Yn gynharach yn yr haf, rhennais y newyddion bod gwasanaeth newydd StatsCymru ar ei ffordd. Heddiw, rwy’n falch o ddarparu rhagor o fanylion yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth inni baratoi i lansio’r fersiwn beta o’r platfform newydd.
Beth yw gwasanaeth Beta?
Bydd y gwasanaeth StatsCymru ar ei newydd wedd yn lansio fel beta cyhoeddus, sy’n golygu ei fod yn wasanaeth sy’n gwbl weithredol ac sy’n dal i gael ei fireinio. Byddwch yn gallu ei ddefnyddio i gael mynediad at ddata a’u harchwilio, ond byddwn yn parhau i’w wella ar sail eich adborth chi. Mae’r dull hwn yn caniatáu inni ddarparu gwerth yn gyflymach gan wneud yn siŵr hefyd fod y gwasanaeth yn esblygu i ddiwallu eich anghenion chi.
Bydd y fersiwn beta yn cynnwys yr holl nodweddion hanfodol sydd eu hangen arnoch i gael mynediad at ddata a’u gweld, a byddwn yn ychwanegu rhagor o nodweddion dros amser. Mae’n gam sylweddol ymlaen o’r gwasanaeth presennol, gan hwyluso profiad y defnyddiwr a chynnig galluoedd newydd mewn ymateb i’r ffordd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio â data heddiw.
Beth sy’n newydd?
O’r diwrnod cyntaf, bydd y gwasanaeth StatsCymru newydd yn cefnogi:
- Canfod setiau data drwy bori rhestr o gategorïau.
- Hidlo a didoli setiau data, gan olygu y bydd yn haws ichi ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnoch.
- Lawrlwytho setiau data mewn amrywiaeth o fformatau
- Mynediad API at ddata, gan alluogi ymholiadau awtomataidd a’i gwneud yn bosibl ichi integreiddio data â’ch systemau eich hun.
Rydym hefyd yn gweithio ar ffyrdd o wella ansawdd y data ar StatsCymru. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i newidynnau cyffredin a’u defnyddio (fel oedran, daearyddiaeth neu gyfnod amser), rydym yn adeiladu gwasanaeth cyfeirio yn rhan o StatsCymru. Bydd hyn yn golygu bod enwau a chodau cyson yn cael eu defnyddio drwy’r gwasanaeth cyfan. Byddwn yn dechrau gyda daearyddiaeth yn gyntaf, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio ar draws cymaint o setiau data. Dyma fydd un o’r nodweddion newydd cyntaf y byddwn yn eu cyflwyno fel rhan o’n map trywydd datblygu parhaus.
Ymhen amser, byddwch hefyd yn gallu addasu cynllun tablau data i weddu i’ch anghenion chi. Mae’r gwelliannau hyn wedi’u cynllunio i wneud StatsCymru hyd yn oed yn fwy hyblyg ac haws ei ddefnyddio.
Paratoi ar gyfer y lansiad
Mae ein hystadegwyr yn paratoi setiau data ar gyfer y gwasanaeth newydd ar hyn o bryd. Os bydd popeth yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd, byddwn yn lansio’r gwasanaeth beta tua diwedd mis Medi. O’r pwynt hwn, dim ond o’r gwasanaeth newydd y bydd yr holl setiau data newydd, wedi’u diweddaru ar gael. Byddwch yn dal i allu cael mynediad at hen wasanaeth StatsCymru tan fis Ionawr, ond ni fydd yn cynnal unrhyw ddata newydd ar ôl i’r gwasanaeth newydd lansio.
Byddwn yn mudo setiau data i’r gwasanaeth newydd yn raddol, gan flaenoriaethu’r rhai sy’n cael eu defnyddio fwyaf. Bydd setiau data â blaenoriaeth yn cynnwys mesurau allweddol mewn meysydd fel:
- Poblogaeth, demograffeg a nodweddion
- Ysgolion, disgyblion a gweithlu’r ysgol
- Perfformiad y GIG, fel amseroedd aros ysbytai ac amseroedd ymateb ambiwlansys
- Y farchnad lafur a’r economi
- Y dreth gyngor a threthi datganoledig.
Mae’r setiau data hyn yn cael eu defnyddio’n eang a byddant ar gael o’r dechrau i sicrhau parhad i ddefnyddwyr.
Beth na fydd ar gael ar y gwasanaeth newydd?
Ni fydd pob set ddata o’r gwasanaeth presennol yn cael ei throsglwyddo i’r gwasanaeth newydd. Dim ond os oes dal i fod llawer o ddefnydd ohonynt y bydd setiau data hŷn nad ydynt yn cael eu diweddaru mwyach yn cael eu hychwanegu at y gwasanaeth newydd.
Ni fydd y gwasanaeth newydd yn cynnal data mewn fformatau eraill fel taenlenni. Defnyddiwyd y fformat hwn o bryd i’w gilydd ar y fersiwn hŷn o StatsCymru pan nad oedd yn bosibl nac yn briodol i ddata gael eu cyhoeddi yn fformat nodweddiadol StatsCymru. Yn y dyfodol, byddwn yn defnyddio LLYW.CYMRU ar gyfer y math hwn o gyhoeddiad.
Rydym wedi bod yn ofalus wrth wneud y penderfyniadau hyn, gan adolygu patrymau defnydd. Os ydych yn dibynnu ar set ddata nad yw ar gael eto, rhowch wybod inni. Bydd eich adborth yn ein helpu i flaenoriaethu beth yn union i’w ychwanegu yn y dyfodol, neu gallwn sicrhau bod y data wedi’u harchifo ar gael ar gais.
Eich cefnogi drwy’r cyfnod pontio
Rydym yn gwybod y gall newid fod yn heriol, ac rydym wedi ymrwymo i’ch cefnogi drwy gydol y cyfnod pontio hwn. Byddwn yn parhau i roi diweddariadau yma, ac rydym yn croesawu eich adborth wrth inni fireinio’r gwasanaeth.
Mae hon yn garreg filltir bwysig yn y ffordd yr ydym yn cyhoeddi ac yn rhannu ystadegau yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth StatsCymru newydd wedi’i gynllunio i fod yn fwy ymatebol, yn haws ei ddefnyddio, ac mae’n cyd-fynd yn well â’r ffordd y mae pobl yn gweithio gyda data heddiw. Rydym wrth ein boddau o’i rannu â chi, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y byddwch yn ei ddefnyddio.
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â statscymru@llyw.cymru.