Blog gan Peter, Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru
Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers fy mlog diwethaf a oedd yn ymdrin â sut mae LoRaWAN yn helpu i drechu trosedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Ers hynny, rydym wedi gweld y rhaglen Trefi Smart yn ffynnu, gyda’r tîm yn gwneud llawer iawn o waith ymgysylltu, ac yn cynnal cynhadledd Smart oedd yn canolbwyntio ar drefi, y gyntaf o’i bath mae’n debyg, a hynny yn Wrecsam (sy’n eironig yn ddinas!).
Darllen mwy: Mae LoRaWAN yn galluogi gweithio’n ddoethach yn lleol ar draws CymruRoedd y gynhadledd yn cynnwys anerchiad agoriadol gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru a Lisa Perkins, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Byd-eang BT, Adastral Park.
Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar astudiaeth achos Trefi Smart o Wrecsam isod:
ASTUDIAETH ACHOS Technoleg SMART Wrecsam / Astudiaeth Achos: Technoleg SMART yn Wrecsam (youtube.com)
Mae ysbryd didwylledd ar waith yng Nghymru.
Roedd pwysigrwydd rhannu data a data agored yn neges arbennig o gryf a ddaeth o’r gynhadledd, yn ogystal â chytundebau mynediad agored, sy’n ffordd symlach o gael cysylltedd symudol gwell a chyflymach mewn rhannau prysur o drefi. Mae hyn yn rhywbeth y mae David Evans, Swyddog Datblygu Trefi Smart yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi arwain arno, ac yn ddiweddar dathlwyd yr hyn a ystyrir yn “Gytundeb Mynediad Agored” cyntaf Cymru gyda gweithredwr rhwydwaith symudol.
Rhannodd y gynhadledd amrywiaeth o astudiaethau achos o bob rhan o Gymru, gan gynnwys un yn canolbwyntio ar reoli seilwaith gwyrdd yn well gan ddefnyddio synwyryddion a data yn Y Fenni, siop goffi sy’n defnyddio synwyryddion clyfar yn Wrecsam, ynghyd â chyflwyniadau gan “Global Urban Futurist” Peter Griffiths o Bable Smart Cities, a Paul Sandham o Patrwm.
Ond pwy arall yng Nghymru sy’n rhoi negeseuon yr arweinwyr digidol ar waith?
Buddsoddi er mwyn arbed
Mae llygaid pawb ar Gonwy am y tro gan eu bod wedi bod yn gweithio ar sawl prosiect sy’n seiliedig ar Ryngrwyd Pethau (IoT) LoRaWAN, megis monitro coed i gynorthwyo twf yn ystod y blynyddoedd bregus cychwynnol hynny, cwlfertiau, C02 a llawer o “bethau” eraill.
Pam monitro coed? Mae monitro coed ag IoT yn cynnig nifer o fanteision:
- Canfod clefydau a phlâu yn gynnar.
- Optimeiddio dulliau dyfrhau a rheoli dŵr
- Monitro’r amgylchedd
- Rhagweld gwaith cynnal a chadw .
- Dealltwriaeth sy’n seiliedig ar ddata.
Huw McKee, Pennaeth TG a Thrawsnewid Digidol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
“Ers nifer o flynyddoedd bellach mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod ar daith Tref Smart / IoT gan ddefnyddio Synwyryddion Clyfar.
Golygodd grant ariannol gan Lywodraeth Cymru bod ein dealltwriaeth o synwyryddion gwahanol wedi cyflymu wrth wella darpariaeth IoT ar draws yr Awdurdod.
Mae’r sylw wedi bod yn allweddol i ddiwallu anghenion gwahanol adrannau drwy ddarparu prosiectau mor amrywiol â monitro lleithder pridd, monitro lefelau dŵr afonydd, amodau amgylcheddol mewn ysgolion, swyddfeydd ac ardaloedd byw a’r defnydd a wneir o doiledau cyhoeddus.
Mae casglu data empirig diduedd yn hanfodol wrth ganiatáu i Awdurdodau Lleol wneud penderfyniadau allweddol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar wasanaethau a phrofiadau cyhoeddus. Mae’r data’n ein galluogi i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar realiti yn hytrach na gwybodaeth ddeongliadol/ anecdotaidd. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i Swyddogion a Chynghorau wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd.
Mae defnyddio Technoleg IoT yn allweddol i’n dyfodol sy’n rhoi platfform pellach i wasanaethau cyhoeddus archwilio eu heffeithlonrwydd eu hunain a darparu gwasanaethau mwy effeithiol sydd mor bwysig i’r sefydliad a’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.”
Arloesi wrth arbed carbon:
Mae llawer o academyddion yn darganfod y gall LoRaWAN eu helpu i leihau eu hôl troed carbon a bod yn llawer mwy craff wrth gasglu data.
Roedd un sefydliad, er enghraifft, yn teithio yn ôl ac ymlaen i ogledd Sir Benfro i gasglu data lefel nitradau ar fferm arddangos Cyswllt Ffermio lle gellid defnyddio LoRaWAN.
Trwy fabwysiadu technoleg LoRaWAN, fe wnaethon nhw lwyddo i dorri i lawr ar y teithiau a wnaed i’r fferm a lleihau’r risg y byddai data’n mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi.
Cyfuno setiau data ar gyfer canlyniadau gwell:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cwblhau prawf cyfunol o gysyniad data ac maent yn barod i weithredu datrysiad newydd gan ddefnyddio gorsafoedd monitro presennol Cyfoeth Naturiol Cymru a synwyryddion LoRaWAN y cyngor ei hun a ddefnyddir mewn ardaloedd nad oedd yn bosibl gyda thechnolegau hŷn. Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos bod modd rhagweld risg llifogydd yn well, ac mae Scott Andrews o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn tynnu sylw at hyn ar un o’i negeseuon ar LinkedIn yma.
Wrth gwrs, rydym yn gwybod nad am y dechnoleg y mae hyn (er ei fod yn cyffroi llawer ohonom), ond am y diwylliant, y data, a’r canlyniadau.
Trawsnewid Digidol
Mae cael pawb yn gytûn ar y daith drawsnewidiol hon yn heriol, ond mae data’n grymuso pobl ac yn dod yn offeryn i’w cynorthwyo.
Rydym bellach yn gallu cael data iddynt o leoedd lle nad oeddem erioed wedi meddwl y byddai’n bosibl 10 mlynedd yn ôl, diolch i LoRaWAN a thechnolegau IoT eraill.
Dychmygwch yr hyn y gallai IoT o’r Gofod ei wneud…
Tan y tro nesaf:-)