Blog gwadd: Archwilio Potensial Gefeilliaid Digidol yn Llywodraeth Cymru

Neges gan Christopher, ymgynghorydd yr Arolwg Ordnans sy’n gweithio yn Llywodraeth Cymru

Read this page in English

Gallai gefeilliaid digidol sicrhau budd gwerth £7bn i economi’r DU erbyn 2050, yn ôl adroddiad diweddar Centre for Digital Built Britain (CDBB). Canfu’r adroddiad hefyd y gallai gefeilliaid digidol leihau costau hyd at 25%, gwella cynhyrchiant hyd at 15%, a lleihau allyriadau hyd at 20%.

Gyda hyn mewn golwg, mae’r Arolwg Ordnans yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf i archwilio a allai gefeilliaid digidol gefnogi’r Strategaeth Ddigidol i Gymru mewn meysydd polisi sylfaenol a nodi lle y gallent ychwanegu’r gwerth mwyaf.

Beth yw gefeilliaid digidol?

Mae gefeilliaid digidol yn atgynhyrchiadau rhithwir o wrthrychau, systemau neu brosesau ffisegol. Mae gefeilliaid digidol yn adlewyrchu’r endidau hynny yn y byd go iawn, gan efelychu eu hymddygiad, eu rhyngweithio a’u perfformiad. Maent yn ffynnu ar ddata ac yn diweddaru’n gyson i adlewyrchu newidiadau yn eu cymheiriaid ffisegol.

Gall gefeilliaid digidol amrywio o ran eu cymhlethdod. Gallant amrywio o fap digidol syml i system gymhleth iawn sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol ac yn ymgorffori dolenni adborth.

Model digidol yw’r lefel gyntaf, sef cynrychiolaeth ddigidol syml o’r gwrthrych neu’r system ffisegol.

Cysgod digidol yw’r ail lefel, sef cynrychiolaeth fwy datblygedig sy’n cynnwys data o synwyryddion a ffynonellau eraill i ddarparu adlewyrchiad mwy cywir a manwl o’r gwrthrych neu’r system ffisegol.

Gefell digidol yw’r lefel uchaf, sef y gynrychiolaeth fwyaf datblygedig a chynhwysfawr o’r gwrthrych neu’r system ffisegol. Mae gefeilliaid digidol yn ymgorffori data o wahanol ffynonellau, gan gynnwys dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT), algorithmau dysgu peirianyddol, a deallusrwydd artiffisial, i ddarparu adlewyrchiad cywir iawn, amser real o’r gwrthrych neu’r system ffisegol. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer gwaith monitro, dadansoddi ac optimeiddio’r gwrthrych neu’r system ffisegol yn well, gan wella perfformiad, effeithlonrwydd a dibynadwyedd.

Sut y gellir eu defnyddio?

Dros y degawdau diwethaf, mae gefeilliaid digidol wedi cael eu defnyddio ar draws y sector preifat, er enghraifft, yn y sectorau modurol a hedfan. Fe’u defnyddiwyd i wella gwaith dylunio cynnyrch, lleihau costau prototeipio, a chyflymu amserlenni cynhyrchu. Gall cwmnïau fonitro peiriannau a seilwaith gan ddefnyddio gefeilliaid digidol sy’n helpu i rag-weld anghenion cynnal a chadw ac atal methiannau costus.

Yn ddiweddar, mae gefeilliaid digidol wedi ymgorffori agwedd geo-ofodol, er enghraifft, gan ddangos lle mae pethau. Gall gefell digidol rhwydwaith ffyrdd mawr adlewyrchu llif traffig, cyflwr y ffyrdd ac anghenion cynnal a chadw. Mae hyn yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i reoli traffig a sicrhau bod y traffig yn parhau i lifo, cynllunio atgyweiriadau a gwella diogelwch.

Gall gefeilliaid digidol hefyd fodelu dinasoedd cyfan, gan efelychu twf poblogaeth, y defnydd o ynni ac effaith amgylcheddol. Gallant hyd yn oed efelychu effeithiau newidiadau polisi ar ganlyniadau o ran gofal iechyd.

Mae’r potensial ar gyfer defnyddio gefeilliaid digidol yn ddi-ben-draw. Dychmygwch y posibiliadau!

Rydym yn gyffrous i ddarganfod sut y gallai gefeilliaid digidol helpu Llywodraeth Cymru i archwilio cyfleoedd i wella polisi, gwasanaethau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.

Y pedwar mis nesaf – a thu hwnt

Cadwch lygad a byddwn yn postio dolen yn fuan gyda mwy o wybodaeth am efeilliaid digidol.

Gadael sylw