Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru – Blwyddyn yn ddiweddarach

Read this page in English

Mae’n flwyddyn ers i ni gyhoeddi Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru sy’n nodi ein gweledigaeth bod Cymru’n ffynnu trwy seibergadernid, talent ac arloesedd.

Mae gan y Cynllun bedwar maes blaenoriaeth i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth:

  • datblygu ein hecosystem seiber
  • creu llif o dalent seiber
  • cryfhau ein seibergadernid; a 
  • diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus

Gallwch ddarganfod mwy pam ein bod yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn ar ein blogiau blaenorol.

Ble’r ydym flwyddyn yn ddiweddarach?

Mae llawer wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Rydym newydd sefydlu CymruSOC, canolfan gweithrediadau diogelwch cenedlaethol cyntaf y DU yng Nghymru. Bydd yn diogelu awdurdodau lleol Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a bydd yn diogeli data’r rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, gan sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol barhau heb eu tarfu oherwydd seiber-ymosodiadau.

Mae’r Hyb, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, yn dod â phartneriaid diwydiant, llywodraeth, amddiffyn ac academaidd at ei gilydd i dyfu’r sector seiberddiogelwch yng Nghymru, gyda buddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae yn anelu at hyfforddi mwy na 1,500 o unigolion â sgiliau seiber, creu mwy na 25 o gwmnïau twf uchel, a denu mwy na £20 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti preifat erbyn 2030.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd wedi cadeirio trafodaethau bwrdd crwn gyda diwydiant, y byd academaidd, cynrychiolwyr sgiliau a’r llywodraeth i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu Seiber Cymru.

Mae’r byrddau crwn hyn wedi rhoi cyfle i ganolbwyntio ar gryfderau’r sector seiber sy’n cynnwys:

  • Technoleg weithredol (OT);
  • Gwybodaeth, Monitro, Canfod a Dadansoddi Bygythiadau;
  • Gwyddor Ymddygiad / Ffactorau Dynol; ac
  • Ymchwil academaidd a galluoedd addysgol.

Mae sefydliadau yng Nghymru sydd â’r gwahanol arbenigeddau hyn, yn cydweithio’n agos i greu system gydgysylltiedig a all gygysylltu’n gyflym. Mae cydweithrediad agos ein hecosystem seiber yn rymus ac yn gosod Cymru ar wahân i wledydd eraill y DU.

Drwy ein gwaith gyda diwydiant, rydym wedi mireinio ein neges yn y DU ac yn rhyngwladol am yr hyn a wnawn yn dda yng Nghymru, a fydd yn cefnogi twf ein hecosystem seiber.


Cefnogi talent seiber 

Mae’r byrddau crwn hefyd wedi canolbwyntio ar sut iddenu, datblygu a chadw’r sgiliau seiber sydd eu hangen arnom yng Nghymru. Mae ymgysylltu â diwydiant a’r byd academaidd wedi ein helpu i greu darlun o’r llwybrau i yrfa yn y maes seiber, o oedran ysgol i ailhyfforddi’r gweithlu.  

Mae adeiladu’r ddealltwriaeth hon wedi arwain at gydweithio pellach dan arweiniad y diwydiant i sbarduno dull cydgysylltiedig o ddatblygu sgiliau seiber. Bydd hyn yn manteisio i’r eithaf ar y ffordd y mae diwydiant yn cefnogi’r byd academaidd ac addysg fel bod y bobl yr ydym yn eu hyfforddi yn gwybod bod ganddynt ddyfodol yma yng Nghymru.

Er mwyn cael y sgiliau cywir i ddatblygu ein ecosystem seiber, mae angen i ni gefnogi sector mwy amrywiol a chynhwysol ac mae gennym sylfaen dda i adeiladu arni gyda  chlwstwr ‘Menywod mewn Seiber Cymru’ a CyberFirst i Ferched. Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd Menywod mewn Seiber Cymru Gynhadledd  Genedlaethol Menywod mewn Seiber yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.


Beth nesaf?

Gyda’n gilydd, gyda chefnogaeth diwydiant, byddwn yn parhau i gyflawni’r Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru ac yn cydweithio â’n rhanddeiliaid i gyflawni ein gweledigaeth ar y cyd bod Cymru’n ffynnu trwy seibergadernid, talent ac arloesedd.

Os ydych yn gweithio mewn sefydliad sector cyhoeddus ac â diddordeb siarad â ni am sut y gallai eich gwaith gyfrannu at Gynllun Gweithredu Seiber Cymru, rhowch eich sylwadau isod i gysylltu â ni.

Gadael sylw