Postiad gan Tîm Arwain a Chydgysylltu ar Faterion Seiber, Llywodraeth Cymru
Ddwy flynedd yn ôl fe wnaethom lansio’r Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru, nodi ein gweledigaeth bod Cymru’n ffynnu drwy seiberwydnwch, talent ac arloesi.
Pedwar maes blaenoriaeth y Cynllun yw:
- Tyfu ein ecosystem seiber
- Adeiladu piblinell o dalent seiber
- Cryfhau ein gwydnwch
- Diogelu gwasanaethau cyhoeddus
Gallwch ddarganfod mwy am pam rydyn ni’n canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn yn ein blogiau blaenorol.
Gyda thirwedd seiber sy’n newid yn gyflym, gofynnon ni i’r Athro Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr yr Hwb Arloesi Seiber, weithio gyda ni i adolygu pa mor bell yr ydym wedi dod, y gweithgaredd sy’n digwydd o dan Gynllun Gweithredu Seiber Cymru ac i ddeall sut y gallem fesur a gwerthuso ein cynnydd yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys ymchwil ddesg a gweithdai rhanddeiliaid gyda’n cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant seiber yng Nghymru.
Mae’r Hwb Arloesi Seiber yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, felly er nad yw’r ymarfer hwn yn gwbl annibynnol, mae’n gipolwg defnyddiol a gynhelir gan weithwyr proffesiynol profiadol iawn sy’n gweithio yn yr ecosystem seiber yng Nghymru.
Themâu allweddol
Mae gwaith yr Athro Burnap yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd mewn sawl maes. Mae gweithgarwch helaeth yn digwydd i hybu gwydnwch seiber gwasanaethau cyhoeddus, megis lansio canolfan weithrediadau diogelwch cenedlaethol gyntaf y DU yn ogystal â rhaglenni sy’n cefnogi sgiliau a hyfforddiant ar gyfer gyrfa mewn seiber. Ochr yn ochr â hyn, mae ein Strategaeth Ryngwladol yn rhoi seiber fel sector twf â blaenoriaeth i Gymru.
Amlinellodd hefyd rai meysydd i ni eu hystyried yn y dyfodol. Y rhain yw:
- Cyfathrebu a Negeseuon – Mae angen i ni gadw ein stori am yr ecosystem seiber yng Nghymru yn glir ac yn seiliedig ar dystiolaeth fel bod gan bawb sy’n hyrwyddo’r ecosystem seiber yng Nghymru stori gyson i’w hadrodd. Bydd hyn yn helpu i arddangos y gwasanaethau seiber sydd ar gael yng Nghymru, pwysleisio ein cryfderau penodol a’n talent wych, a denu cwmnïau i adleoli eu gweithrediadau seiber i Gymru. Dylem hefyd fod yn glir ynglŷn â beth yw’r galw am wasanaethau seiber yng Nghymru o sectorau eraill.
- Aliniad y DU – Meithrin partneriaethau cryfach gyda chyrff y DU i annog cydweithio a sbarduno buddsoddiad yn y sector seiber yng Nghymru.
- Gyrfaoedd Seiber – Mapio llwybrau gyrfa i rolau seiber trwy ymgysylltu ag ysgolion a meithrin perthnasoedd â diwydiant. Dylai adolygiad o Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cwricwlwm Cymru ystyried y sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel ac yn effeithiol a ffurfio’r blociau adeiladu ar gyfer gyrfa mewn seiber yn y dyfodol.
- Seiberwydnwch – Gwella seiberamddiffynfeydd yn barhaus ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r sector preifat.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydym wedi bod yn gweithio ar draws y llywodraeth i ystyried y themâu hyn yn ofalus a’r camau y gallwn eu cymryd i gyflawni’r weledigaeth a nodir yng Nghynllun Gweithredu Seiber Cymru.
Rydym yn adnewyddu ein negeseuon ar y sector seiber yng Nghymru i wneud yn siŵr ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn glir.
Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i roi llais cryf i Gymru i gyfeiriad polisi seiber ac fel y gallwn elwa o fentrau ledled y DU. Rydym yn cydweithio â’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) i gefnogi busnesau a dinasyddion yng Nghymru ac rydym hefyd yn cryfhau cysylltiadau â Chyngor Seiberddiogelwch y DU.
Rydym wedi dechrau gweithio ar adolygu Fframwaith Cymhwysedd Digidol Cwricwlwm Cymru i sicrhau ei fod yn adlewyrchu datblygiadau mewn technoleg fodern. Bydd y fframwaith diwygiedig yn darparu egwyddorion cenedlaethol cliriach i gefnogi athrawon a dysgwyr i ddatblygu dysgu digidol effeithiol. Rydym yn gweithio gyda gwahanol rannau o’r diwydiant, gan gynnwys y diwydiant seiber, i ddeall y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
Yn ogystal, rydym yn archwilio’r ffordd orau o ddefnyddio’r cyllid hael o’n Rhaglen Sgiliau Hyblyg i greu cyfleoedd hyfforddi ystyrlon sy’n cefnogi gyrfaoedd llwyddiannus mewn seiber.
O ystyried natur sensitif seiberwydnwch, ni allwn rannu’r holl weithgaredd penodol sy’n digwydd. Fodd bynnag, mae’r gwaith yn parhau y tu ôl i’r llenni ar ein cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus a chynghori busnesau, gan sicrhau ein bod yn cymryd dull ‘amddiffyn fel un’.
Camau nesaf
Cadwch lygad am ein diweddariad nesaf – byddwn yn rhannu mwy o fanylion mewn blog yn y dyfodol wrth i ni barhau i adolygu a datblygu’r gweithgareddau a gyflwynir o dan Gynllun Gweithredu Seiber Cymru. Ein nod yw sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol, gwydn ac mor ddiogel â phosibl mewn byd seiber sy’n symud yn gyflym.