Postiad gan Rhiannon, Data a daearyddiaeth, Llywodraeth Cymru
Er ein bod wedi bod braidd yn dawel ynghylch data agored yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n dal i fod yn bwysig i ni. Yn ystod pandemig Covid roedd sicrhau bod data ar gael yn agored yn hollbwysig i roi’r wybodaeth yr oedd ei hangen ar bobl Cymru ar y materion sy’n cael eu hwynebu a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.
Taith hirach na’r disgwyl
Cyn y pandemig, buom yn cydweithio â chydweithwyr yn DataCymru i ddatblygu canllaw a fyddai’n cynorthwyo ac yn ysgogi sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyhoeddi eu data yn agored. Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio mynychu ein gweithdai data agored yn gynnar yn 2020, lle gwnaethom gasglu syniadau ar yr hyn fyddai’n fuddiol i ddarpar gyhoeddwyr data agored mewn canllaw. Fe wnaethom hefyd nodi set graidd o setiau data y dylai pob corff sector cyhoeddus anelu at eu cyhoeddi’n agored, fan lleiaf.
Er i’r pandemig atal ein cynnydd dros dro, fe wnaethom ailddechrau’r gwaith pwysig hwn y llynedd gyda DataCymru. Gan ddefnyddio Cymuned Ymarfer Gwella mynediad i data sector cyhoeddus Cymru, rhannwyd drafft o’r canllaw gyda’r gymuned ddata yng Nghymru i ofyn am safbwyntiau. Cynhaliodd DataCymru weminar hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r canllaw a darparu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer adborth.
Rydym bellach yn falch o allu cyhoeddi’r Canllaw Cyhoeddi Data Agored. Credwn y bydd y canllaw hwn yn adnodd gwerthfawr i’r rhai sy’n dymuno cyhoeddi data yn agored.
Ble gyrhaeddon ni yn y diwedd?
Mae’r canllaw wedi’i anelu’n bennaf at gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond gall yr egwyddorion fod yn berthnasol hefyd i sefydliadau’r trydydd sector, academaidd a phreifat.
Ar y cyfan, mae’r canllaw yn esbonio’r prif gamau i gyhoeddi data yn agored. Mae’n ymdrin â phwysigrwydd rhoi data mewn fformat agored a’u strwythuro’n glir fel bod data’n hawdd eu defnyddio. Mae’n tynnu sylw at werth darparu metadata da a’r angen i gymhwyso trwydded agored fel y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL). Gall bod yn aneglur ynghylch y defnydd a ganiateir o’r data ddod yn rhwystr gwirioneddol i ddefnyddwyr. Yn olaf, mae’n esbonio sut i sicrhau bod data ar gael, gan hyrwyddo llwyfannau cyhoeddi posibl fel MapDataCymru, StatsCymru ac DataAgoredCymru.
Mae’r canllaw yn argymell y setiau data canlynol y dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru eu cyhoeddi, ac y dylent anelu at eu cyhoeddi’n agored.
- Siartiau o’r sefydliad
- Cyflog uwch-reolwyr
- Data Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
- Data’r Gymraeg
- Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
- Gwariant sy’n fwy na (£500)
- Trafodion cardiau caffael y Llywodraeth
- Gwybodaeth gaffael am gontractau
Rydym yn deall y gallai hyn edrych fel mwy o waith ar yr wyneb mewn cyfnod pan fo pwysau mawr ar adnoddau. Fodd bynnag, nid yw’r canllaw yn ceisio creu gwaith ychwanegol ond cefnogi cyrff y sector cyhoeddus yn eu cyfrifoldeb i gyhoeddi eu data yn agored. Gobeithio y byddant hefyd yn elwa ar y manteision megis arbedion effeithlonrwydd, gwell ansawdd data a phroses well o wneud penderfyniadau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu adborth ar y canllaw, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy: data@llyw.cymru