Postiad gan Indeg, Tîm Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Wrth gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, ein nod oedd creu datblygiadau technolegol fyddai’n galluogi ni i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd yr adroddiad terfynol ar y Cynllun hwn, gan edrych yn ôl ar ein cynnydd, gan gynnwys ym maes deallusrwydd artiffisial (AI).
Ers hynny, rydyn ni wedi lansio galwad am wybodaeth yn gofyn am farn a syniadau ar y camau nesaf ar gyfer technoleg iaith Gymraeg. Daeth yr alwad hon am wybodaeth i ben ar 01 Hydref, ac rydyn ni wrthi’n ystyried yr ymatebion. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddanfonodd eu syniadau i mewn!
Drwy adeiladu’r seilwaith ar gyfer technoleg iaith Gymraeg fel hyn, rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg, sy’n ein helpu i gyrraedd ein nod ar gyfer Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Rydyn ni hefyd yn cefnogi Strategaeth Ddigidol Cymru drwy ddatblygu offer a thechnolegau digidol sy’n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus gwell yn Gymraeg.

Y datblygiadau diweddaraf
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI ym mis Mehefin 2024 i wella sut mae technolegau AI yn gweithio yn Gymraeg. Hyd yn hyn, mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio ar rannu ffynonellau data agored er mwyn deall yn well sut mae AI yn prosesu’r Gymraeg.
Yn fwyaf diweddar, mae hwn wedi bod yn brosiect ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle defnyddiodd OpenAI dechnolegau AI i drawsgrifio llawysgrifen Cymraeg. Rydyn ni dal yn dadansoddi canfyddiadau’r prosiect hwn ond mae’r canlyniadau cychwynnol ar gael yma.
Mae Microsoft wedi cyhoeddi eu bod nawr yn cefnogi’r Gymraeg a’r Gatalaneg yn Copilot. Mae hwn yn meddwl gallwch chi nawr ddefnyddio promptiau a chwestiynau Cymraeg a bod Copilot yn dysgu sut i ymateb yn Gymraeg. Fel rhan o’n partneriaeth gyda Microsoft, rydyn ni’n barod wedi cydweithio i greu cyfleuster cyfieithu ar y pryd yn Teams, er enghraifft.Mae’r gwaith gyda Microsoft yn parhau i ddatblygu hwn ymhellach, a byddwn ni nawr hefyd yn gweithio gyda nhw i wella sut mae Copilot yn prosesu’r iaith Gymraeg.
Technoleg ar gyfer anghenion penodol
Rhan bwysig o’n camau nesaf ni mewn technoleg iaith Gymraeg fydd technoleg i helpu pobl sydd ag anghenion penodol. Gallai hyn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl sydd ag anghenion yn sgil triniaeth feddygol, amhariad gwybyddol neu gorfforol.
Er enghraifft, gall siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd rhesymau meddygol fel clefyd Motor Niwron neu ganser y gwddf barhau i gyfathrebu yn Gymraeg, diolch i wasanaeth Lleisiwr. Mae’r gwasanaeth wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg ac wedi’i ddatblygu gan Brifysgol Bangor.
Enghraifft arall yw partneriaeth Llywodraeth Cymru â Tobii Dynavox, cwmni blaenllaw technoleg AAC (cyfathrebu amgen a chynyddol), sydd wedi arwain at TD Snap Express Cymraeg. Mae TD Snap Express wedi’i chynllunio i fod yn syml ac yn hawdd ei defnyddio, gan ganolbwyntio ar fwriad cyfathrebu yn hytrach nac ar ramadeg, i gefnogi plant ac oedolion i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ac iaith.
Mae’r gwaith yma nid yn unig fel bod modd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg ond hefyd er mwyn iddyn nhw allu ei defnyddio yn hawdd, heb achosi heriau ychwanegol iddyn nhw.

Hoffech chi wybod mwy am beth rydyn ni wedi gwneud? Dyma’r adroddiad llawn ar ein Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg.
Os hoffech chi ddysgu mwy fyth am dechnoleg Cymraeg, mae ein gwefan Helo Blod wastad yma i helpu.
Eisiau gwybod y newyddion diweddaraf am Cymraeg 2050? Gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr.