Blog gwadd: Dadbacio Economi Cymru: Myfyrdodau am Baratoi’r Tablau Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru

Post gan Athro Calvin Jones, Cynghorydd Academaidd, Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Cyflwyniad

Yn 2022, dechreuodd Llywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi set o Dablau Cyflenwad a Defnydd (SUTs) a Thablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs) ar gyfer Cymru. Y Tablau hynny fyddai’n rhoi’r darlun cyfannol cyntaf o economi Cymru, gan ddilyn yr Alban (sydd wedi bod yn cyhoeddi SUTs ac IOTs ers degawdau) a Gogledd Iwerddon (sydd wedi bod yn gwneud hynny yn ystod y cyfnod ar ôl Brexit).

Y bwriad wrth gyhoeddi’r tablau oedd gwella’n dealltwriaeth  – y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru – o sut yr oedd economi Cymru yn ‘gweithio’ o ran cynhyrchu, masnach, a defnyddio cynnyrch. Yn bwysicach fyth, un o’r dibenion eraill oedd penderfynu a fyddai’n ymarferol casglu gwybodaeth er mwyn creu darlun o’r fath, gan wneud hynny mewn ffordd gyson, ar draws yr holl fathau o gynhyrchion, diwydiannau a defnyddwyr, gan warantu hefyd fod ansawdd a gwytnwch yr wybodaeth yn dderbyniol. Esgorodd y prosiect ar gyhoeddiad Mewnbwn-Allbwn ar gyfer Cymru (ar gyfer blwyddyn sylfaen 2019), a oedd yn manylu ar strwythurau a gweithgareddau 55 o ddiwydiannau yng Nghymru, gyda gwybodaeth gysylltiedig am ddefnydd a chyflenwadau o gynhyrchchion. Mae’r Tablau Cyflenwad a Defnydd a’r Tablau Mewnbwn-Allbwn (a elwir yn IOTs o hyn ymlaen er symlrwydd) wedi eu cyhoeddi ar ffurf ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad, ynghyd â dogfen helaeth ar fethodoleg.

Y defnydd a wneir o ddadansoddiadau Mewnbwn-Allbwn, a’r Gofynion sy’n gysylltiedig â nhw

Mae tablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs) yn rhan o Systemau Cyfrifon Gwladol (SNA): y fframwaith a ddefnyddir wrth gasglu a chysoni’r gweithgarwch economaidd yr ymgymerir ag ef mewn gwlad, neu gan ei hendidau preswyl, fel y bo modd cymharu ar draws sectorau, cymharu gofynion terfynol, mewnbynnau ac allbynnau, ac, yn benodol, cymharu dros gyfnod o amser. Mae’r dulliau codeiddio a’r canllawiau a ddatblygwyd gan asiantaethau rhynglywodraethol ar Systemau Cyfrifon Gwladol (SNA) yn golygu y gallwn hefyd gymharu metrigau allweddol mewn ffordd ddibynadwy – er enghraifft, Cynnyrch Domestig Gros (GDP) – ar draws gwledydd. Mae tablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs) yn sail i wahanol fathau o waith dadansoddi economaidd – lluosyddion cyflogaeth ac allbwn, modelu, astudiaethau o gadwyni cyflenwi a gwerth, dadansoddi cynhyrchiant etc – sydd wedyn, yn eu tro, yn sail i ddulliau aneconomaidd eraill fel mesur ôl troed eco, ôl troed deunyddiau ac ôl troed carbon, a chyfrifyddu cymdeithasol.

Mae IOTs yn ddefnyddiol iawn felly. Mae eu hallbynnau yn anodd iawn eu dyblygu mewn ffyrdd eraill. Fodd bynnag, mae angen cysoni amrywiaeth enfawr o ddata o ffynonellau gwahanol er mwyn mynd ati i’w paratoi – arolygon busnes, arolygon masnach ac arolygon defnydd, data gweinyddol cwmnïau a’r data sydd ganddynt am dollau, a chyfrifon y sector cyhoeddus, i enwi ond ychydig ohonynt. Mae’r dasg hon yn gryn her ar raddfa is-genedlaethol, gan gynnwys yn y DU.

Ystadegau Economaidd Rhanbarthol yn y Deyrnas Unedig

Yn hanesyddol – a chyn datganoli – mater i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn bennaf, oedd ystadegau economaidd, a byddent yn cael eu hategu gan arolygon lleol neu arolygon pwrpasol (e.e. ar gyfer sectorau penodol). I  raddau helaeth, roedd y dirwedd ystadegol yn un ‘wastad’ ar draws Cymru a Lloegr, ond roedd y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban wedi bod yn wahanol ers tro (er enghraifft, roedd ganddynt eu Cyfrifiadau Poblogaeth eu hunain). Gellid dadlau bod gwahaniaethau o ran ystadegau economaidd yn llai pwysig pan oedd polisi economaidd, i bob pwrpas, yn cael ei ddatblygu a’i weithredu ar gyfer y DU. Newidiodd y model hwnnw ar droad yr 21ain ganrif. Cafodd datblygu economaidd ei ddatganoli i Senedd newydd yr Alban a Chynulliad Cymru, ac i’r Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol newydd yn Lloegr. Roedd hyn yn gofyn am ddata ar strwythurau a pherthnasoedd rhanbarthol, ond nid oedd y data hynny’n bodoli ar y ffurf yr oedd ei hangen. Er nad yw’r Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol yn bod erbyn hyn, mae Llywodraethau’r Alban a Chymru, yn fwyfwy, wedi cael y pŵer i ddeddfu ar bolisïau sy’n wahanol i bolisïau San Steffan a’r ac mae gan Dinas-Ranbarthau newydd, a’r awdurdodau maerol cyfun eu hanghenion penodol eu hunain o ran data.

Wrth i ddatganoli gynyddu dros y chwarter canrif diwethaf, nid yw’r dirwedd ystadegol a ddefnyddir o fewn y broses o wneud penderfyniadau datganoledig wedi datblygu yn yr un ffordd.

Tablau Mewnbwn-Allbwn Cymru: Bylchau o ran Data

Mae yna nifer o feysydd lle nad yw’r ffynonellau data sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol o ran helpu i baratoi Tablau Cyflenwad a Defnydd a Thablau Mewnbwn-Allbwn rhanbarthol dibynadwy ar gyfer Cymru.

Metrigau allweddol – er mwyn paratoi Tablau Mewnbwn-Allbwn (IOTs), mae angen ‘cydbwyso”r cyflenwad a’r galw ar gyfer diwydiannau (55 yn yr achos hwn) a chynhyrchion ar y raddfa ofodol berthnasol. Mae ffurf arolygon busnes a gaiff eu cynnal yn y DU, megis yr Arolwg Blynyddol o Fusnesau a’r Arolwg Prynu Blynyddol yn golygu ei bod yn anodd cyfuno newidynnau sy’n bwysig ar gyfer yr IOT yn gyfanswm dibynadwy ar gyfer Cymru. Mae hyn hefyd yn effeithio ar ddata gweinyddol sydd gan gwmnïau yn y DU am, er enghraifft, masnach.  Yn y bôn, rydym yn colli rhai manylion allweddol ar sut mae poblogaeth busnes Cymru wedi’i strwythuro.

Gwybodaeth am gynhyrchion – Yn gyffredinol, mae gwybodaeth am ddiwydiannau (ac am gyflogaeth) yn fwy datblygedig ar gyfer y DU na’r wybodaeth sydd ar gael am y cyflenwad a’r defnydd o gynhyrchion. Nid yw PRODCOM, y prif arolwg gwerthiant cynhyrchion ar gyfer y DU, yn adrodd ar lefel is na’r DU ar hyn o bryd, ac naill ai nid oes data ar gael am fasnach ranbarthol ac am ddarparu gwasanaethau ar lefel ranbarthol (o gymharu â rhannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol), neu nid yw’r data hynny’n ddigon manwl, neu maent yn cael eu dosrannu gan  ddefnyddio mesurau anuniongyrchol. Mae hynny’n golygu nad oes gennym lawer o wybodaeth ynglŷn â pha gynhyrchion sydd wir yn cael eu gwneud yng Nghymru nac ynglŷn â pha wasanaethau sydd wir yn cael eu darparu yng Nghymru, nac  ychwaith ynglŷn â pha fewnbynnau a ddefnyddir, o ble, ac ar gyfer pa ddefnyddwyr yn y pen draw. 

Dosrannu – Yn aml, yr hyn sydd i gyfrif am y problemau uchod yw’r ffaith na fwriedid i strwythurau data’r DU – gwaith samplu neu adroddiadau gweinyddol – ddarparu ar gyfer adroddiadau cryf ar raddfa ranbarthol. Pan fo angen y data hynny at ddefnydd is-genedlaethol, y ffordd synhwyrol a chosteffeithiol o fynd ati yw defnyddio ffyrdd mwy cadarn o fesur er enghraifft cyfran y cyflogeion er mwyn dosrannu cyfansymiau’r DU i’r rhanbarthau ‘o’r brig i lawr’. Drwy wneud hynny, ceir metrigau sy’n deillio o’r data hynny,  megis Gwerth Ychwanegol Gros, incwm aelwydydd a buddsoddiad ar y lefel ranbarthol. Mae camgymeriadau’n debygol o godi os yw’r gymhareb rhwng y ffordd anuniongyrchol hon o fesur a’r newidyn ‘coll’ sydd o ddiddordeb yn wahanol i’r hyn a geir ar gyfer y DU. Mae gan Gymru lefelau cymharol isel o amrywiaeth ddiwydiannol a galwedigaethol (a pherchnogaeth ar gyfalaf), o’i chymharu nid yn unig â’r DU, ond hefyd â’r rhan fwyaf o ranbarthau eraill y DU, felly mae hyn yn destun pryder gwirioneddol.

Gwerth y Prosiect Mewnbwn-Allbwn

Am y rhesymau uchod (ac eraill hefyd) mae Tablau Mewnbwn Allbwn Cymru yn cael eu categoreiddio’n Ystadegau sydd wrthi’n cael eu Datblygu: maent, i bob pwrpas, yn rhai archwiliadol ac arbrofol. Nid ydynt, o bell ffordd, yn dweud y ‘gwirionedd’ economaidd am Gymru, ac nid ydynt yn disodli data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi na data Llywodraeth Cymru, sy’n disgrifio rhannau penodol o’r economi. I bob pwrpas, mae’r angen i ‘gydbwyso’r’ cyflenwad a’r galw – ac i addasu ffynonellau data er mwyn gwneud hynny – yn golygu na ddylai defnyddwyr gymryd yn ganiataol bod unrhyw ganlyniad unigol yn gywir (nac yn gyson).  Serch hynny, y SUTs a’r IOTs sy’n rhoi’r darlun mwyaf ystyrlon a chyfannol (a diweddaraf) o system economaidd Cymru.

Gellir defnyddio’r Tablau i archwilio’r defnydd posibl o strwythurau cyfrifyddu economaidd i lywio gwell polisïau, yn uniongyrchol ac fel y’u defnyddir at ddibenion economaidd-gymdeithasol ac, o bosibl, ar gyfer gwaith modelu ynni ac amgylcheddol. Mae’r Tablau’n adnodd y gall trydydd partïon yng Nghymru ei ddefnyddio i wneud yr un peth, ond gan gofio bob amser y gwendidau am y data, y cyfyngiadau cynhenid sy’n rhan o ddadansoddiadau Mewnbwn-Allbwn, na pha mor briodol yw unrhyw ddefnydd a wneir ohonynt. Gallwch chwarae â nhw, ond gwnewch hynny mewn ffordd ddiogel. Yn bwysicach efallai, mae’r prosiect IOT wedi bod yn ffordd ddefnyddiol o gydnabod realiti’r sefyllfa ac o fynd ati i ddadansoddi’r bylchau: mae wedi dod â llawer o’r hyn a oedd eisoes yn hysbys am ddibynadwyedd a chwmpas data economaidd rhanbarthol at ei gilydd mewn un man, ac mae wedi dangos ym mha ffyrdd nad ydynt, o  bosibl, yn cyd-fynd mwyach â’r hyn sydd ei angen mewn oes pan rydym yn gweld mwy a mwy o ymreolaeth economaidd a gwahaniaethu ar lefelau is na’r DU. O’r herwydd, bydd y cam nesaf yn fwy na nid dim ond diweddaru’r IOTs mewn ffordd fecanistig er mwyn cynnwys data mwy diweddar.  Yn hytrach, bydd yr IOT yn cael ei ddiweddaru ochr yn ochr â gwaith gofalus i ystyried pa ddata sydd eu hangen er mwyn rheoli economi Cymru yn effeithiol (ac er mwyn hysbysu amcanion cenedlaethol ehangach). Bydd angen ystyried yr hyn y gallwn ei wneud yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sut y gallwn weithio gyda’n partneriaid a’n cydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Sifil i lenwi’r bylchau hynn

Gadael sylw