Diweddariad y Prif Ystadegydd: gwella delweddu data masnach i Gymru

Read this page in English

Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi fersiwn newydd a gwell o ein Ddangosfwrdd rhyngweithiol: Masnach nwyddau rhyngwladol, sy’n cyflwyno ystadegau masnach ranbarthol (‘Regional Trade Statistics’ – RTS) gan Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’n cynnwys crynodeb masnach, mapiau, siartiau a thablau masnach gyda phartneriaid a chynhyrchion, a siartiau cyfres amser.

Beth yw’r ystadegau masnach ranbarthol?

Mae’r Ystadegau Masnach Ranbarthol a gynhyrchwyd gan CThEF yn cwmpasu nwyddau a allforiwyd ac a fewnforiwyd ar gyfer 12 gwledydd a rhanbarthau y DU gyda phartneriaid masnach ryngwladol. Mae data ar gael drwy wasanaeth API CThEF.

Pam rydyn ni wedi diweddaru’r dangosfwrdd hwn?

Mae ein defnyddwyr a’n llunwyr polisi yn croesawu cyhoeddi’r dangosfwrdd wedi’i ddiweddaru, wrth inni ddarparu  dadansoddiad RTS nad oedd yn rhan o’n dangosfwrdd blaenorol. Nid oedd yr hen ddangosfwrdd yn cynnwys data cyfaint (kg) ac roedd yn gyfyngedig o ran y cyfnodau amser y gellid eu dewis i hidlo’r data. Felly, aeth y Tîm Dadansoddi Masnach, gyda chymorth  myfyriwr MSc o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, ati i ailddatblygu’r dangosfwrdd i wella hyn.

Beth yw’r gwelliannau a wnaed i’r fersiwn ddiweddaraf?

Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru yn cynnwys y gwelliannau canlynol:

  • Data cyfaint – rydym wedi ychwanegu data cyfaint masnach am y tro cyntaf
  • Hidlo dyddiadau yn well – gall defnyddwyr nawr ddewis unrhyw chwarter. Yna gall defnyddwyr gael darlun o fasnach yn ôl blwyddyn galendr, blwyddyn ariannol neu unrhyw gyfnod arall o 12 mis.
  • Tablau cyfartalog – rydym wedi ychwanegu’r gallu i greu tablau wedi’u teilwra sy’n rhoi cyfartaledd y data ar gyfer y flwyddyn galendr/blynyddoedd calendr a ddewiswyd

Beth ddylid ei ystyried wrth ddefnyddio’r dangosfwrdd hwn?

Nid yw’r Ystadegau Masnach Ranbarthol yn cynrychioli’r holl fasnach. Er enghraifft, mae’r data’n cynnwys nwyddau ond nid gwasanaethau. Hefyd, mae’r data ond yn cofnodi masnach ryngwladol ac nid masnach rhwng gwledydd y DU. Mae’r data ar gael ar lefel 2 ddigid Dosbarthiad Masnach Ryngwladol Safonol (SITC) yn unig ac nid oes dadansoddiadau daearyddol pellach ar gael.

Mae Methodoleg ystadegau masnach ranbarthol (CThEF) a Gwybodaeth Masnach y DU (CThEF) yn darparu mwy o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddir gan CThEF i gynhyrchu’r ystadegau hyn.

Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dangosfwrdd hwn yn y dyfodol?

Byddwn yn diweddaru data’r dangosfwrdd bob chwarter, yn dilyn patrwm cyhoeddi’r data gan CThEF.

Gan ein bod wedi dylunio’r dangosfwrdd hwn er mwyn ymateb i geisiadau gan ddefnyddwyr, rydym yn croesawu adborth pellach i sicrhau bod y dangosfwrdd hwn yn diwallu eich anghenion. A oes unrhyw beth yr hoffech ei weld yn cael ei gynnwys yn y dyfodol? Pa adrannau ydych chi yn bwriadu (neu wedi’u) defnyddio a sut? A oes unrhyw beth ar goll? A allai fod yn fwy eglur? A oes unrhyw ddadansoddiad pellach y gallem roi cynnig arno?

Cysylltwch â ni: ystadegau.masnach@llyw.cymru.