Postiad gan Evie, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru
Mae llawer o goetiroedd yng Nghymru wedi’u clirio, yn enwedig ers y 19eg ganrif. Rydym yn diffinio ‘coetir coll hanesyddol’ fel coetir sydd i’w weld ar hen fapiau ond sydd bellach wedi diflannu. Gallai fod yn addas ailblannu’r hen safleoedd hyn gan y byddai’r pridd gwreiddiol wedi bod yn addas iawn ar gyfer tyfu coed gyda rhwydwaith o wreiddiau ac ecosystem eisoes ynddo. Bydd cynlluniau creu neu adfywio coetiroedd ar y safleoedd hyn fod yn fwy tebygol o lwyddo a chefnogi targedau’r llywodraeth, fel Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r blog hwn yn disgrifio sut mae’r uned gwyddor data yn defnyddio ‘golygon cyfrifiadurol’ (math o AI sy’n gweithio gyda delweddau) i wneud hyn.
Sut mae gwybod ble oedd y coetiroedd hyn?
Mae cliwiau ynghylch ble oedd y coetiroedd hyn i’w gweld ar hen fapiau sy’n rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar sut mae ein tirwedd wedi newid. Ond mae’r mapiau hyn yn anodd eu defnyddio ac yn gofyn am ymdrech i’w dadansoddi, yn enwedig os ydych chi’n edrych ar y wlad gyfan.
Ffigur 1: Rhannau o’r map sy’n goetir

Mae’r Uned Gwyddor Data wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn CADW (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru), ein tîm daearyddiaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru i ystyried sut y gellid defnyddio modelau cyfrifiadurol i adnabod coetiroedd ar hen fapiau. Gall cymharu’r hen fapiau hyn â data diweddar ddatgelu’r coetiroedd coll a gwerthfawr hynny.
Sut gall AI helpu?
I hyfforddi’r model AI, rydym wedi defnyddio mapiau Arolwg Ordnans mor bell yn ôl â’r 1840au ac wedi labelu rhai safleoedd ar y mapiau â llaw gan ddefnyddio’r allwedd fel cyfeirnod. Gwnaethon ni ddefnyddio meddalwedd geo-ofodol ffynhonnell agored i dynnu ffiniau o amgylch symbolau i labelu gwahanol fathau o goetir. Roedd y labeli hyn yn cynnwys rhywogaethau coed fel Coed Conwydd, Perllannau a Helyg Gwiail.
Defnyddiwyd y mapiau hyn a’r labeli i ddysgu’r model AI i adnabod safleoedd tebyg ar rannau eraill y map gan ddefnyddio’r patrymau a symbolau (nodweddion) yr oedd wedi’u dysgu i’w hadnabod.
Mae ein fersiwn gyntaf o’r model wedi dangos canlyniadau addawol, fel y gwelwch yn Ffigur 2. Yn yr enghraifft hon, o ardal yn Llannerchymedd, Ynys Môn, roedd y model wedi lliwio’n wyrdd y rhannau yr oedd yn hyderus eu bod wedi’u mapio’n goetiroedd.
Ffigur 2: Coetir wedi’i liwio’n wyrdd gan AI

Mae AI yn gallu gweithio’n dda, ond nid yw bob amser yn gywir ac mae angen rhagor o waith i’w wella.
Mae’r AI wedi labelu ambell ran yn goetir, ond mewn gwirionedd mae symbolau’r map yn dangos eu bod yn chwareli, arfordir neu gyfuchliniau. Hefyd, ambell waith, byddai testun ar y map sy’n nodi coedwig neu allt, yn cael ei gamlabelu gan y model yn ystod yr hyfforddiant, fel darn o goetir. Trwy drugaredd, gellir cywiro’r gwallau hyn yng ngham nesaf y gwaith.
Ffigur 3. Tir wedi’i gamlabelu gan AI fel coetir

Beth nesaf?
Bydd cam nesaf ein gwaith yn canolbwyntio ar wella’r model AI trwy ychwanegu mwy o ddata hyfforddi sy’n cynnwys tir y mae’n ei gamlabelu’n aml a mireinio paramedrau’r model. Byddwn hefyd yn cymharu’r coetiroedd y mae’r model yn eu nodi â ffynonellau data eraill, megis Rhestr Coetiroedd Hynafol, i nodi’r mannau lle gallai coetiroedd fod wedi bodoli yn y gorffennol, ond nad ydynt yn bod mwyach, ac felly’n goetiroedd “coll”. Byddwn yn diweddaru’r gwaith hwn yn rheolaidd wrth iddo fynd yn ei flaen.