Diweddariad y prif ystadegydd: diweddaru enwau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) Cymru

Read this page in English

Beth yw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs)?

Ardaloedd daearyddol â maint poblogaeth tebyg yw LSOAs a ddefnyddir i lunio adroddiadau am ystadegau ardaloedd bach. Mae 1,917 o LSOAs yng Nghymru. Mae pob LSOA yn cynnwys rhwng 400 a 1,200 o aelwydydd a phoblogaeth breswyl rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.

Cafodd LSOAs eu creu gyntaf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn dilyn Cyfrifiad 2001. Mae’r ardaloedd daearyddol hyn yn agored i newidiadau ym mhob cyfrifiad yn sgil newidiadau ym maint poblogaethau lleol. Ar ôl cyfrifiad, gellir uno neu rannu LSOAs sydd eisoes yn bodoli i greu rhai newydd er mwyn sicrhau bod trothwyon o ran poblogaeth ac aelwydydd yn cael eu bodloni.

Yn dilyn Cyfrifiad 2011, roedd gan Gymru 1,909 o LSOAs, gan gynyddu i 1,917 ar ôl Cyfrifiad 2021. Ni newidiodd y mwyafrif (1,837) o’r LSOAs, tra cyfunwyd 45 a rhannwyd 58.

Pam defnyddio ‘enwau lleol’ ar gyfer LSOAs yng Nghymru?

Mae enwau’r LSOAs sy’n cael eu darparu gan SYG wedi’u seilio ar eu hawdurdod lleol – er enghraifft Sir Ddinbych 004E. Fodd bynnag, roedd yr enwau hyn, nad oedd yn rhai greddfol, yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr gysylltu’r LSOA ag ardal y gellir ei hadnabod o fewn yr awdurdod lleol. Yn 2005, cynhyrchwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) gan ddefnyddio LSOAs am y tro cyntaf. Arweiniodd hyn at greu ‘enwau lleol’ ar gyfer yr LSOAs yng Nghymru gan mai enwau’r wardiau etholiadol a ddefnyddiwyd yn flaenorol. Roedd yr enwau lleol yn seiliedig yn bennaf ar y ward etholiadol yr oedd yr LSOA yn rhan ohoni. Yn yr enghraifft uchod, enwyd Sir Ddinbych 004E yn Rhyl – Gorllewin 2 gan ei bod yn rhan o ward etholiadol ‘Gorllewin y Rhyl’. Roedd yr enwau hyn yn darparu disgrifiad cliriach o’r ardal ddaearyddol i benderfynwyr lleol, y cyfryngau a’r cyhoedd a oedd am ddefnyddio ystadegau ardaloedd bach.

Pam mae angen inni ddiweddaru enwau presennol LSOAs yng Nghymru?

Yn dilyn adolygiad diweddar o’r wardiau etholiadol yng Nghymru yn 2022, cytunodd Comisiynydd y Gymraeg, Comisiwn Ffiniau Cymru a Llywodraeth Cymru ar set o enwau wardiau etholiadol newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn wedi arwain at anghysondeb rhwng ‘enwau lleol’ llawer o LSOAs Cymru a’r enwau wardiau etholiadol newydd. Yn ogystal, cafodd 22 o LSOAs newydd eu creu (drwy uno LSOAs a oedd yn bodoli eisoes yn sgil cyfrifiad 2011) gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol cyfrifiad 2021, a chrëwyd 58 ohonynt yn sgil rhannu LSOAs 2011. Mae’n ofynnol i bob un o’r rhain gael enw newydd.

Sut y byddwn yn diweddaru enwau lleol LSOAs yng Nghymru?

Pe byddem yn dilyn y dull blaenorol, byddem yn defnyddio enwau wardiau etholiadol pan fo hynny’n bosibl. Er enghraifft, os yw’r LSOA yn gyfan gwbl o fewn ward, byddai’n dderbyniol defnyddio enw’r ward ar gyfer yr LSOA, fodd bynnag, ceir llawer ohonynt nad ydynt yn ffitio’n daclus o fewn un ward etholiadol.

Rydym wedi ystyried tri opsiwn ar gyfer diweddaru enwau LSOAs yng Nghymru:

  1. Rhoi’r gorau i’r defnydd o’r enwau lleol a defnyddio’r enwau a ddarperir gan SYG.
  2. Diweddaru enwau unrhyw LSOAs sydd wedi’u newid yn unig.
  3. Adolygu enwau pob LSOA.

Er mai opsiynau 1 a 2 fyddai’r dewis symlaf a chyflymaf, mae rhesymau cryf dros adolygu pob LSOA yn llawn a mabwysiadu enwau newydd o bosibl ar gyfer pob un:

  • Mae’r enwau lleol wedi bod ar waith ers bron i 20 mlynedd ac maent yn cael eu defnyddio’n eang, felly byddai dewis peidio â rhoi enwau lleol yn y dyfodol yn gam yn ôl.
  • Nid yw llawer o’r enwau presennol erbyn hyn yn cyfateb i enw’r ward etholiadol.
  • Dim ond LSOAs newydd neu ddiwygiedig y gwnaeth y newidiadau yn 2011 eu diweddaru. Nid adolygwyd y rhai eraill.
  • Byddem yn gallu annog dull enwi cyson i’w ddefnyddio ar draws pob awdurdod lleol.

Sut ydym yn adolygu enwau LSOA yng Nghymru a beth fyddwn yn ei wneud nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu set gychwynnol o enwau arfaethedig ag awdurdodau lleol. Y cam nesaf yw ystyried yr adborth sydd wedi dod i law hyd yma ac, yn benodol, cytuno ar ddull pan fo LSOA yn croesi mwy nag un ward. Bydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gytuno ar y newidiadau i enwau’r LSOAs a byddant yn gofyn cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar enwau dwyieithog.

E-bost: data@llyw.cymru

Gadael sylw