bryd, ac rydym yn rhagweld y bydd y gwasanaeth newydd yn dechrau cael ei gyflwyno yr haf hwn. Er mwyn hwyluso proses lyfn o bontio o’r hen adnodd i’r un newydd, bydd y ddau yn cyd-redeg am gyfnod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr hen fersiwn a’r fersiwn newydd o StatsCymru ar gael, gan sicrhau bod gennych gyfle i ymgyfarwyddo â’r newidiadau.

Byddwn yn defnyddio’r blog hwn i dynnu eich sylw at y datblygiadau diweddaraf a’r diweddariadau, felly hoffem eich annog i danysgrifio i’r blog Digidol a Data. Drwy danysgrifio, byddwch yn derbyn gwybodaeth amserol yn uniongyrchol gan ein tîm, gan sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r newyddion diweddaraf bob amser.

Rwy’n llawn cyffro wrth edrych ymlaen at ddyfodol StatsCymru a’r gwasanaeth gwell y bydd yn ei ddarparu. Diolch ichi am eich cymorth a’ch cydweithrediad parhaus. Gyda’ch mewnbwn chi, gallwn sicrhau bod StatsCymru yn parhau i fod yn adnodd hanfodol ar gyfer deall bywyd yng Nghymru.