Diwrnod Annibyniaeth Wcráin

Image du drapeau de l’Ukraine

Read this page in English

24 Awst yw Diwrnod Cenedlaethol Wcráin, neu Diwrnod Annibyniaeth fel y mae’n cael ei alw hefyd.

Ers i Rwsia ymosod ar Wcráin, mae Cymru wedi dod yn Genedl Noddfa i filoedd o bobl sydd wedi dianc rhag y gwrthdaro. Yn y blog hwn, rydym yn disgrifio rhywfaint o’r gwaith gan ddefnyddio adnoddau digidol yng Nghymru i helpu pobl Wcráin yn ddiogel ac wedi eu cefnogi.

Addasu mewn adegau o argyfwng

Rydym i gyd yn cofio sut arweiniodd y pandemig at gynnydd sydyn yn y defnydd o wasanaethau ar-lein. Defnyddiodd llawer o bobl ffyrdd digidol i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, i gael gafael ar ofal iechyd, i astudio ac i gyflawni llawer o’u busnes o ddydd i ddydd.

Ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus sy’n rhedeg gwasanaethau hanfodol, roedd y newid i fywyd digidol yn gatalydd ar gyfer cydweithio i ddarparu gwasanaethau newydd a hanfodol yn gyflym ar-lein. Roedd datblygu System Profi Olrhain Diogelu y GIG yng Nghymru, er enghraifft, yn cynnwys llawer iawn o gydweithio ar draws y llywodraeth, busnesau, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Gwnaeth gydweithio ar raglenni digidol allweddol fel hyn helpu i feithrin partneriaethau cryf a datblygu dull digidol cefnogol ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy osod sylfeini’r dull digidol hwn yn ystod y pandemig, cawsom brofiad gwerthfawr a wnaeth ein helpu i ymateb yn effeithiol ac yn gyflym i groesawu pobl Wcráin i Gymru.

Dylunio gwasanaethau digidol newydd

Yng Nghymru, gwnaethom gynnal 3 gwasanaeth digidol pwysig fel rhan o ein rhaglen Cenedl Noddfa.

Fe wnaethom ddatblygu ffordd i fusnesau gynnig cymorth ar-lein. Yna cafodd y cynigion hyn eu lledaenu’n gyflym i awdurdodau lleol i’w derbyn ac i gael nwyddau a gwasanaethau i bobl oedd wir eu hangen arnynt. Roedd hyn yn arbennig o werthfawr mewn perthynas â chynigion llety a ddefnyddiwyd i ddarparu llety i’r rhai a noddir gan Lywodraeth Cymru. Gwnaethom lunio gwasanaeth Mynegi Diddordeb ar-lein i bobl gynnig cartrefi neu lety, a oedd wedi ein galluogi i gyflymu’r broses o ddod o hyd i opsiynau llety, sicrhau eu bod yn ddiogel ac ymgartrefu pobl. Ac yn olaf, gwnaethom weithredu ffordd o rannu data rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd, canolfannau cyswllt a chanolfannau croeso er mwyn helpu pobl Wcráin i symud o gwmpas Cymru a chael gafael ar y gwasanaethau roedd eu hangen arnynt.

Roeddem yn gallu gwneud hyn gan ein bod eisoes wedi sefydlu partneriaethau cryf ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ystod y pandemig ac roedd staff y sector cyhoeddus wedi datblygu sgiliau gwell ym maes trawsnewid digidol hefyd. Gwnaeth hyn ein galluogi i fabwysiadu dull “Unwaith i Gymru”.

Felly, er bod y gwaith yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru, dim ond drwy weithio gyda’n partneriaid digidol y gallai ein hymateb digidol fod wedi digwydd, yn ogystal â chefnogaeth bwysig gan y Ganolfan Gyswllt Cenedl Noddfa Cymru Wcráin, Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r Phrif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol.

Roeddem hefyd yn gwybod na fyddem yn gwneud popeth yn berffaith ar y cynnig cyntaf. Felly, gwnaethom fabwysiadu ffyrdd hyblyg o weithio, gan sicrhau ein bod yn darparu cynhyrchion yn gyflym ac yn parhau i’w gwella wrth i’r gwasanaethau addasu neu wrth inni gael adborth gan ddefnyddwyr.

Cefnogi gwasanaethau drwy rannu data

Cafodd ein gwasanaeth rhannu data newydd sbon ei ddylunio a’i ddatblygu’n gyflym iawn. Cafodd ei ddatblygu mewn ffordd iteraidd a chydweithredol ac ystyriwyd anghenion defnyddwyr o’r dechrau. Ond, yr un mor bwysig, gwnaethom adeiladu ar y partneriaethau a ffurfiwyd yn ystod y pandemig i ddatblygu fframwaith rhannu data y cytunwyd arno ar draws y sector cyhoeddus. Er ein bod yn gweithio o dan egwyddorion ‘privacy by design’, gwnaethom sicrhau bod modd i’r bobl yr oedd angen mynediad at ddata arnynt i ddarparu cymorth i bobl Wcráin wneud hynny.

Mae’r gwasanaeth yn gwarantu y gall pobl sy’n gweithio gyda phobl Wcráin ar draws y sector cyhoeddus eu helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth cofleidiol allweddol, i gael yr wybodaeth gywir i wneud cais am fisâu ac i ddod o hyd i lety diogel mewn modd amserol.

Cefnogi gwasanaethau drwy wella cysylltedd

Mae gwasanaethau newydd dim ond yn ddefnyddiol os gallwch gael atynt! Felly, tra roeddem yn adeiladu’r gwasanaethau newydd hyn, bu Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr telathrebu i wella cysylltiadau band eang mewn lleoliadau allweddol fel Canolfannau Croeso. Roedd angen gwneud gwelliannau i seilwaith WiFi a gosod mast dros dro i ddarparu capasiti a signal ychwanegol er mwyn helpu i sicrhau bod signal ffôn symudol da.  

Roedd ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru hefyd yn darparu cyfrifiaduron llechen er mwyn helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau digidol a chadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd. Gwnaethom hefyd ail-bwrpasu’r offer TG presennol, a brynwyd yn ystod y pandemig, er mwyn galluogi pobl Wcráin i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid, i weithio neu astudio.

Yr hyn rydym wedi ei ddysgu ar hyd y ffordd

Ychydig flynyddoedd yn ôl, ni fyddem erioed fod wedi gallu rhagweld rhai o’r digwyddiadau byd-eang sydd wedi digwydd a’u heffaith ar Gymru. Ni fyddem fyth fod wedi gallu dychmygu’r cynnydd rydym wedi’i wneud o ran defnyddio adnoddau digidol a data i ymateb i’r argyfyngau hyn. Mae’r sylfeini rydym wedi’u gosod drwy Strategaeth Ddigidol Cymru, a’r hyn rydym wedi’i ddysgu o’r hyn sydd wedi digwydd wedi ein helpu i wynebu’r sefyllfa hon.

Gan ddefnyddio heddiw fel diwrnod o fyfyrio, rwy’n falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yng Nghymru er mwyn helpu i sicrhau bod pobl Wcráin yn cael eu croesawu a’u bod yn ddiogel.  

Digidol, Data a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru

Gadael sylw